Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn, wedi enwi’r tîm i wynebu De Affrica yng ngêm agoriadol Cyfres WXV Vodafone Cymru ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, ddydd Gwener, 18 Medi (7.15pm).
Bydd y blaen-asgellwyr Alex Callender a Kate Williams yn gyd-gapteiniaid ar y tîm ar gyfer y gyntaf o bedair gêm Brawf yng Nghyfres WXV Vodafone Cymru, fydd yn cael eu darlledu’n fyw ar BBC One Wales.
Bydd yr asgellwr Amy Williams, sgoriodd ddau gais yn y fuddugoliaeth dros dîm profiadol y Barbariaid mewn gêm ryngwladol heb gapiau yn Twickenham, yn ennill ei chap cyntaf nos Wener ac mae’n debygol y bydd dwy arall yn efelychu’r gamp honno hefyd yn ystod yr ornest ar Barc yr Arfau.
Mae disgwyl i’r bachwr Shanelle Williams a’r prop Elan Jones gael eu galw o’r fainc i ennill eu capiau cyntaf nhw yn erbyn y Springboks.
Mae’r tair eisoes wedi cynrychioli tîm dan 21 Cymru ac maen nhw’n chwarae i Brython Thunder yn yr Her Geltaidd.
Williams fydd y 10fed chwaraewr i ennill ei chap cyntaf dros Gymru ers i Sean Lynn gymryd yr awenau yn 2025.
Mae’r wythwr Bryonie King, gafodd ei dewis yn Seren y Gêm yn erbyn y Barbariaid, yn ymuno â Callender a Williams yn rheng ôl Cymru.
Branwen Metcalfe a Georgia Evans fydd yn yr ail reng, gyda’r prop Maisie Davies, y bachwr Kelsey Jones a’r prop Sisilia Tuipulotu wedi eu dewis yn y rheng flaen.
Seren Lockwood fydd y mewnwr a bydd y profiadol Keira Bevan yn dechrau’n safle maswr am y tro cyntaf dros ei gwlad.
Bydd Courtney Keight yn y canol gyda Freya Bell, sy’n dechrau ei gêm gyntaf dros Gymru. Bell fydd yn gyfrifol am y cicio gosod yn erbyn De Affrica.
Bydd Seren Singleton, sy’n dychwelyd i’r tîm, ar yr asgell dde gyda Williams yn dechrau ar yr asgell chwith. Lisa Neumann sydd wedi ei dewis yn safle’r cefnwr.
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae’r 23 chwaraewr sydd wedi’u dewis ar gyfer ein gêm gartref gyntaf yn y WXV yn erbyn De Affrica wedi cael eu dewis ar sail eu perfformiadau wrth i ni ymarfer yn galed ar gyfer y gyfres yma.
“Mae’r holl garfan wedi gwthio ei gilydd i’r eithaf dros yr wythnosau diwethaf – ac ry’n ni wedi codi safon ein chwarae a’n gallu i fod yn fwy corfforol o ganlyniad i hynny.
“Roedd y broses o ddewis y tîm ar gyfer nos Wener yn anodd iawn – felly fe benderfynais roi’r cyfle i’r rhai oedd wedi ymarfer yn wirioneddol ardderchog ers i ni ddod yn ôl at ein gilydd.
“Mae pob un o’r chwaraewyr yn gwybod yn iawn ei bod yn fraint gwisgo’r crys coch ac mae gan bob un o’r 23 y cyfle i wneud eu hunain, eu teuluoedd a’r genedl yn falch nos Wener.
“Ry’n ni’n gwybod y bydd hon yn gêm brawf galed iawn ac mae pob aelod o’r garfan yn ymwybodol o’r cyfrifoldeb sydd arnyn nhw wrth gynrychioli Cymru. Mae’r fainc yn gryf ac mae pob un o’r chwaraewyr yn deall yn iawn yr hyn ry’n ni’n ei ddisgwyl ganddyn nhw yn erbyn y Springboks.
“Mae De Affrica yn hoff o elfen gorfforol y gêm a bydd yn rhaid i ni gystadlu â nhw yn yr agwedd honno o’r chwarae. Ry’n ni’n gwybod yn iawn beth i’w ddisgwyl ganddyn nhw.
“Bydd Keira Bevan yn dechrau fel maswr am y tro cyntaf. Mae hi wedi ymarfer yn dda y safle hwnnw, ac mae ganddi fôr o brofiad mewn gemau prawf.
“Gwnaeth Amy Williams argraff fawr yn y fuddugoliaeth yn erbyn y Barbariaid ac mae hi wedi gweithio’n galed ym mhob sesiwn ymarfer ers hynny. Mae hi’n llwyr haeddu’r cyfle yma i ennill ei chap cyntaf dros Gymru.”
Tîm Cymru (v De Affrica)
15. Lisa Neumann (Caerlŷr) – 52 cap, 35 pwynt
14.Seren Singleton (Brython Thunder) – 4 cap
13.Courtney Keight (Sale) – 33 chap, 5 pwynt
12.Freya Bell (Gwalia Lightning) – 2 gap
11.Amy Williams (Brython Thunder) – heb gap eto
10.Keira Bevan (Bryste) – 83 chap, 162 pwynt
9.Seren Lockwood (Brython Thunder) – 9 cap, 5 pwynt;
1.Maisie Davies (Caerwysg) – 17 cap
2.Kelsey Jones (Sale) – 57 cap, 35 pwynt
3.Sisilia Tuipulotu (Harlequins) – 34 cap, 40 pwynt
4.Branwen Metcalfe (Brython Thunder) – 6 chap
5.Georgia Evans (Saraseniaid) – 48 cap, 15 pwynt
6.Kate Williams (Hartpury-Caerloyw, cyd-gapten) – 26 chap, 25 pwynt
7.Alex Callender (Harlequins, cyd-gapten) – 47 cap, 45 pwynt
8.Bryonie King (Gwalia Lightning) – 17 cap
Eilyddion
16.Shanelle Williams (Brython Thunder) – heb gap eto
17. Gwenllian Pyrs (Sale) – 56 chap, 20 pwynt
18. Elan Jones (Brython Thunder) – heb gap eto
19. Gwen Crabb (Brython Thunder) – 42 cap, 15 pwynt
20. Jorja Aiono (Hartpury-Caerloyw) – 5 cap
21. Alisha Joyce (Brython Thunder) – 57 cap, 35 pwynt
22. Lleucu George (Hartpury-Caerloyw) – 40 cap, 15 pwynt
23. Jenna De Vera (Brython Thunder) – 2 gap<
