Mae Sam O’Connor (Dorset), Theo Bevaqua (Sussex), Harry Breeze, Ed Dunford (y ddau o Surrey), Carwyn Tuipulotu, (Glannau Merswy), Tom Mathews (Hampshire), Louis Rees-Zammit (Swydd Gaerloyw), Ioan Lloyd (Bryste) a Daniel John (Gwlad yr Haf) i gyd wedi’u cynnwys yn y garfan 26 dyn a welodd dîm Cymru yn colli o 38 i 20 yn y gêm agoriadol yn erbyn Lloegr yn Hartpury ddydd Sadwrn.
Collodd Rees-Zammit y gêm oherwydd ei fod wrthi’n creu ei ddarn bach ei hun o hanes, gan mai ef bellach yw’r chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae dros Gaerloyw mewn gêm gynghrair, ar ôl iddo ddod i’r cae fel eilydd yn yr ail hanner yn erbyn Caerfaddon yn Uwch Gynghrair Gallagher.
Meddai prif hyfforddwr tîm dan 18 Cymru, Chris Horsman: “Mae’r Cymry alltud wedi bod yn wych ac mae hwn yn gyfle da iddynt greu argraff yn rhan o lwybr Undeb Rygbi Cymru. Mae’r rhaglen Cymry Alltud yn rhan bwysig iawn o’n proses ar gyfer adnabod chwaraewyr a’u monitro, a’n gwaith o gynllunio olyniaeth yn genedlaethol.”
Meddai Gareth Davies, Swyddog Cenedlaethol Cymry Alltud Undeb Rygbi Cymru: “Roedd un deg naw o Gymry alltud yn rhan o garfan hyfforddi Cymru dan 18 yn gynharach yn y tymor, ac mae’n wych bod cynifer ohonynt bellach wedi’u dewis ar gyfer y twrnamaint hwn.
“Mae’r berthynas ardderchog sydd gennym â rhanbarthau Cymru hefyd yn golygu bod yna lwybr credadwy sy’n arwain at rygbi proffesiynol hefyd. Dechrau’r daith yn unig yw twrnamaint y Chwe Gwlad dan 18, a fydd yn rhoi cyfle i’r chwaraewyr hyn symud yn eu blaen yma yng Nghymru.
“Erbyn hyn mae bron 1,700 o chwaraewyr ifanc sy’n gymwys i chwarae dros Gymru yn rhan o’r rhaglen Cymry Alltud ac mae llwybr yn bodoli i bob un ohonynt wneud yn fawr o’u potensial yma yng Nghymru.”
Mae gan Gymru ddwy gêm ar ôl yng Ngŵyl y Chwe Gwlad dan 18, yn erbyn yr Alban ddydd Mercher a’r Eidal ddydd Sul.