Gyda thristwch mawr y mae Clwb Rygbi Caernarfon ac RGC yn cyhoeddi marwolaeth un o’n chwaraewyr, Jack Cameron Wynne Davies yn 24 oed yn unig.
Ar ôl ymuno â Chlwb Rygbi Caernarfon yn 12 oed fel athletwr addawol iawn, datblygodd mewn amrywiaeth o dimau a llwyddodd i fod yn rhan o lwybr RGC, cyn symud i lawr i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd i astudio Addysg Gorfforol a Chwaraeon am dair blynedd. Dychwelodd i CR Gaernarfon ag RGC, gan ailymuno â’r sgwadiau hŷn yn 2023.
Roedd yn rhan allweddol o deulu RGC a Chlwb Rygbi Caernarfon ac mae ei farwolaeth yn golled ddinistriol i bawb sy’n gysylltiedig â’r ddau glwb.

Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda’i deulu, ei ffrindiau, ei gyd-chwaraewyr a phawb oedd yn ei adnabod yn ystod yr amser anodd hwn.
