Mae Lydiate, sydd bellach yn 35 oed ac yn chwarae ei bedwerydd tymor ar ddeg o rygbi rhyngwladol, yn awyddus iawn i ychwanegu at ei 69 cap a hawlio ei le yng ngharfan derfynol Warren Gatland ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc. Er mwyn gwneud hynny, mae’n gorfod rhoi o’i orau yng ngwersyll hyfforddi di-gyfaddawd Cymru yn ucheldir yr Alpau ar hyn o bryd.
Er bo’r tasgau a’r ymarferion wedi bod yn hynod heriol a chorfforol i’r 46 o chwaraewyr – tydi Lydiate ddim yn cwyno:
“Roedd pawb yn disgwyl i’r sesiynau fod yn galed ond mae pawb yn y garfan yn gwneud eu gorau ac yn mwynhau cwmni ein gilydd hefyd.
“Wrth gwrs bod cystadleuaeth rhyngom ni – yn enwedig felly ymysg y chwaraewyr rheng ôl. Mae na griw da ohonom ac mae’r bechgyn ifanc yn arbennig o gystadleuol – sy’n beth da.
“Mae gwir werth mewn dod yma i Fiesch, fel ein bod yn gallu canolbwyntio’n llwyr ar ein paratoadau gan bo gemau Cyfres yr Haf a Chwpan y Byd ei hun ar y gorwel.”
Er mwyn cael ei gynnwys yn y garfan ymarfer hon, mae Lydiate, enillodd Chwaraewr y Tymor yn y Chwe Gwlad yn 2012 pan gipiodd Cymru’r Gamp Lawn, wedi gorfod gwella o anaf – sydd unwaith yn rhagor yn tanlinellu ei benderfynoldeb a’i gryfder meddyliol:
“Tydw i ddim eisiau dyfaru unrhywbeth pan ddaw fy amser fel chwaraewr i ben ac felly tra bod gennyf y cyfle i greu argraff – byddaf yn rhoi o fy ngorau. ‘Rwyf wedi dioddef mwy na’n siar o anafiadau yn ystod fy nghyrfa ond ‘rwy’n dal i fwynhau’r gêm yn fawr ac mae’r tân i wneud fy ngorau a llwyddo – yn dal yn fy mol.
“Roedd adegau pan nad oeddwn yn meddwl y buaswn yn cael y cyfle i wisgo’r crys coch eto ond ar ôl ambell dymor pan nad oeddwn yn cael fy newid – fe roddodd Wayne Pivac gyfle arall i mi ac mae Gats wedi cadw’r ffydd ynof hefyd.
“Felly ‘rwy’n nôl yn y garfan ryngwladol ar hyn o bryd ac yn nôl efo’r Dreigiau hefyd. Mae’n od fel mae pethau’n digwydd weithiau!”
“Rwyf wedi dioddef nifer o ddyddiau tywyll yn ystod fy ngyrfa o ganlyniad i fy anafiadau, ond mae nifer o’r timau meddygol sydd wedi edrych ar fy ôl dros y blynyddoedd wedi creu gwyrthiau ac wedi fy helpu i gadw’r ffydd.
“Rwyf wedi bod gyda’r Gweilch ers 9 mlynedd, ac mae’r tîm meddygol yno’n gampus wrth eu gwaith – ac yn bobl arbennig o dda hefyd. ‘Roedd eu cwmni a’u cefnogaeth yn amhrisiadwy wrth geisio dychwelyd o anafiadau cas.”
Er bod Lydiate eisoes wedi chwarae mewn dau Gwpan y Byd, ni chafodd ei ddewis yng ngharfan 2019. Mae’r ffaith ei fod yn cael ei ystyried ar gyfer carfan derfynol Warren Gatland ar gyfer cystadleuaeth eleni’n adrodd cyfrolau am gymeriad a dawn Dan Lydiate:
“ Fe dderbyniais alwad ffôn yn 2019 i egluro nad oeddwn wedi cael fy newis. ‘Roedd yn brofiad rhwystredig iawn ond doedd dim llawer yr oeddwn yn gallu ei wneud am y peth.
“Doedd dim pwynt pwdu, gan fo bywyd yn llawn o’r melys a’r chwerw. Fe wnes i ddal ati i weithio’n galed yn y gobaith y byddai’r cyfle i chwarae dros Gymru unwaith eto yn digwydd yn y pendraw.
“Pe na byddai hynny wedi digwydd, o leiaf y bydden i’n gwybod fy mod wedi gwneud fy ngorau.
“Dyna fy agwedd yma yn y Swistir hefyd yn y gobaith y caf fy newis yn y garfan derfynol. Os na fydd hynny’n digwydd, o leiaf y byddaf yn gwybod na allen i fod wedi gwneud mwy.”