Roedd yr amodau’n llawer gwell na’r gemau eraill yr oedd Cymru wedi chwarae ynddyn nhw yn ystod y tair wythnos ddiwethaf yn y Bencampwriaeth ond Awstralia ddechreuodd orau’n Stadiwm Athlone wrth i’r canolwr Henry O’Donnell groesi am y cyntaf o 9 cais ei wlad – gydag ymosodiad cyntaf ei dîm – wedi wyth munud o chwarae.
Anafwyd ysgwydd Evan Hill wrth geisio atal y cais a bu’n rhaid iddo adael y maes o’r herwydd oedd yn ergyd bellach i obeithion bechgyn Mark Jones.
Mae carfan Cymru wedi dangos gwir gymeriad dro ar ôl tro yn ystod y Bencampwriaeth hon ac wedi 23 munud amlygwyd y cymeriad hwnnw a gwir ddawn y tîm. Lledwyd y bêl o’u llinell 40 metr eu hunain – gyda’r olwyr a’r blaenwyr yn arddangos eu sgiliau – arweiniodd at Bryn Bradley‘n rhyddhau’r bachwr Lewis Lloyd i blymio am ei drydydd cais o’r Bencampwriaeth.
Er bod Awstralia wedi ceisio lledu’r bêl yn ystod y gystadleuaeth – trwy gadw’r meddiant yn dynn ymysg y blaenwyr y daeth eu hail gais o’r prynhawn. Yn y pendraw y clo Toby MacPherson groesodd i hawlio’i gais cyntaf o’r Bencampwriaeth.
Gan bod y dacteg honno wedi dwyn ffrwyth i Awstralia – parhau i chwarae yn yr un modd wnaethon nhw. Gyda 7 munud o’r cyfnod cyntaf ar ôl – croesodd y bachwr Liam Bowron am drydydd cais ei dîm gan adael tipyn o fynydd i Ryan Woodman a’i fechgyn i’w ddringo wedi troi.
Hanner amser Cymru 5 Awstralia 15
Er mwyn cael gwir obaith o gipio’r pumed safle, ‘roedd angen dechrau cryf ar y Cymry yn yr ail gyfnod. Yn anffodus, fel yr hanner cyntaf, fe groesodd Henry O’Donnell gyda’u hymosodiad cyntaf – gan gymryd yr ornest allan o afael tîm Mark Jones.
Parhau i roi o’u gorau a chredu yn eu hunain wnaeth y crysau cochion ac yn dilyn pas ddeallus Dan Edwards, crosodd Llien Morgan, y crwt o Gwmtwrch, y gwyngalch i gau’r bwlch.
Sbarduno Awstralia i godi gêr wnaeth y sgôr hwnnw ac wrth ymosod ar bob cyfle – fe groeson nhw am ddau gais pellach yn y tri munud wedi i Morgan dirio. Llamodd Toby MacPherson am ei ail gais ef o’r prynhawn cyn i’r mewnwr Teddy Wilson goroni symudiad gorau’r gêm, ddechreuodd yn nwy ar hugain eu hunain.
‘Roedd wyth o chwaraewyr Cymru wedi dechrau pob un o’r pum gêm yn y Bencampwriaeth ac ildiwyd cais pellach pan diriodd Jack Bowen ei gais cyntaf o’r gystadleuaeth yn dilyn menter arbennig gan ei dîm.
Parhau i ymdrechu i’r eithaf wnaeth y crysau cochion a gyda chwarter awr ar ôl, manteisiodd Llien Morgan ar gic berffaith Dan Edwards i groesi eilwaith.
Lleihawyd y bwlch i 17 pwynt pan groesodd y capten Ryan Woodman am bedwerydd cais Cymru. Gwobr bersonol haeddiannol i’r capten am chwarae pob munud o’r pum gêm yn y gystadleuaeth.
Ond Awstralia orffennodd gryfaf, gan sgorio dau gais hwyr.Yr eilydd Harrison Usher groesoedd am wythfed cais ei wlad, cyn i’r gŵr o Western Force Ned Slack-Smith dirio’r nawfed.
Er bod cryn fwlch rhwng y ddau dîm ar y diwrnod, yn enwedig felly’n yr ail hanner – ‘roedd digon o amser i Harri Williams sgorio 5ed cais Cymru yn yr eiliadau olaf – ond doedd hynny ddim yn ddigon i amddifadu Awstralia rhag hawlio’r pumed safle yn y Bencampwriaeth.
Er i’r Cymry fethu â gorffen yn y 5 uchaf am y tro cyntaf ers degawd – does dim amheuaeth bod perfformiadau’r tîm wedi gwella’n sylweddol ers Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni – pan gollwyd pob gêm.
Sgôr Terfynol Cymru 33 Awstralia 57.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru o dan 20, Mark Jones: “Rwy’n siomedig iawn gyda’r canlyniad a’r ffaith i ni fethu cymryd mantais o’r 13 achlysur y buon ni yn eu dwy ar hugain nhw.
“Fe adawon ni’n waglaw ar 9 o’r 13 cyfle hwnnw sydd ddim yn ddigon da ar y lefel yma. Tydi ildio 9 cais ar unrhyw lefel ddim yn dderbyniol chwaith. Awstralia berfformiodd orau heddiw ac fe gymron nhw eu cyfleoedd nhw yn well nag y gwnaethon ni.
“Rwyf wir wedi mwynhau gweithio gyda’r garfan a’r staff dros yr wythnosau diwethaf ac er bod yn rhaid canmol ymdrech y bechgyn – ‘roedd gorffen y Bencampwriaeth wrth ildio 9 cais yn siomedig.”
Dywedodd Capten Cymru o dan 20 Ryan Woodman:” Rhaid canmol Awstralia am gymryd eu cyfleoedd. ‘Roedden nhw’n fwy clinigol na ni ac rydyn ni’n siomedig am hynny.
“Roedd ymroddiad ein bechgyn ni’n arbennig trwy gydol y gystadleuaeth ac ‘rwy’n edrych ymlaen at chwarae gyda nhw – ac yn eu herbyn yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Llien Morgan:” Roedd Awstralia’n dda heddiw – ac er fy mod yn hapus iawn fy mod wedi sgorio 2 gais – mae’n anodd derbyn ein bod wedi ildo 9 cais”.