Neidio i'r prif gynnwys
Burgess yn brif hyfforddwr y menywod o dan 20

Enillodd Liza Burgess 87 o gapiau dros Gymru.

Burgess yn brif hyfforddwr y menywod o dan 20

Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch i gadarnhau y bydd Liza Burgess yn arwain tîm hyfforddi Menywod dan 20 Cymru yr haf hwn.

Rhannu:

Bydd carfan dan 20 Cymru yn wynebu’r Unol Daleithiau a Chanada yn Ottowa ym mis Gorffennaf. Ni fydd unrhyw un o’r chwaraewyr wedi cynrychioli Cymru ar y lefel yma o’r blaen.

Bydd Burgess yn gofalu am y chwarae gosod a Cat Nicholas-McLaughlin fydd yn gyfrifol am yr amddiffyn. Oliver Wilson fydd yn edrych ar ôl yr ymosod a Siwan Lillicrap fydd yn hyfforddi’r sgiliau.

Enillodd Burgess 87 o gapiau dros Gymru ac fe gynrychiolodd dîm Prydain ar chwe achlysur hefyd – mewn gyrfa barodd am 20 mlynedd. Cafodd hi’r fraint o arwain ei gwlad yn ei gêm ryngwladol gyntaf ac fe hawliodd ei lle yn Oriel Anfarwolion Rygbi yn 2018.

Bydd ei phrofiad a’i gallu yn werthfawr iawn i’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr Cymru.

Gemau Taith Cymru i Ogledd America:
• Gorffennaf 4ydd, 2023: UDA dan 20 v Cymru dan 20, Twin Elms Rugby Park (6:30pm amser lleol)
• Gorffennaf 13eg, 2023: Canada dan 20 v Cymru dan U20, Twin Elms Rugby Park (6:30pm amser lleol)

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru dan 20 Liza Burgess: “Mae’n amser cyffrous iawn – yn enwedig i’r garfan fydd yn teithio i Ogledd America yr haf yma. Mae wedi bod yn wych gweld datblygiad amlwg y chwaraewyr dros y misoedd diwethaf ac fe fyddan nhw’n dysgu ac aeddfedu mwy o ganlyniad i’r profiad hwn.

“Dwi, a gweddill fy nhîm hyfforddi yn derbyn maint ein cyfrifoldeb i sicrhau datblygiad pellach ein chwaraewyr. Mae tîm rhyngwladol y Menywod wedi ein hysbrydoli’n ddiweddar ac mae pawb bellach yn gweld bod llwybr clir ar gael i gynrychioli’r prif dîm ar y lefel uchaf.

“Bydd y ddwy gêm yr erbyn yr Unol Daleithiau a Chanada yn cynnig gwir brawf i ni ac ac ry’n ni gyd yn edrych ymlaen at yr her.”

Mae hybu tîm dan 20 y Menywod yn deillio o fuddsoddiad a strategaeth hir-dymor gan Undeb Rygbi Cymru i ddatblygu rygbi merched a menywod ar bob lefel.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd URC dair canolfan newydd i ddatblygu chwaraewyr addawol y dyfodol – un yn Nwyrain Cymru, un yn y Gorllewin a’r llall yn y Gogledd.
Bwriad y canolfannau hyn yw rhoi’r cymorth i chwaraewyr gyrraell lefel elît y gêm yn y pendraw.

Mae cynllun yr Alltudion ar waith hefyd gyda sesiynau ymarfer yn digwydd mewn tair canolfan yn Lloegr – un yn y Canolbarth/Gogledd, un arall yr ardal Llundain/De Ddwyrain a’r llall yn y De/De Orllewin. Bwriad y cynllun hwn yw cynnig y cyfle i chwaraewyr sy’n gymwys i gynrychioli Cymru, i ddatgan eu uchelgais i wneud hynny.

Yn dilyn Pencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok eleni, dringodd Menywod Cymru i’r chweched safle ar restr detholion y byd ac o ganlyniad, fe fyddan nhw’n cystadlu ym Mhrif Adran cystadleuaeth y WXV yn Seland Newydd fis Hydref.

DIWEDD

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Burgess yn brif hyfforddwr y menywod o dan 20
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Burgess yn brif hyfforddwr y menywod o dan 20
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Burgess yn brif hyfforddwr y menywod o dan 20
Rhino Rugby
Sportseen
Burgess yn brif hyfforddwr y menywod o dan 20
Burgess yn brif hyfforddwr y menywod o dan 20
Burgess yn brif hyfforddwr y menywod o dan 20
Burgess yn brif hyfforddwr y menywod o dan 20
Burgess yn brif hyfforddwr y menywod o dan 20
Burgess yn brif hyfforddwr y menywod o dan 20
Amber Energy
Opro
Burgess yn brif hyfforddwr y menywod o dan 20