Y dilyn eu colled greulon o bwynt yn unig yn erbyn yr Unol Daleithiau ar yr un maes yr wythnos ddiwethaf, croesodd y Cymry am chwe chais.
‘Roedd chwarae corfforol tîm Jenna De Vera’n ormod i Ganada, ac yn wahanol i’r perfformiad hanner cyntaf gwael yn erbyn yr UDA – ‘roedd y Cymry ar y blaen ar yr egwyl y tro hwn o 19-5 a hynny er gwaetha’r ffaith iddyn nhw chwarae munudau diwetha’r cyfnod cyntaf gyda dim ond 14 o chwaraewyr.
Hon oedd ail fuddugoliaeth Cymru o dan 20 yn erbyn Canada ar y lefel yma ac ‘roedd safon eu chwarae wedi plesio’r Prif Hyfforddwr Liza Burgess.
Doedd y ffaith i ddau gorwynt basio Ottawa cyn y gic gyntaf – na salwch munud diwethaf Molly Wakely ddim yn ddigon i atal Cymru rhag perfformio’n dda a hawlio’r fuddugoliaeth.
Cafwyd dechrau calonogol o safbwynt Cymreig gyda’r cefnwr dawnus Nel Metcalfe yn croesi wedi dau funud yn unig.
Ychwanegodd y maswr Carys Hughes y trosiad cyn i Ganada fygwth llinell gais y Cymry’n gyson am gyfnod. Ond ‘roedd amddiffyn trefnus yr ymwelwyr yn gadarn – ac yn erbyn llif y chwarae, Cymru hawliodd ail gais y gêm pan groesodd y canolwr Ellie Tromans.
Rhoddodd gais unigol cefnwr Canada, Lucie Romeo obaith i’r tîm cartref – ond ymatebodd y Cymry’n gryf ac yn gyflym i’r sgôr hwnnw.
Arweiniodd chwarae creadigol yn y lein at gais i’r prop Katie Carry yn fuan wedi hynny – ac wedi trosiad llwyddiannus arall o droed Hughes, ‘roedd y fantais yn 14 pwynt – a doedd dim ffordd yn ôl i Ganada wedi hynny.
Er i’r blaen-asgwellwr, Lucy Isaac dderbyn cerdyn melyn cyn diwedd y cyfnod cyntaf, ‘roedd ei thîm ar y blaen yn gyfforddus o 19-5 wrth droi.
Cafwyd dechrau campus wedi dim ond dau funud o’r ail hanner wrth i’r mewnwr Siân Jones, fanteisio ar fwlch ar ochr dywydd y sgrym a sgorio yn y gornel.
Hanner ffordd drwy’r ail hanner hawliodd y Cymry eu pumed cais o’r ornest wrth i’r bachwr bywiog Rosie Carr ymestyn mantais ei thîm i 34-5.
Yr eilydd Kim Thurlow groesodd am gais olaf yr ymwelwyr, cyn i gapten Canada, Sarah Grant, sgorio cais cysur i’r tîm cartref.
Perfformiad a chanlyniad da i garfan Liza Burgess felly arweiniodd yn y pendraw at fudugoliaeth chwe chais o 39-12.