Neidio i'r prif gynnwys
Lewis Lloyd

Lewis Lloyd gets the nod at hooker for Wales U20

Tîm Cymru o dan 20 i herio Awstralia

Mae Prif Hyfforddwr Cymru o dan 20, Mark Jones, wedi enwi ei dîm i wynebu Awstralia ar gyfer y gêm fydd yn hawlio’r 5ed safle ym Mhencampwriaeth o dan 20 y Byd yn Ne Affrica.

Rhannu:

Bydd yr ornest yn dechrau am 1pm ddydd Gwener y 14eg o Orffennaf yn Stadiwm Athlone, Cape Town a bydd modd gwylio’r gêm yn fyw ar S4C neu blatfformau digidol World Rugby
(World Rugby digital channels).

Mae tîm Mark Jones yn cynnwys tri newid o’r pymtheg ddechreuodd yn erbyn Georgia yn Paarl ddydd Sul.

Er bo’r tri ôl, Harri Houston, Tom Fletcher a Llien Morgan yn cadw’u llefydd, mae Bryn Bradley’n dychwelyd yn y canol yn lle Joe Westwood sy’n disgyn i’r fainc.

Louie Hennessey – sgoriodd ddau gais a gweld cerdyn melyn yn erbyn Georgia, fydd y canolwr arall.

Am y pumed tro o’r bron, Archie Hughes a Dan Edwards fydd yr haneri.

Dylan Kelleher-Griffiths, Lewis Lloyd and Kian Hire ddechreuodd yn erbyn Georgia yn y rheng flaen – ac mae Mark Jones wedi cadw’r ffydd gyda nhw eto – ond o ganlyniad i anaf i’r clo Liam Edwards – bydd Evan Hill yn partneru Jonny Green yn yr ail reng.

Sgoriodd Lucas De La Rua gais fel eilydd ddydd Sul – ac mae’n cael y cyfle i ddechrau fel blaen-asgellwr agored yn erbyn Awstralia yn lle Seb Driscoll. Y capten, Ryan Woodman a Morgan Morse sy’n cwblhau’r drindod yn y rheng ôl.

Er nad ydi prop Met Caerdydd Tom Pritchard wedi chwarae yn y Bencampwriaeth hyd yma – fe all hynny newid ddydd Gwener – gan ei fod wedi ei enwi ar y fainc.

‘Roedd Mark Jones yn hapus iawn gyda pherfformiad ei garfan yn erbyn Georgia – ond mae’n cyfaddef y bydd her Awstralia yn sylweddol iawn:

“Fe lwyddodd y bechgyn i weithredu a chwblhau llawer iawn o bethau yr oedden ni wedi gweithio’n galed arnyn nhw yn y gêm ddiwethaf – ac ‘roedd tipyn mwy o sglein ar ein perfformiad o’r herwydd.

“Roedd ein chwarae gosod yn gryf ac ‘roedd ein rheolaeth ni o’r chwarae yn dangos ein bod wedi dysgu cryn dipyn o’n colled yn erbyn Seland Newydd. Wedi dweud hynny – bydd angen i’n chwarae ni godi i lefel arall eto yn erbyn Awstralia.

“Ry’n ni’n disgwyl gêm mwy agored y tro hwn. Doedd yr amodau gwlyb a llithrig yn Paarl ddim wir yn caniatau i Georgia na ninnau chwarae rygbi mentrus – ond bydd y maes yn Cape Town yn fwy llydan ac ‘rwy’n siwr y bydd Awstralia yn ceisio cael y bêl at eu hasgellwyr yn gynt na be wnaeth Georgia.

“Rwy’n hyderus y bydd ein hamddiffyn yr un mor drefnus ddydd Gwener ag oedden nhw yn erbyn Georgia ac y gallwn wynebu her Awstralia’n effeithiol.”

Cymru dan 20 v Awstralia dan 20,Gwener 14 Gorffennaf,Stadiwm Athlone,1pm,S4C (Byw)

 15 Harri Houston (Gweilch)
14 Tom Florence (Gweilch)
13 Louie Hennessey (Caerfaddon)
12 Bryn Bradley (Harlequins)
11 Llien Morgan (Gweilch)
10 Dan Edwards (Gweilch)
9 Archie Hughes (Scarlets);
1 Dylan Kelleher-Griffiths (Dreigiau)
2 Lewis Lloyd (Gweilch)
3 Kian Hire (Gweilch)
4 Evan Hill (Gweilch)
5 Jonny Green (Harlequins)
6 Ryan Woodman (Dreigiau – Capten)
7 Lucas De La Rua (Caerdydd)
8 Morgan Morse (Gweilch)

Eilyddion

16 Lewis Morgan (Scarlets)
17 Louis Fletcher (Gweilch)
18 Tom Pritchard (Met Caerdydd)
19 Mackenzie Martin (Caerdydd)
20 Gwilym Evans (Caerdydd)
21 Joe Westwood (Dreigiau)
22 Harri Wilde (Caerdydd)
23 Harri Williams (Ampthill)

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm Cymru o dan 20 i herio Awstralia
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tîm Cymru o dan 20 i herio Awstralia
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm Cymru o dan 20 i herio Awstralia
Rhino Rugby
Sportseen
Tîm Cymru o dan 20 i herio Awstralia
Tîm Cymru o dan 20 i herio Awstralia
Tîm Cymru o dan 20 i herio Awstralia
Tîm Cymru o dan 20 i herio Awstralia
Tîm Cymru o dan 20 i herio Awstralia
Tîm Cymru o dan 20 i herio Awstralia
Amber Energy
Opro
Tîm Cymru o dan 20 i herio Awstralia