Collodd canolwr tîm dan 20 Cymru y rhan fwyaf o ymgyrch y Chwe Gwlad ar ôl gwneud argraff gyda thîm hŷn y Gweilch. Ac yntau ond yn 19 oed, chwaraeodd Thomas-Wheeler saith gêm dros dîm Allen Clarke wrth iddynt sicrhau eu lle yng nghystadleuaeth Cwpan Pencampwyr Ewrop Heineken.
Ond mae’n canolbwyntio erbyn hyn ar herio’r chwaraewyr gorau yn ei grŵp oedran ei hun ym Mhencampwriaeth Rygbi’r Byd Dan 20 yn yr Ariannin. Enillodd ei gyd-chwaraewyr rhanbarthol, Sam Davies ac Owen Watkin, glod ar y lefelau iau cyn mynd yn eu blaen i ennill capiau gyda’r tîm hŷn, ac mae Thomas-Wheeler wedi bod yn dibynnu arnynt am gyngor yn ystod ymgyrch a oedd yn llawn cyffro.
“Mae chwarae rygbi ar lefel ranbarthol yn bendant yn fwy anodd, ond roedd gen i chwaraewyr da o’m cwmpas i’m helpu drwy’r cyfan,” meddai. “Maen nhw wedi rhoi cyngor da i fi, a’r allwedd mewn gwirionedd yw gweithio’n galed. Dyna’r peth pwysicaf.
“Bydd y profiadau yn bendant o gymorth. Mae’n fath gwahanol o rygbi; mae rygbi ar y lefel dan 20 yn llai corfforol o lawer ond mae’n gallu bod yn gyflymach ac yn fwy rhydd weithiau. Heb os, bydd y gemau rwyf wedi’u chwarae gyda’r Gweilch o fantais i fi yn y twrnamaint hwn.
“Mae pobl fel George North, Owen Watkin a Sam Davies wedi bod yn yr un sefyllfa â fi; roedden nhw yn y tîm pan oeddent yn ifanc. Rydw i wedi cael cyngor gwych ganddynt. Rydyn ni i gyd yn gallu chwarae rygbi, ond yr agwedd feddyliol sy’n bwysig weithiau.”
Bydd y dorf yn wrthwynebus i dîm Cymru pan fyddant yn dechrau’r twrnamaint ddydd Mawrth nesaf yn erbyn yr Ariannin sy’n cynnal y Bencampwriaeth. Bydd gemau corfforol yn erbyn Ffrainc a Ffiji yn disgwyl y Cymry wedyn cyn bod tynged y grŵp yn cael ei selio. Ond mae Thomas-Wheeler yn credu bod y tîm hwn sy’n cynrychioli Cymru mewn cyflwr perffaith i herio chwaraewyr rygbi gorau’r byd.
“Roedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gyfle i wneud cynnydd ond roedd rhai o’n chwaraewyr ar goll oherwydd gemau gyda’u rhanbarthau. Yn awr, fodd bynnag, mae’r bechgyn yn ôl gyda’i gilydd ac rydym yn edrych yn eithaf cryf,” meddai.
“Y nod i fi yw bod ymhlith y pymtheg cyntaf; rydych chi bob amser am wisgo’r crys coch. O’m rhan i, rwy’n awyddus i ni wneud ein gorau glas fel tîm a sicrhau buddugoliaethau da.
“Lloegr a Seland Newydd yw’r timau y mae pawb bob amser am eu curo. Mae eu timau dan 20 nhw wedi bod yn gryf yn y gorffennol, ond rhaid i ni reoli’r ffactorau y mae modd i ni eu rheoli, a churo’r timau sy’n ein hwynebu.
“Mae lle i wella bob amser, ac rydym wedi cywiro pethau ers Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Mae gennym chwaraewyr newydd yn y garfan, sy’n gwybod beth yw beth erbyn hyn, felly’r cyfan y gallwn ni ei wneud yw paratoi’n dda.”