News

Cwpan Sean Lynn dal yn hanner llawn

Wales Women head coach Sean Lynn
Mae Sean Lynn wedi gweld gwir welliant ym mherfformiadau ei garfan

Er i fenywod Cymru golli o 26-24 yn erbyn yr Unol Daleithiau ddydd Sadwrn, mae’r Prif Hyfforddwr Sean Lynn wedi ei blesio gan nifer o elfennau cadarnhaol perfformiad ei dîm ar Barc yr Arfau yn erbyn chweched detholion y byd.

Fe ddechreuodd y Cymry’r gêm yn llawn hyder yn dilyn eu buddugoliaeth arbennig yn erbyn De Affrica wythnos ynghynt, pan sgorion nhw wyth cais, ond methwyd ag ailadrodd y llwyddiant hwnnw brynhawn Sadwrn.

Er bod Cymru 14 pwynt ar ei hôl hi ar un cyfnod yn ystod yr hanner cyntaf, fe ddangosodd y Crysau Cochion wir hunan gred wrth geisio cipio’r fuddugoliaeth yn hwyr yn y gêm – ond llwyddodd yr Eryrod i ddal gafael ar eu mantais fain tan y chwiban olaf.

Er y siom o golli cyfle gwirioneddol i guro’r Unol Daleithiau, mae Sean Lynn yn edrych ymlaen yn fawr yn barod at ddwy gêm olaf ei dîm yn y WXV eleni, pan fyddan nhw’n teithio i herio Japan mewn dwy gêm brawf fis nesaf:

“Roedd ymdrech y merched yn amlwg i bawb ac yn y gorffennol, pe bydden ni 21–7 ar ei hôl hi, dwi’n siwr y byddai pen ambell un wedi cwympo.

“Mae’r ffaith na wnaeth hynny ddigwydd yn rhywbeth i’w ganmol yn fawr.

“I ddweud y gwir roedd y merched yn credu y dylen ni fod wedi ennill y gêm ac roedden nhw’n hynod o siomedig na lwyddon ni i wneud hynny, sy’n dangos faint y mae’r garfan yma wedi tyfu mewn cyfnod cymharol fyr.”

Roedd Sean Lynn wedi gobeithio y byddai ei dîm wedi sicrhau trydedd buddugoliaeth yn olynol ar ôl y fuddugoliaeth (ddi-gap) yn erbyn y Barbariaid dros yr haf a’r llwyddiant yn erbyn y Springboks, ond nid felly oedd hi fod ddydd Sadwrn o flaen torf swmpus Parc yr Arfau:

“Pan ddaethon ni at ein gilydd fel carfan ddechrau mis Gorffennaf, fe ddywedon ni ein bod ni am fod yn dîm cystadleuol am yr 80 munud cyfan ac ry’n ni wedi dangos hynny’n ystod ein gemau diweddar.

“Mae’n drueni na lwyddon ni i gael cic gosb yn yr eiliadau olaf – ond yn y pendraw fe gawson ni gyfleoedd i ennill y gêm cyn y penderfyniad hwnnw.

“Mae’n rhaid i ni fod yn onest am ein perfformiad ni’n hunain a’r gwir yw y gwnaethon ni ormod o gamgymeriadau unigol yn ystod y gêm. Mae’r chwaarewyr yn deall ac yn cydnabod hynny – sy’n rhywbeth iach i’w weld a’i glywed.

“Fe gollon ni’n gafael ar y bêl yn rhy aml, gan gynnig meddiant gwerthfawr i’r Unol Daleithiau a cholli cyfleoedd ein hunain i chwarae’n nwfn yn eu tir nhw a’u gosod nhw o dan bwysau.

“Mae’n beth da bod pawb o fewn y garfan yn gwybod bod angen i ni wella ymhellach cyn teithio i Japan fis nesaf. Wedi dweud hynny, mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr at y daith honno fel y gallwn ni ddangos mwy o welliant yn ein perfformiadau.”

Bydd gan Gymru wythnos o egwyl cyn dychwelyd i ymarfer ar gyfer y daith i Japan. Bydd y gemau prawf yn cael eu cynnal ar 24 a 31 Hydref.

Related Topics