Cymru sydd wedi ennill chwech o’r saith gêm ddiwethaf yn erbyn Les Bleus – yr unig golled oedd y gêm a chwaraewyd yn Stade de France yn 2017. Roedd y fuddugoliaeth gyntaf o’r saith yn 2012, sef y flwyddyn y llwyddodd Cymru i gipio’r Gamp Lawn.
Bydd Gatland yn gobeithio gweld y llwyddiant hwnnw’n parhau wrth iddo ystyried pa chwaraewyr ddylai gael eu hanfon i faes y frwydr. Mae Cymru newydd ennill naw gêm yn olynol, ac un o nodweddion amlycaf y tîm yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yw’r ffaith bod chwaraewyr ifanc wedi dechrau herio’r chwaraewyr elît mwy profiadol.
Mae hynny’n debygol o barhau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
“Gallai chwaraewyr newydd fod yn dechrau mewn ambell safle os bydd un neu ddau o’r rhai ifanc yn cyflawni eu potensial,” meddai Gatland.
“Mae angen i un neu ddau ohonynt sylweddoli bod ganddynt y gallu i fod yn ddewis cyntaf ar gyfer eu safle. Dydw i ddim wedi dewis y 15 cyntaf yn fy meddwl eto, ond rwy’n ymwybodol bod cystadleuaeth wirioneddol yn y garfan am le yn y tîm, a’n bod ni mewn sefyllfa dda’n feddyliol.”