Jump to main content
Lake i ennill ei 50fed cap yn yr ornest allweddol yn erbyn Sbaen

Hanner canfed cap Kerin Lake.

Lake i ennill ei 50fed cap yn yr ornest allweddol yn erbyn Sbaen

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham wedi enwi ei garfan i wynebu Sbaen yn y gêm ail-gyfle allweddol yn erbyn Sbaen, fydd yn digwydd ar Barc yr Arfau ddydd Sadwrn y 26ain o Fehefin (5.35pm)

Share this page:

Hannah Jones fydd yn arwain y tîm sy’n gymysgedd o addewid ifanc a phrofiad – sy’n cynnwys y canolwr Lake fydd yn cynrychioli ei gwlad am yr 50fed tro.

Fe wnaeth Lake, sydd bellach yn 34 oed, ei hymddangosiad cyntaf dros Gymru fel eilydd yn erbyn Yr Alban yn 2011.

Lleucu George a Keira Bevan sydd wedi eu dewis yn haneri gyda Jenny Hesketh yn gefnwr a Carys Cox a Lisa Neumann ar yr esgyll.

Gwenllian Pyrs, Carys Phillips a Sisilia Tuipulotu fydd yn y rheng flaen gydag Abbie Fleming a Georgia Evans yn yr ail reng.

Yn ôl ei harfer bydd yr îs-gapten Alex Callender yn flaen asgellwr agored gydag Alisha Butchers a’r wythwr Bethan Lewis yn cwblhau’r drindod yn y rheng ôl.

Mae Sbaen a Chymru eisoes yn sicr o’u lle yng nghystadleuaeth y WXV ond bydd y buddugwyr ddydd Sadwrn yn cystadlu yn y WXV2 yn Ne Affrica, tra taith i Dubai yn y WXV3 fydd tynged collwyr yr ornest ar Barc yr Arfau.

Yn eu gêm ddiwethaf – fe enillodd y Cymry o 22-20 yn erbyn Yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad – a hynny o flaen record o dorf o 10,592 yn Stadiwm Principality fis Ebrill.

Sbaen enillodd yr ornest ddiwethaf rhwng y ddwy wlad o 29-5 yn ôl ym mis Tachwedd 2019 ac yn eu gêm gystadleuol ddiwethaf – fe guron nhw Sweden o 53-0 ym Mhencampwraieth Ewrop.

Bydd S4C yn dangos gêm ddydd Sadwrn yn fyw.

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “ Ry’n ni’n gwybod fod yn rhaid i ni ennill er mwyn chwarae yn y WXV2 yn Ne Affrica fis Medi a sicrhau’n lle yng Nghwpan y Byd 2025 – fydd yn cael ei gynnal yn Lloegr wrth gwrs.

“Ry’n ni wedi bod yn canolbwyntio ar y manylion yr wythnos hon er mwyn sicrhau ein bod yn barod i berfformio. Mae’n rhaid i ni chwarae gyda thempo gan ein bod yn gwybod fod Sbaen am wneud popeth o fewn eu gallu i’n curo ni.

“Mae’n rhaid i ni adeiladu ar y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal – ac mae na gysondeb yn y tîm ‘rwyf wedi ei ddewis. Mae Canada wedi paratoi’n drylwyr ar gyfer yr ornest hon – gyda dwy gêm yn erbyn tîm A Canada – ac fe fyddan nhw’n cynnig tipyn o her i ni.”

“Mae Kerin Lake yn gymeriad poblogaidd ac uchel ei pharch yn y garfan ac mae’n braf ei gweld hi’n ennill ei 50fed cap. Bydd pob aelod o’r garfan yn gwneud eu gorau glas i sicrhau ein bod yn dathlu ei diwrnod mawr ar y llwyfan rhyngwladol gyda buddugoliaeth.”

Carfan Cymru i wynebu Sbaen:

Jenny Hesketh, Lisa Neumann, Hannah Jones (capten), Kerin Lake, Carys Cox, Lleucu George, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Sisilia Tuipulotu, Abbie Fleming, Georgia Evans, Alisha Butchers, Alex Callender (îs-gapten), Bethan Lewis.

Eilyddion: Molly Reardon, Abbey Constable, Donna Rose, Kate Williams, Gwennan Hopkins, Sian Jones, Robyn Wilkins, Courtney Keight.

Partners and Suppliers

Principal Partners
Principality
Admiral
Lake i ennill ei 50fed cap yn yr ornest allweddol yn erbyn Sbaen
Vodafone
Go.Compare
Official Broadcast Partners
S4C
BBC Cymru/Wales
Official Partners
Guinness
Lake i ennill ei 50fed cap yn yr ornest allweddol yn erbyn Sbaen
Lake i ennill ei 50fed cap yn yr ornest allweddol yn erbyn Sbaen
Heineken
Lake i ennill ei 50fed cap yn yr ornest allweddol yn erbyn Sbaen
The Indigo Group
Lake i ennill ei 50fed cap yn yr ornest allweddol yn erbyn Sbaen
Official Suppliers
Gilbert
Lake i ennill ei 50fed cap yn yr ornest allweddol yn erbyn Sbaen
Rhino Rugby
Sportseen
Lake i ennill ei 50fed cap yn yr ornest allweddol yn erbyn Sbaen
Lake i ennill ei 50fed cap yn yr ornest allweddol yn erbyn Sbaen
Princes Gate
Lake i ennill ei 50fed cap yn yr ornest allweddol yn erbyn Sbaen
Amber
Opro
Total Energies
Seat Unique
Nocco
Castell Howell
Glamorgan Brewing
Ted Hopkins
Hawes & Curtis
Lake i ennill ei 50fed cap yn yr ornest allweddol yn erbyn Sbaen