Mae Leigh Halfpenny wedi’i enwi fel cefnwr ac mae disgwyl iddo ennill ei 100fed cap i Gymru, ar ôl gwneud ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yn y brif garfan ar yr asgell yn erbyn De Affrica ar 8 Tachwedd 2008 pan oedd yn ei arddegau.
Cafodd Halfpenny ei 50fed cap yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2014, gan ddod y chwaraewr ieuengaf yn y brif garfan i wneud hynny ar y pryd. Fe wnaeth George North – fydd yn dechrau yn y canol ddydd Sadwrn – dorri’r record honno flwyddyn yn ddiweddarach.
Dewiswyd Keiron Assiratti (prop pen tynn), Corey Domachowski (prop pen rhydd) a Max Llewellyn (canolwr) yn y XV fydd yn dechrau’r gêm gan ennill eu capiau cyntaf dros Gymru.
Enwyd Henry Thomas a Taine Plumtree ymhlith yr eilyddion, a byddant hwythau hefyd yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf ym mhrif garfan tîm Cymru y penwythnos yma.
Mae Jac Morgan yn dechrau fel blaenasgellwr ochr agored ac wedi’i enwi fel capten ar gyfer y gêm yma – ei dro cyntaf i’r brif garfan ar ôl bod yn gapten ar Gymru i’r tîm dan 20 cyn hynny.
Yn ymuno â Morgan yn y rhes gefn mae Christ Tshiunza (blaenasgellwr ochr dywyll) ac Aaron Wainwright (Rhif 8).
Mae Dafydd Jenkins a Will Rowlands yn chwarae yn yr ail reng. Mae Rowlands yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ers ei anaf yr hydref diwethaf, felly hefyd Ryan Elias sy’n dychwelyd i’r rheng flaen fel bachwr.
Bydd Gareth Davies yn dechrau fel mewnwr gyda’i gyd-chwaraewr o’r Sgarlets Sam Costelow fel maswr. Rio Dyer a Louis Rees-Zammit sy’n cwblhau’r tîm sy’n cychwyn ar y ddwy asgell.
Mae Elliot Dee, Nicky Smith a Ben Carter yn ymuno â Henry Thomas a Plumtree fel blaenasgellwyr ymhlith yr eilyddion.
Yn cwblhau’r garfan o 23 ar gyfer y gêm, mae Tomos Williams, Dan Biggar a Mason Grady fel cefnwyr.
Meddai Gatland: “Rwyf i wedi bod yn falch iawn o ymdrech ac ymrwymiad y chwaraewyr yn Nhwrci, y Swistir a’r sesiynau hyfforddi yng Nghymru cyn hynny, ond nawr mae angen rhoi’r hyn rydyn ni wedi bod yn ei hyfforddi ar waith.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at fynd allan ar y cae yn Stadiwm y Principality ddydd Sadwrn yma – mae hi bob amser mor arbennig chwarae gartref o flaen ein cefnogwyr anhygoel.
“Mae yna gystadleuaeth arbennig ymhlith y garfan ym mhob safle ac yn y tîm yr ydym ni wedi’i ddewis yr wythnos yma mae ychydig o chwaraewyr fydd yn chwarae am y tro cyntaf, gan ein bod ni’n awyddus i roi’r cyfle iddyn nhw weld beth y gallan nhw ei wneud. Mae llawer ganddynt i’w brofi yn y tair gêm nesaf ac mae pawb yn dal i gystadlu am le yn y garfan derfynol honno i Ffrainc.
O ran y gapteniaeth ychwanegodd Gatland: “Rydyn ni wedi enwi Jac fel capten ar gyfer y gêm yma ac mae’n anrhydedd mawr iddo fod yn arwain ei wlad.
“Mae’n debyg y byddwn yn cael capten gwahanol ar gyfer pob un o’r gemau wrth i ni roi cyfle i gymaint â phosibl yn y garfan greu argraff, ond gan ystyried hefyd gyfuniadau posibl wrth i ni agosáu at enwi carfan Cwpan y Byd.
O ran carreg filltir Leigh Halfpenny, meddai Gatland: “Hoffwn gyfeirio’n arbennig at Leigh Halfpenny a fydd yn ennill ei 100fed cap dros Gymru ddydd Sadwrn.
“Mae cyrraedd y garreg filltir hon yn gamp arbennig ac yn dyst i Leigh fel chwaraewr ac fel unigolyn. Rwy’n gwybod y bydd yn ddiwrnod arbennig iawn iddo ef a’i deulu.
“Mae rhai tocynnau’n dal ar gael y penwythnos yma a byddem yn annog cymaint o gefnogwyr â phosibl i ddod i lawr i ddathlu camp Leigh gyda ni a gweld y chwaraewyr newydd yn chwarae eu gemau cyntaf dros Gymru.”
Mae tocynnau ar gyfer y gêm ar gael o WRU.WALES/TICKETS
Prif garfan Cymru i chwarae yn erbyn Lloegr yng Nghyfres Haf Vodafone 2023, nos Sadwrn 5 Awst, CG 5.30pm BST. Yn fyw ar Prime Video yn Gymraeg ac yn Saesneg
15. Leigh Halfpenny (unattached / heb glwb – 99 o gapiau)
14. Louis Rees-Zammit (Gloucester Rugby / Caerloyw – 25 o gapiau)
13. George North (Ospreys / Gweilch – 113 o gapiau)
12. Max Llewellyn (Gloucester Rugby / Caerloyw – uncapped / heb gap)
11. Rio Dyer (Dragons RFC / Dreigiau – 7 o gapiau)
10. Sam Costelow (Scarlets – 2 o gapiau)
9. Gareth Davies (Scarlets – 67 o gapiau)
1. Corey Domachowski (Cardiff Rugby / Caerdydd – uncapped / heb gap)
2. Ryan Elias (Scarlets – 33 o gapiau)
3. Keiron Assiratti (Cardiff Rugby / Caerdydd – uncapped / heb gap)
4. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs / Caerwysg – 6 o gapiau)
5. Will Rowlands (Dragons RFC / Dreigiau – 23 o gapiau)
6. Christ Tshiunza (Exeter Chiefs / Caerwysg – 5 o gapiau)
7. Jac Morgan (Ospreys / Gweilch – 9 o gapiau) : captain / capten
8. Aaron Wainwright (Dragons RFC / Dreigiau – 37 o gapiau)
Eilyddion
16. Elliot Dee (Dragons RFC / Dreigiau– 41 o gapiau)
17. Nicky Smith (Ospreys / Gweilch– 42 o gapiau)
18. Henry Thomas (Montpellier – uncapped / heb gap)
19. Ben Carter (Dragons RFC / Dreigiau– 9 o gapiau)
20. Taine Plumtree (Scarlets – uncapped / heb gap)
21. Tomos Williams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 45 o gapiau)
22. Dan Biggar (Toulon – 107 o gapiau)
23. Mason Grady (Cardiff Rugby / Caerdydd – 2 o gapiau)