Mae’n garreg filltir wych i chwaraewr sydd wedi bod yn cynrychioli ei wlad ar wahanol lefelau oedran ers yn 15 oed. Wedi’i gapio ar bob lefel oedran o dan 16 hyd at y prif dîm, chwaraeodd yng Nghwpan y Byd o dan 19 oed, Pencampwriaeth y Byd o dan 20 oed ac mae bellach yn gobeithio chwarae yn ei drydydd Cwpan Byd, yn Ffrainc fis nesaf.
Mae Halfpenny’n ymuno gydag anfarwolion eraill Clwb y Can Cap dros Gymru:
Alun Wyn Jones (158 o gapiau), Gethin Jenkins (129), George North (113), Dan Biggar (107), Stephen Jones (104), Martyn Williams (100), Gareth Thomas (100), Taulupe Faletau (100)
Mae’n anhygoel meddwl ei fod ef a Dan Biggar, sydd ar y fainc dros y penwythnos yma yn yr un tîm dan 16 Cymru nôl yn 2005. Roedd y ddau yn dod o’r un clwb, Gorseinon.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Os ydych chi’n sôn am gael esiampl wych o chwaraewr proffesiynol ei agwedd, ni allech ddod o hyd i well chwaraewr na Leigh Halfpenny o ran sut mae’n paratoi,
“Gan mai nid ef yw’r chwaraewr mwyaf o ran maint corff – fe ddechreuodd ei yrfa ar yr asgell – ond mae wedi profi ei hun yn gefnwr gwych dros y blynyddoedd. Mae’n cyfaddef ei hun ei fod ychydig yn arafach erbyn hyn – ond ef yw’r cefnwr gorau’n y byd o hyd o safbwynt ei amddiffyn.
“Mae’n anrhydedd mawr iddo gyrraedd 100 o gapiau dros ei wlad ac rwy’n falch iawn ohono. Mae wedi dioddef nifer o anafiadau dros y blynyddoedd ond ‘rwy’n gobeithio y bydd dydd Sadwrn yn achlysur gwych iddo ef a’i deulu.”
Dechreuodd gyrfa ryngwladol lawn Halfpenny gyda gêm yn erbyn Pencampwr y Byd, De Affrica yn 2008 wedi iddo chwarae dim ond saith gêm o rygbi proffesiynol.
Saith mis yn ddiweddarach roedd yn teithio i Dde Affrica ar y cyntaf o’i dair taith gyda’r Llewod.
Mae bellach yn 34 oed ac wedi sgorio 785 pwynt dros ei wlad hyd yma.Ef yw trydydd sgoriwr pwyntiau uchaf Cymru y tu ôl i Neil Jenkins (1,049) a Stephen Jones (917).
Ffeithiau pellach am Leigh Halfpenny
Ganwyd
22 Rhagfyr 1988 yn Abertawe
Taldra / Pwysau
1.75m / 5′ 9″ – 83.64kg / 13st 2lbs
Addysg
Ysgol Gynradd Pontybrenin, Ysgol Gyfun Penyrheol, Coleg Abertawe
Clwb Cyntaf
Gorseinon
Clybiau
Academi y Gweilch, Clwb Rygbi Caerdydd, Gleision Caerdydd, Toulon, Scarlets
Anrhydeddau Cymru
Cymru dan 16, Dan 18, U19, Dan 20, Cymru & Y Llewod
Ymddangosiad cyntaf dros Gymru
v De Affrica 8 Tachwedd 2008 (Caerdydd)
Ymddangosiad Prawf cyntaf dros y Llewod
v Awstralia 22 Mehefin 2013 (Brisbane)
Pwyntiau dros Gymru
99 o gemau – 785 pwynt (Ceisiau: 15, Trosiadau: 76, Ciciau Cosb: 186)
Pwyntiau dros y Llewod
11 gêm – 145 pwynt (Ceisiau: 3, Trosiadau: 23, Ciciau Cosb: 28)
Anrhydeddau
Camp Lawn (2012), Ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad (2013, 2021), Chwaraewr Gorau y Chwe Gwlad (2013).
Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru (2013), teithiau Llewod (2009, 2013, 2017), Chwaraewr Cyfres y Llewod (2013), Cwpan Ynni EDF (2009), Cwpan Her Ewrop (2010), Cwpan Pencampwyr Heineken (2015)