News

Stadiwm Cenedlaethol Cymru i gynnal Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA 2029

National Stadium of Wales, Cardiff
Stadiwm Cenedlaethol Cymru

Mae Undeb Rygbi Cymru a Chyngor Caerdydd wedi croesawu’r newyddion heddiw y bydd Caerdydd yn cynnal Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA 2029.

Cadarnhaodd UEFA heddiw fod Caerdydd a Stadiwm Principality wedi’u dewis i gynnal y digwyddiad, gan gydnabod prifddinas Cymru a Stadiwm Cenedlaethol Cymru fel lleoliad ar gyfer un o gemau mwyaf allweddol y byd pêl-droed. Roedd hyn yn rhan o gais ar y cyd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd ac Undeb Rygbi Cymru (Stadiwm Cenedlaethol Cymru).

Mae’r penderfyniad yn bluen arall yng nghap y ddinas fel lleoliad o safon fyd-eang ar gyfer cynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol, wrth i Gaerdydd gynnal uchafbwynt prif gystadleuaeth bêl-droed menywod y clybiau yn Ewrop.

Mae gan Gymru hanes balch o gynnal achlysuron chwaraeon ac adloniant mawr, sy’n cynnwys 84 o gemau pêl-droed dros gyfnod o chwarter canrif. Ymhlith yr uchafbwyntiau diweddar, cynhaliwyd Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn 2017 a Tharian Gymunedol Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, yn gynharach eleni.

Yn ogystal, mae’r stadiwm wedi cynnal gornestau bocsio mawreddog am deitlau pwysau trwm WBO y byd, Cwpan Rygbi’r Byd, rygbi rhyngwladol, digwyddiad WWE mawr cyntaf yn y Deyrnas Unedig ers 30 mlynedd, ‘Clash at the Castle’, yn ogystal â chynnig llwyfan i rai o gerddorion mwyaf y byd, gan gynnwys Oasis a Taylor Swift a’r Rolling Stones.

Bydd Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA 2029 yn cryfhau safle Cymru ymhellach ar lwyfan chwaraeon y byd, gan dynnu sylw ar yr un pryd at dwf a llwyddiant chwaraeon merched a menywod.

“Mae hon yn foment hynod arwyddocaol i chwaraeon merched a menywod yng Nghymru ac ar draws Ewrop,” meddai Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney.

“Rydym wrth ein bodd bod ein stadiwm wedi’i ddewis i gynnal Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA 2029, gan ddod ag un o achlysuron mwyaf pêl-droed y byd i Gaerdydd ac i Gymru.

“Mae twf cyflym chwaraeon merched a menywod yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau newydd o chwaraewyr a chefnogwyr, ac mae cynnal digwyddiad o’r maint hwn yn Stadiwm Cenedlaethol Cymru yn ddatganiad grymus am bwysigrwydd a dyfodol y gêm fenywaidd.

“Hoffwn ar ran Undeb Rygbi Cymru, ddiolch i UEFA am gynnig y cyfle anhygoel hwn i ni, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â’n partneriaid yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd i gynnal rownd derfynol fythgofiadwy i’r chwaraewyr, y cefnogwyr a’r holl gefnogwyr fydd yn ymweld â Chaerdydd o bedwar ban y byd.”

Dywedodd Prif Swyddog Cyllid a Gweithredoedd Undeb Rygbi Cymru, Gavin Marshall: “Mae hwn yn newyddion anhygoel i’n stadiwm ac i’n prifddinas.

“Mae gennym hanes anrhydeddus o gynnal rowndiau terfynol a gemau rhyngwladol pêl-droed yn ein stadiwm – gan gynnwys Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn 2017 a Tharian Gymunedol yr ‘FA’ ym mis Awst. Mae EURO 2028 yn cadarnhau ymhellach ein gallu i gynnal y digwyddiadau pêl-droed mwyaf ar y llwyfan mwyaf, ac mae Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA y flwyddyn ganlynol yn gyfle gwych arall i ni adeiladu ar yr etifeddiaeth honno wrth hyrwyddo Caerdydd a Chymru i gynulleidfa fyd-eang.

“Rydym yn gwybod o brofiad fod digwyddiadau rhyngwladol mawr yn cael effaith economaidd sylweddol, gan ddenu ymwelwyr, cefnogi busnesau lleol a chreu cyfleoedd ar draws y sectorau twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau. Mae effaith cynnal digwyddiadau mawr fel hyn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Gaerdydd ac yn cael dylanwad cadarnhaol ar fusnesau ledled Cymru.

“Rydym yn ymlaen yn fawr at groesawu clybiau gorau Ewrop a’u cefnogwyr i achlysur eithriadol arall yn 2029.”

Ar ran Cyngor Caerdydd, dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:

“Mae hyn yn newyddion gwych i Gaerdydd ac yn gyfle arbennig arall i ni ddangos ein prifddinas i’r byd.

“Mae Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA yn achlysur enfawr, ac mae cael ein dewis i’w chynnal yn brawf pellach o enw da Caerdydd am gynnal digwyddiadau chwaraeon o’r safon uchaf.

“Rydym eisoes wedi gweld y manteision a’r budd ddaeth yn sgil cynnal Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Dynion UEFA yn 2017. Daeth ag ymwelwyr i Gaerdydd o bob cwr o Ewrop, rhoddodd hwb i’r economi leol a dod â Chaerdydd i sylw’r byd. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yn 2029.

“Mae’r gêm i fenywod yn tyfu ar gyflymder anhygoel, yn rhyngwladol ac yma yng Nghaerdydd, gyda mwy o chwaraewyr, cefnogwyr a chyfleoedd nag erioed o’r blaen. Bydd cynnal y rownd derfynol hon yn ein helpu i ddathlu’r cynnydd hwnnw, ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ferched a menywod yn ogystal â dod ag achlysur chwaraeon bythgofiadwy arall i’n dinas.”

At ddibenion y digwyddiad unigol yma, bydd Stadiwm Principality yn cael ei adnabod fel Stadiwm Cenedlaethol Cymru.

Related Topics