News

Elias i gyrraedd y clwb dau gant dros y Scarlets

Ryan Elias ym merw'r frwydr yn erbyn y Lions

Bydd bachwr Cymru, Ryan Elias, yn cynrychioli’r Scarlets am y 200fed tro wrth i’w ranbarth wynebu Rygbi Caerdydd ar benwythnos agoriadol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn Llanelli yfory (26 Medi – 7.45pm).

Elias fydd y pumed chwaraewr i gyrraedd y garreg filltir nodedig honno wrth iddo ddilyn ôl troed y prop Phil John (296), y mewnwr Gareth Davies (284), ei gyd-fachwr Ken Owens (274), y blaenasgellwr Aaron Shingler (226) a’r canolwr Jonathan Davies (209).

Dywedodd Ryan Elias: “Rydw i’n hynod o falch o gyrraedd y garreg filltir yma. Ro’n i wrth fy modd cynrychioli’r Scarlets am y tro cyntaf – ac felly bydd gwneud hynny am y 200fed tro yn rhywbeth na fydden wedi gallu breuddwydio amdano i fod yn onest.

“Er fy mod wedi diodddef tipyn gydag anafiadau, dwi yn credu fy mod wedi cadw safon fy mherfformiadau ac mae hynny wedi fy ngalluogi i gadw’r crys am gyfnod eithaf hir.

“Rydw i’n cofio bod yn fachgen ifanc a gweld rhai o’m ffrindiau hŷn yn cyrraedd y garreg filltir – Aaron Shingler, Gareth Davies, Ken Owens a Foxy [Jonathan Davies]. Rydw i’n cofio meddwl pa mor anhygoel oedd hynny.

“Bachgen o Gaerfyrddin ydw i a ges i fy magu yn gwylio’r Scarlets, felly bydd cerdded mas i Barc y Scarlets ddydd Sadwrn yn brofiad arbennig iawn i fi a fy nheulu.

“Er fy mod i’n 31 erbyn hyn – dwi yn teimlo mai nawr dwi ar fy ngorau ac mae hynny’n deimlad cyffrous iawn.”

Bu’n rhaid i Elias fod yn amyneddgar ar ddechrau ei yrfa, gan fod dau fachwr rhyngwladol Cymru, Owens ac Emyr Phillips, yn cystadlu am y crys Rhif 2 ar Barc y Scarlets hefyd:

“Wrth edrych yn ôl ar fy nyddiau cynnar, er mor wych oedd Ken, ro’n i’n rhwystredig nad o’n i’n cael llawer o gyfleoedd.

“Bydden i’n cael 10 neu 15 munud oddi ar y fainc o do’n i ddim yn teimlo bod hynny’n ddigon i mi ddatblygu fel chwaraewr. Erbyn hyn efallai bod ymladd am y crys ac aros am fy nghyfle wedi bod o fudd a help i mi.

“Dwi’n teimlo’n dda ar hyn o bryd ac yn edrych ymlaen yn fawr at nos Sadwrn a’r tymor newydd hefyd.”

Related Topics