Mae Go.Compare wedi arwyddo cytundeb saith ffigwr i noddi cefn crysau Cymru am gyfnod sylweddol, fydd yn golygu y bydd logo’r cwmni i’w weld ar gefn holl grysau timau rhyngwladol Menywod a Dynion Cymru o hyn ymlaen.
Mae’r cytundeb yn un hanesoddol gan mai’r cwmni cymharu fydd y cyntaf erioed i noddi cefn crysau timau’r Menywod a’r Dynion.
Sefydlwyd Go.Compare yng Nghasnewydd yn 2006 a bydd eu logo’n cael ei weld ar grysau Cymru am y tro cyntaf pan fydd tîm y Dynion yn herio Lloegr fis nesaf (Awst 5ed).
Bydd y Menywod hefyd yn gwisgo cit gyda’r un cynllun arno, pan fyddan nhw’n cystadlu yn y WXV yn Seland Newydd yn yr Hydref. Wedi hynny bydd y timau datblygu yn arddangos y logo hefyd.
Bydd modd gweld a phrynu’r crysau â’r logo eiconig arnynt ar y 27ain o Orffennaf.
Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker:
“Mae’r cytundeb yma’n hynod o arwyddocaol i rygbi Cymru ac ‘rwy’n arbennig o ddiolchgar i Go.Compare am eu cefnogaeth i’n timau cenedlaethol ni.
“Yn ogystal â’r buddsoddiad ariannol, bydd Go.Compare yn cynnig cefnogaeth marchnata, fydd yn dylanwadu’n gadarnhaol ar y gêm broffesiynol yng Nghymru ac yn annog cynaliadwyedd a llwyddiant i’n timau hefyd.
“Bydd y bartneriaeth hon yn creu argraff ar unwaith ar rygbi Cymru ac ‘rydyn ni wrth ein bodd bod cwmni o Gymru, sy’n rhannu’r un angerdd â ni am y gêm, wedi gwneud ymrwymiad mor sylweddol i Undeb Rygbi Cymru.
Er na fydd y crysau newydd yn cael eu datgelu tan ddiwedd y mis, y gobaith yw mai ein gwrthwynebwyr fydd yn gweld y logo gliriaf – wrth iddyn nhw geisio dal ein chwaraewyr ni!
Dywedodd Lee Griffin, sefydlwr a Phrif Weithredwr Go.Compare:
“Mae Cymru ym mêr ein hesgyrn yn Go.Compare ac felly mae cael y cyfle i gefnogi rygbi Cymru yn genedlaethol ac ar lefel gymunedol yn fraint arbennig i ni.
“Ry’n ni’n arbennig o hapus mai ein cwmni ni yw’r cyntaf erioed i gael yr hawl i arddangos ein logo ar gefn y crys rhyngwladol.
Mae Go.Compare wastad wedi ceisio torri tir newydd yn y byd busnes ac felly mae’r cyfle yma’n gweddu’n berffaith i’n meddylfryd ni fel cwmni.
“Ry’n ni’n cefnogi penderfyniadau ariannol ein cwsmeriaid yn ddyddiol ac mae cael y cyfle i gefnogi camp sydd wrth galon ein cenedl yn rhoi boddhad mawr i ni fel cwmni.”