Cynhelir y seremoni am 11am yng Nghylch yr Orsedd ar faes yr Eisteddfod ble y caiff cyfanswm o 37 aelod newydd eu derbyn. Mae Robin McBryde yn cael ei anrhydeddu fel y Gogleddwr a enillodd y nifer mwyaf o gapiau yn hanes rygbi Cymru ac mae’n ymuno â rhestr ddethol o chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru gan gynnwys Gareth Edwards, Gerald Davies, Ray Gravell ac Ieuan Evans a gafodd eu hurddo’n aelodau o’r Orsedd.
Meddai Robin, “Rwyf wrth fy modd. Dyma’r anrhydedd mwyaf y gall Cymro ei dderbyn. Rwyf yn dilyn ôl traed rhai o enwau mawr byd rygbi trwy gael fy ngwneud yn aelod o’r Orsedd.
“Mae’r iaith Gymraeg yn bwysig iawn imi. Y Gymraeg yw iaith gyntaf fy nau blentyn, rydyn ni’n siarad Cymraeg adref ac yn byw mewn cymuned Gymraeg ei hiaith yng Nghwm Gwendraeth. Rydw i’n defnyddio’r Gymraeg pryd bynnag y gallaf – yn fy ngwaith gyda chwaraewyr a hyfforddwyr yn Undeb Rygbi Cymru – ac yn fy mywyd preifat.
“Mae’n bwysig fod y Gymraeg yn parhau’n iaith fyw a bod plant ifanc yn ei gweld felly gan ei bod yn rhan mor bwysig o’n treftadaeth a’n hanes balch, ac os na ddefnyddiwn ni i mohoni, byddwn yn ei cholli fel y collwyd llawer o ieithoedd lleiafrifol eraill.”
Ar hyn o bryd, mae Robin McBryde yn gweithio gyda chwaraewyr ifanc dethol Cymru yn nhrefn academi ranbarthol Undeb Rygbi Cymru a bu ar daith i’r Ariannin gyda Chymru’n ddiweddar fel hyfforddwr y blaenwyr.