Roedd Japan wedi gwneud 7 newid i’r tîm gafodd eu chwalu yn eu gêm agoriadol yn erbyn Ffrainc ond y Cymry ddechreodd orau yn y glaw yn Stadiwm Danie Craven. Yn dilyn cyfnod o bwyso yn agos at y llinell, dyfarnwyd cic gosb o flaen y pyst a thasg hawdd oedd hi i Dan Edwards sgorio triphwynt cynta’r gêm wedi tri munud yn unig o chwarae.
Er gwaethau’r amodau gwlyb a llithrig fe geisiodd y ddau dîm chwarae rygbi atyniadol ac fe arweiniodd hynny at nifer o enghreifftiau o gam-drafod. Ond wedi 16 munud o’r gêm fe sgoriodd y Cymry gais o safon uchel. Yn dilyn bylchiad Bryn Bradley, fe groesodd y mewnwr Archie Hughes i hawlio’r cyntaf o chwe chais ei dîm yn ystod y prynhawn.
Gwta bum munud yn ddiweddarach fe gostiodd diffyg disgyblaeth yn ddrud i dîm Mark Jones ac fe brofodd hynny’n drobwynt yn yr hanner cyntaf. Ar achlysur ei ddechreuad cyntaf i’r tîm – dangoswyd cerdyn melyn i Evan Hill am dacl beryglus ac yn symudiad cynta’r gêm wedi ymadawiad Hill fe groesodd y bachwr Kota Nagashima i gau’r bwlch.
Eiliadau’n unig cyn i Hill ddychwelyd i’r maes, croesodd Nagashima am ei ail gais o’r ornest ac yn dilyn ail drosiad y maswr Kanjiro Naramoto ‘roedd Japan ar y blaen am y tro cyntaf.
Bedwar munud cyn yr egwyl – croesodd yr asgellwr Renji Oike i osod ei wlad mewn sefyllfa gref gyda mantais o 9 pwynt – ond y Cymry gafodd air olaf y cyfnod y cyntaf wrth i’r bachwr Lewis Lloyd lithro trwy un dacl, cyn llithro dros y gwyngalch gwlyb. Hon oedd ail gais y bachwr dylanwadol o’r Bencampwriaeth.
Wyth munud wedi troi, tro Japan oedd hi i gael eu cosbi am ddiffyg disgyblaeth. Wedi eiliad o ffwlbri yn y sgarmes, gwelodd eu capten Yoshiki Omachi gerdyn coch am ei chwarae peryglus ac fe gostiodd hynny’n ddrud i’w dîm yn y pendraw gan iddyn nhw fethu â sgorio pwynt arall wedi hynny.
Doedd Cymru erioed wedi colli yn erbyn Japan dan 20 a gyda chwarter awr ar ôl, fe groesodd yr eilydd Tom Florence am drydydd cais ei dîm roddodd y fantais yn ôl i Ryan Woodman a’i fechgyn.
Er mwyn cadw’u gobeithion o ennill y grŵp yn wirioneddol fyw, roedd angen pedwar cais a phwynt bonws ar y Cymry a gyda phedwar munud yn weddill, fe groesodd Dan Edwards am gais tebyg iawn i’r un sgoriodd o yn erbyn y Crysau Duon ddydd Sadwrn i sicrhau’r pwynt bonws hwnnw.
Gwellodd pethau ymhellach funud wedi hynny pan greodd Morgan Morse gais i Bryn Bradley a munud yn unig wedi wedi hynny, creodd Morse gais arall i Louis Hennessey roddodd sglein ar ganlyniad a pherfformiad llwyddiannus i’r crysau cochion.
Bydd gêm olaf Cymru yng Nghrŵp A yn erbyn Ffrainc yn Cape Town ddydd Mawrth. Er nad Mark Jones oedd wrth y llyw bryd hynny, fe gafodd y crysau cochion eu chwalu o 67-17 yn eu gornest ddiwethaf ym mis Mawrth ac felly bydd angen gwelliant pellach a sylweddol i gadw’r freuddwyd o ennill Pencampwriaeth y Byd yn fyw – yn enwedig o ystyried i’r Ffrancwyr guro’r Crysau Duon o 30-12 yn gynharach yn yn prynhawn.