Ganed Plumtree sy’n 23 oed yn Abertawe – ac fe ymunodd â gweddill y garfan ym maes awyr Heathrow ddoe (Llun 3 Gorffennaf) cyn iddynt deithio i ymarfer yn y Swistir am bythefnos. Fe gyrhaeddodd y garfan eu canolfan ymarfer yn Fiesch neithiwr.
Dywedodd y Prif Hyfforddwr Warren Gatland: “Rydym wedi galw Taine i ymuno gyda ni i roi cyfle iddo. Fe siaradais gydag ef rhyw dair wythnos yn ôl am y posibilrwydd yma pan oedd yn trafod ei drosglwyddiad i’r Scarlets. ‘Roedd y syniad o ymuno gyda ni’n apelio’n fawr ato. Er iddo gael ei eni yn Abertawe, mae wedi cae ei fagu yn Seland Newydd ac mae e’n gymwys i gynrychioli De Affrica hefyd – gan bod ei fam oddi yno.
“Gan bod Josh Macleod wedi ei anafu, ambell chwaraewr arall ddim ar gael a Taulupe Faletau yn cario anaf bychan, ‘ro’n i’n teimlo ei bod yn syniad da i gynnig y cyfle i Taine ymuno gyda ni. Mae’n 6’5 ac yn gallu chwarae yn unrhywun o safleoedd y rheng ôl.
“Does gennym ni ddim llawer o chwaraewyr fel hynny yng Nghymru ac mae e’n bendant yn rhywun fydd yn amlwg yn ein meddyliau ar gyfer y dyfodol.
Efallai mai yn ystod y Chwe Glwad fydd hynny – ond mae e’n gyffrous iawn am ymuno gyda ni ar gyfer yr ymarfer yn y Swistir ac mae e’n benderfynol o greu argraff ffafriol hefyd.”
Yn dilyn y cyfnod gyda’i gilydd yn y Swistir bydd y garfan yn cael ychydig o ddyddiau rhydd cyn ail-ymgynnull ar gyfer taith i Dwrci rhwng y 23ain a’r 31ain o Orffennaf.
Yn dilyn hynny bydd gan Gymru dair gêm brawf yng Nghyfres yr Haf. Byddant yn herio Lloegr (gartref ar Awst 5 ac oddi cartref Awst 12) cyn croesawu De Affrica i Stadiwm Principality (19 Awst).
Wedi’r dair ornest honno bydd y garfan derfynol o 33 aelod yn cael ei chyhoeddi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2023 fydd yn cael ei gynnal yn Ffrainc.
Mae tocynnau ar gael i wylio’r ddwy gêm gartref yng Nghyfres yr Haf ar werth yma: WRU.WALES/TICKETS
ENDS / DIWEDD