Bydd Nigel Walker sy’n Brif Weithredwr dros dro URC yn parhau yn ei rôl bresennol nes y bydd y Prif Weithredwr newydd yn dechrau ar eu gwaith, ond unwaith y bydd y rôl honno wedi’i llenwi, bydd Nigel Walker yn dechrau ei swydd newydd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi – fydd yn goruchwylio, hyrwyddo a chynnal rygbi cymunedol, proffesiynol a rhyngwladol yng Nghymru.
Bydd Huw Bevan (Cyfarwyddwr Perfformiad) a Geraint John (Cyfarwyddwr Cymunedol) yn atebol i Nigel Walker a bydd uwch staff hyfforddi rhyngwladol dynion a menywod Cymru hefyd yn dod o dan ei ofal. Mae’r rôl hon yn dangos awydd y cadeirydd a’r Bwrdd i wella’r cysylltiadau rhwng rygbi cymunedol, proffesiynol a rhyngwladol ledled y wlad.
Mae’r newyddion hwn yn cadarnhau bod Walker wedi penderfynu tynnu ei enw yn ôl o’r broses o ganfod Prif Weithredwr newydd yn gynnar iawn.
“Rwyf wedi mwynhau fy amser fel Prif Weithredwr dros dro URC a byddaf yn parhau i weithio’n galed er budd rygbi Cymru.” Dywedodd Walker.
“Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd cael gwasanaethu ein gêm ac arwain rygbi Cymru drwy ei heriau diweddar dros y chwe mis diwethaf.
‘Roeddwn i’n gwybod yn gynnar yn y broses recriwtio bod Richard a’r Bwrdd eisiau Prif Weithredwr gyda chefndir masnachol cryf, felly fe wnes i dynnu’n ôl o’r broses, ac rwyf wedi bod yn ddiolchgar am y gonestrwydd a’r ymrwymiad a ddangoswyd i mi.
“Pan drafododd Richard rôl newydd Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi gyda mi, ‘roedd y syniad yn apelio’n fawr ataf. Byddaf yn mynd i’r afael â’i heriau gyda’r un egni a phenderfyniad yr wyf wedi ceisio eu dangos wrth arwain yr Undeb dros y misoedd diwethaf.
“Mae llawer o waith caled i’w wneud o hyd i sicrhau dyfodol disglair a chynaliadwy i rygbi Cymru, ond byddwn yn parhau i symud ymlaen gyda’n gilydd ac rwy’n parhau i fod yn hynod optimistaidd am ddyfodol ein gêm.”
‘Roedd Nigel Walker yn Gyfarwyddwr Perfformiad URC nes iddo ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr am gyfnod, ac mae wedi ei benodi i’r swydd newydd ar ôl creu argraff ar y Bwrdd a’i Gadeirydd newydd yn ystod ei gyfnod chwe mis wrth y llyw.
Mae wedi arwain URC fel Prif Weithredwr dros dro ers mis Chwefror. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ymgyrchodd, law yn llaw â Ieuan Evans i foderneiddio llywodraethiaeth yr Undeb. Cefnogwyd eu hymgyrch gyda mwyafrif o 97% yng Nghyfarfod Cyffredinol Eithriadol URC ym mis Mawrth. Y bleidlais bendant hynny arweiniodd at benodi’r Cadeirydd annibynnol newydd – Richard Collier-Keywood.
Mae Nigel Walker wedi arwain y busnes yn rhagorol drwy’r broses adolygu annibynnol, gan gyflwyno llawer o newidiadau i ddiwylliant a phrosesau mewnol yr Undeb. Mae hefyd wedi bod yn allweddol yn y broses o sicrhau cytundeb chwe blynedd newydd gyda phedwar rhanbarth Cymru.
Dywedodd Richard Collier-Keywood a ddechreuodd yn swyddogol fel Cadeirydd newydd URC ddydd Llun yr wythnos hon. :”Rwy’n falch iawn y bydd Nigel yn ymgymryd â’r her newydd hon.
“Mae Nigel wedi gwneud gwaith gwych yn arwain URC dros y misoedd diwethaf.
“Mae’r rôl hon yn hanfodol ac allweddol wrth i ni geisio creu ymdeimlad o berthyn ar draws pob agwedd o’n gêm – ar lefel rygbi cymunedol, proffesiynol a rhyngwladol yng Nghymru. Rydyn ni eisiau ehangu apêl rygbi i bawb yng Nghymru a chreu mwy o undod o lawr gwlad i lefel ryngwladol ar draws pob fformat o’r gêm.”