Am y tro cyntaf ers 2019 bydd cefnogwyr yn cael gwylio’r garfan genedlaethol mewn sesiwn ymarfer agored.
Gyda nifer o wynebau newydd yn y garfan, bydd yn gyfle gwych i gefnogwyr Cymru ddangos eu cefnogaeth i’r bechgyn cyn gemau Cyfres Haf Vodafone ym mis Awst a chyn Cwpan Rygbi’r Byd fydd yn dechrau yn Ffrainc fis Medi.
Yn ystod mis Awst bydd Cymru’n herio Lloegr – gartref ac oddi cartref ar y 5ed a’r 12fed o’r mis ac yna’n croesawu Pencampwyr presennol y Byd – De Affrica i Gaerdydd ar y 19eg.
Wrth lansio eu crysau newydd ar gyfer Cwpan y Byd ym Mhontypridd ddydd Iau dywedodd asgellwr Cymru Josh Adams: “Ry’n ni wedi gweithio’n galed iawn wrth baratoi ar gyfer gemau Cyfres Haf Vodafone.
“Mae’r bechgyn newydd yn sicr wedi ychwanegu rhywbeth i’r garfan ac mae gennym y gallu i lwyddo – mae hynny’n bendant.
“Ry’n ni’n trin y tair gêm nesaf fel gemau prawf – dyna yw’n meddylfryd ni. Maen nhw’n gemau arbennig o bwysig i ni a byddai’n braf gweld llawer o gefnogwyr yno i’n helpu ni.”
Bydd tocynnau am ddim ar gyfer y sesiwn ymarfer agored ar gael i aelodau Debentur yr Undeb, aelodau Premiwm ac aelodau Swyddogol, ddydd Llun y 24ain o Orffennaf gyda thocynnau ar gael i’r cyhoedd am 10am, ddydd Mawrth y 25ain trwy ddilyn y ddolen: wru.wales/tickets
Gall cefnogwyr gydag anghenion arbennig gysylltu ag URC trwy ffonio 02920 822432 a dewis opsiwn 2.
Bydd mynediad i’r sesiwn ymarfer – fydd yn dechrau am 2.30pm, am ddim i bawb – dim ond 4 diwrnod cyn i Gymru groesawu Lloegr i Stadiwm Principality.
Dywedodd Richard Collier-Keywood, Cadeirydd newydd URC, “Ry’n ni wrth ein bodd i agor drysau ein stadiwm arbennig i’r cyhoedd i wylio Cymru’n ymarfer.
“Yn y gorffennol mae digwyddiadau fel hyn wedi cael eu cefnogi’n dda – ac ‘rwy’n gwybod y bydd y chwaraewyr yn gwerthfawrogi cefnogaeth gref cyn Cwpan y Byd.
“Mae’r garfan wedi bod yn gweithio’n arbenig o galed yn y Swistir ac ‘rwy’n gwybod bod hynny wedi creu teimlad o undod pellach ymysg y bechgyn.
“Bydd hi’n braf gweld teuluoedd yn cefnogi’r achlysur a bydd hi’n wych gweld y plant yn cyfarfod eu harwyr hefyd.”
Er bo’r digwyddiad am ddim, bydd modd cyfrannu at Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru – a hoffai Undeb Rygbi Cymru eich annog i wneud cyfraniad yma: Yma – here.
Bydd modd i bob cefnogwr hawlio 4 tocyn a’r cyntaf i’r felin fydd hi. Ni fydd angen tocynnau ar blant dwy oed neu iau – ond bydd gofyn iddynt eistedd ar lin rhiant neu warchodwr.
Mae dal modd hefyd brynu tocynnau rhad ar gyfer gemau Cyfres Haf Vodafone – sy’n dechrau am £10 yn unig i bobl ifanc o dan 17 oed trwy ddilyn y ddolen isod.
WRU.WALES/TICKETS