Mae oedran y cefnogwyr sydd eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer gemau Cyfres Haf Vodafone yn debycach i gyngerdd Harry Styles neu Taylor Swift na chynulleidfa rygbi draddodiadol ac mae Undeb Rygbi Cymru yn hapus iawn am hynny.
Mae dros 20% o’r tocynnau a werthwyd hyd yma ar gyfer y gemau yn erbyn Lloegr a Phencampwr y Byd – De Affrica, wedi cael eu gwerthu yn y categorïau hanner pris i’r rheiny o dan-17 oed.
Mae’r cynnig arbennig hwn ar gael ym mhob rhan o’r stadiwm – a heddiw rhyddhawyd mwy o docynnau yn yr haen ganol i’w prynu gan y cyhoedd.
Ym mis Awst felly – bydd cymysgedd o deuluoedd, y cefnogwyr sy’n mwynhau mynychu’r ‘achlysur’ a’r cefnogwyr arferol yn dod at ei gilydd i ganu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ a chefnogi bechgyn Warren Gatland cyn iddynt deithio i Ffrainc i gystadlu yng Nghwpan y Byd.
Yn ystod y gemau cyffelyb cyn Cwpan y Byd yn 2019 dim ond 5% o’r tocynnau gafodd eu prynu gan y garfan iau o gefnogwyr.
“Mae gwerthiant tocynnau i blant fel arfer yn cyfrif am tua 12% o gapasiti Stadiwm Principality yn ystod Gemau’r Hydref.” Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol dros dro URC, Nigel Walker.
“Ar gyfer gemau’r Chwe Gwlad, lle mae tocynnau’n brin iawn, mae’r mwyafrif o’r cefnogwyr yn dueddol o fod yn hŷn . Fe all hynny greu cur pen i’n tîm marchnata – sy’n ceisio sicrhau’r incwm i gynnal y gêm gyfan yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd i ddod.
“Ond, mae clywed bod galw mawr am gemau Cyfres Haf Vodafone yn dod gan blant ysgol yng Nghymru a’u teuluoedd yn hynod galonogol.
“Mae yna dipyn o wynebau newydd ac iau yn y garfan ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2023 ac efallai bod hynny’n apelio at y gynulleidfa iau.
“Beth bynnag yw’r atyniad, rydym wrth ein bodd gyda’r newyddion ac mae’n argoeli’n dda iawn ar gyfer dyfodol rygbi proffesiynol yng Nghymru.”
Bydd Prif Hyfforddwr Cymru,Warren Gatland yn dechrau’r paratoadau terfynol ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2023 drwy herio Lloegr yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 5 Awst, gyda’r gic gyntaf am 5.30pm.
Wedi hynny, bydd y garfan yn teithio i Twickenham i wynebu’r ‘Hen Elyn’ unwaith yn rhagor (Sadwrn 12 Awst, 5.30pm), cyn dychwelyd i Stadiwm Principality wythnos wedi hynny i wynebu De Affrica (Sadwrn 19 Awst 3.15pm) fydd yn dod â’u paratoadau cystadleuol ar gyfer Cwpan y Byd i ben.
Yr wythnos hon fe lansiodd Undeb Rygbi Cymru gystadleuaeth newydd i ysgolion sy’n mynychu Cyfres Haf Vodafone gan gynnig y cyfle iddynt ennill gwerth hyd at £1,500 o nwyddau rygbi Macron ar gyfer eu timau ysgol.
Er mwyn creu diddordeb ymysg y gynulleidfa iau yn benodol, ffilmiwyd cyfres o hysbysebion gyda drôn cyflym yn hedfan o amgylch seddi Stadiwm Principality ac mae hynny wedi profi i fod yn boblogaidd.
Mae tocynnau wedi’u prisio i wneud y gemau mor fforddiadwy â phosibl ac mae pob tocyn ym mhob categori ar gael am ostyngiad o hanner pris i unrhyw un o dan 17 oed.
Gall teulu o bedwar (dau oedolyn a dau o blentyn) wylio Cymru’n herio pencampwyr presennol y byd De Affrica am gyfanswm o £60, a gwylio Cymru’n herio Lloegr am gyfanswm o £120 y teulu.
I wylio’r Springboks, mae prisiau tocynnau plant yn dechrau am £10 yn unig (£20 i oedolion) a phrisiau i weld Lloegr yng Nghaerdydd yn dechrau am £20 i blant dan 17 oed (£40 i oedolion).
Mae gostyngiad o 50% ar gael ar gyfer tocynnau ym mhob un o dri chategori newydd Stadiwm Principality i bobl ifanc o dan 17 oed, sy’n golygu y gallant fynychu gêm Lloegr ddydd Sadwrn 5 Awst, am gost o £20, £30 & £40 yn hytrach na’r prisiau llawn o £40, £60 ac £80.
Ar gyfer gêm De Affrica, ddydd Sadwrn 19eg Awst gall cefnogwyr fynd i’r gêm am £20, £40 neu £60, gyda phrisiau dan 17 felly ar gael am £10, £20 a £30 yn unig.
Mae tocynnau ar gael gan URC. CYMRU/TOCYNNAU
GEMAU A PHRISIAU CYFRES HAF VODAFONE:
Dydd Sadwrn 5 Awst, Cymru v Lloegr, Stadiwm Principality, 5.30pm
CAT A £80, CAT B £60, CAT C £40 – Gostyngiad o 50% ar gael ar bob tocyn i bobl ifanc o dan 17 oed.
Dydd Sadwrn 19 Awst, Cymru v De Affrica, Stadiwm Principality, 3.15pm
CAT A £60, CAT B £40, CAT C £20 – Gostyngiad o 50% ar gael ar bob tocyn i bobl ifanc o dan 17oed.