Neidio i'r prif gynnwys
Bradbury yn arwain tîm dan 18 Cymru yn y gêm agoriadol

Bradbury yn arwain tîm dan 18 Cymru yn y gêm agoriadol

Y chwaraewr ail reng Callum Bradbury fydd capten tîm Cymru yn y gêm agoriadol yn erbyn tîm Ysgolion De Affrica yfory yn y Gyfres Ryngwladol flynyddol i dimau dan 19, a fydd yn cynnwys timau o Loegr, Ffrainc, yr Eidal a De Affrica.

Rhannu:

Yn dilyn y gêm yn Stadiwm City Park yn Cape Town yfory, bydd tîm dan 18 Cymru yn chwarae yn erbyn yr Eidal yn Bishops College ddydd Mawrth cyn herio tîm A Ysgolion De Affrica yn Paarl Boys High School ddydd Sadwrn nesaf.
Cyrhaeddodd aelodau carfan Cymru Dde Affrica ddydd Mawrth, ac maent wedi bod yn Stellenbosch yn paratoi ar gyfer eu gêm gyntaf yn y gyfres.

Mae’r paratoadau wedi cynnwys sesiwn hyfforddi ar y cyd â thîm dan 18 Lloegr, ac erbyn hyn mae aelodau’r garfan yn edrych ymlaen at eu gêm gyntaf.

Mae gan Gymru draddodiad o fod â thimau cryf ar bob lefel oedran o fewn y system ysgolion, ac mae’r chwaraewyr i gyd yn hollol ymwybodol o’r her fawr sydd o’u blaen ac yn edrych ymlaen yn eiddgar ati.

Mae’r gyfres yn rhan bwysig o’r broses bontio rhwng rygbi dan 18 a rygbi dan 20, a bydd llawer o’r chwaraewyr yn cystadlu am le yn y rhaglen dan 20 y flwyddyn nesaf.

Carfan dan 18 Cymru i herio Ysgolion De Affrica yn Stadiwm City Park ddydd Gwener 12 Awst (y gic gyntaf am 3pm – amser yn y DU)
Will Talbot-Davies (Dreigiau / Ysgol Solihull), Corey Baldwin (Scarlets / Coleg Llanymddyfri), Cameron Lewis (Wattstown / Gleision Caerdydd / Coleg y Cymoedd), Ben Thomas (St Peter’s / Gleision Caerdydd / Coleg Caerdydd a’r Fro), Jared Rosser (Glynebwy / Dreigiau / Ysgol Uwchradd Casnewydd), Phil Jones (Abertawe / Gweilch / Tre-g?yr), Dane Blacker (Pontypridd / Gleision Caerdydd / Coleg y Cymoedd); Rhys Carre (Caerdydd / Gleision Caerdydd / Ysgol Gyfun y Bont-faen), Corrie Tarrant (Pontypridd / Gleision Caerdydd / Coleg y Cymoedd), Christian Coleman (Garndiffaith / Dreigiau / Ysgol Uwchradd Casnewydd), James Ratti (Aberafan / Gweilch / Coleg G?yr), Callum Bradbury (Beddau / Gleision Caerdydd / Coleg y Cymoedd – Capten), James Botham (Gleision Caerdydd / Ysgol Sedbergh), Will Jones (Pen-clawdd / Gweilch / Coleg G?yr), Morgan Morris (Caerloyw / Coleg Hartpury)

Eilyddion: Tom Mably (St Peter’s / Gleision Caerdydd / Coleg y Cymoedd), Connor Lewis (Beddau / Gleision Caerdydd / Coleg y Cymoedd), Harri Dobbs (St Peter’s / Gleision Caerdydd / Ysgol Gyfun y Bont-faen), Jordan Liney (Dynfant / Gweilch / Coleg Hartpury), William Griffiths (Tre-g?yr / Gweilch / Tre-g?yr), Joe Thomas (Penallta / Dreigiau / Coleg Gwent Cross Keys), Owain Leonard (Y Fenni / Dreigiau / Ysgol Gyfun Gwynllyw), Ben Jones (Treharris / Gleision Caerdydd / Coleg y Cymoedd), Ryan Conbeer (Academi’r Scarlets / Scarlets / Coleg Sir Gâr).

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Bradbury yn arwain tîm dan 18 Cymru yn y gêm agoriadol
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Bradbury yn arwain tîm dan 18 Cymru yn y gêm agoriadol
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Bradbury yn arwain tîm dan 18 Cymru yn y gêm agoriadol
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Bradbury yn arwain tîm dan 18 Cymru yn y gêm agoriadol