Neidio i'r prif gynnwys
Guinness PRO14 yn dychwelyd i S4C gyda gemau darbi rhanbarthau Cymru

Guinness PRO14 yn dychwelyd i S4C gyda gemau darbi rhanbarthau Cymru

Gyda rhanbarthau rygbi Cymru yn dychwelyd i’r maes fis nesaf i gwblhau’r tymor Guinness PRO14, mi fydd y pedair gêm ddarbi sy’n weddill i’w gweld ar S4C.

Rhannu:

Wedi’r pandemig COVID-19 orfodi seibiant yn y gystadleuaeth ers mis Mawrth, mae bwrdd y PRO14 wedi llunio diweddglo amgen i’r tymor 2019/20, gan gwtogi’r nifer o gemau o 21 i 15.

Yn y ddau benwythnos sydd yn weddill yn y tymor arferol, fe fydd rhanbarthau Cymru yn mynd benben â’i gilydd mewn dau rownd o gemau darbi. Mi fydd y pedair gêm i’w gweld yn hwyrach ymlaen yr un diwrnod ar S4C yn ystod oriau brig.

Mi fydd y gystadleuaeth yn ail-ddechrau ar nos Wener 21 Awst. Yna ar ddydd Sadwrn 22 Awst, bydd y Scarlets yn herio Gleision Caerdydd ym Mharc y Scarlets, gyda’r gêm gyfan i’w weld ar S4C am 8.00yh. Ar ddydd Sul 23 Awst, bydd y Gweilch yn croesawu’r Dreigiau i Stadiwm Liberty, ac mi fydd y gêm yna yn cael ei dangos am 9.00yh.

Ar benwythnos olaf y tymor arferol, Rodney Parade fydd y lleoliad ar gyfer y ddwy darbi. Mi fydd y Dreigiau a’r Scarlets yn cwrdd ar ddydd Sadwrn 29 Awst, gyda’r gêm i’w gweld yn ei chyfanrwydd am 8.00yh. Ar ddydd Sul 30 Awst, bydd Gleision Caerdydd yn herio’r Gweilch, gyda’r gêm yn cael ei ddangos am 9.00yh.

Bydd yr holl gemau i’w gweld ar Clwb Rygbi, sy’n cael ei gynhyrchu gan BBC Cymru.

Mi fydd gemau rownd cynderfynol y Guinness PRO14 yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn 5 Medi, gyda’r gêm rownd derfynol yn cael ei gynnal wythnos yn ddiweddarach ar ddydd Sadwrn 12 Medi.

Gemau Guinness PRO14 ar S4C:

Scarlets v Gleision Caerdydd Nos Sadwrn 22 Awst – 8.00yh
Gweilch v Dreigiau Nos Sul 23 Awst – 9.00yh
Dreigiau v Scarlets Nos Sadwrn 29 Awst – 8.00yh
Gleision Caerdydd v Gweilch Nos Sul 30 Awst – 9.00yh

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Guinness PRO14 yn dychwelyd i S4C gyda gemau darbi rhanbarthau Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Guinness PRO14 yn dychwelyd i S4C gyda gemau darbi rhanbarthau Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Guinness PRO14 yn dychwelyd i S4C gyda gemau darbi rhanbarthau Cymru
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Guinness PRO14 yn dychwelyd i S4C gyda gemau darbi rhanbarthau Cymru