Gwnaeth Warren Gatland 15 o newidiadau i’r tîm ddechreuodd yr ornest yn Stadiwm Principality wythnos ynghynt – ac o dan arweiniad Dewi Lake am y tro cyntaf erioed – cafwyd perfformiad cystadleuol gan y Cymry – er na lwyddwyd i greu llawer o gyfleoedd na chipio’r fuddugoliaeth.
Ar achlysur hanner canfed cap Josh Adams a chap cyntaf canolwr y Scarlets, Joe Roberts – y tîm cartref ddechreuodd ar y droed flaen – ac wedi i Dan Lydiate gamsefyll – hawliodd Owen Farrell ei driphwynt cyntaf o’r prynhawn wedi 9 munud o chwarae.
Fel yr wythnos ddiwethaf, Lloegr reolodd y meddiant yn gynnar yn y gêm ac fel yr wythnos ddiwethaf hefyd, ’roedd y ddau dîm yn euog o ildio’r meddiant yn rhy aml unwaith yn rhagor.
Wedi 26 munud o chwarae bu’n rhaid i’r capten Dewi Lake adael y maes – ond gan iddo gerdded o’r cae – y gobaith yw nad yw’r anaf i’w benglin, yn mynd i amharu ar ei obeithion o deithio i Ffrainc ymhen llai na mis. Ei gyd-chwaraewr gyda’r Gweilch Sam Parry ddaeth ymlaen fel eilydd yn ei le.
Gyda 9 munud yn weddill o’r cyfnod cyntaf dangoswyd cerdyn melyn i Henry Arundell am atal ymosodiad addawol gan Liam Williams yn anghyfreithlon – ond methiant fu ymdrechion y Cymry i greu argraff ar y sgorfwrdd gyda’r dyn o fantais. Yn wir gyda chic ola’r cyfnod cyntaf – hawliodd Farrell ei ail gic gosb o’r ornest gan roi Lloegr 6 phwynt ar y blaen wrth droi.
Hanner Amser Lloegr 6 Cymru 0.
Yn wahanol i’r wythnos ddiwethaf pan ddechreuodd y Cymry’r ail gyfnod ar dân – dangoswyd cerdyn melyn i Tommy Reffell wedi llai na munud o’r ail-ddechrau – ac yn sydyn ‘roedd y crysau cochion i lawr i 14 dyn a 9 pwynt ar ei hôl hi gan i Farrell hawlio’i drydedd gôl gosb gyda’i drydydd ymdrech.
Gyda chymorth y postyn – fe sgoriodd Owen Williams driphwynt cyntaf Cymru o’r prynhawn 4 munud yn ddiweddarach.
Mewn gornest heb fawr o eiliadau cofiadwy – daeth yr eilydd o brop Kemsley Mathias i’r maes gyda hanner awr yn weddill i wireddu ei freuddwyd o gynrychioli ei wlad am y tro cyntaf. Yn ddiweddarach yn ystod y gêm profodd y canolwr Keiran Williams yn un fraint a gwefr.
‘Roedd y dyfanwr Nika Amashukeli o Georgia wedi rhybuddio’r blaenwyr am eu diffyg disgyblaeth yn y sgrym ac wedi 57 munud – dangoswyd cerdyn melyn i Ellis Genge.
O fewn munud, ‘roedd Cymru wedi sgorio cais cynta’r gêm – a gan i Freddie Steward daclo Josh Adams yn yr awyr wedi iddo hawlio’r bêl – dynodwyd cais cosb i’r ymwelwyr ac ‘roedd y crysau coch ar y blaen am y tro cyntaf – ac ‘roedd ganddynt fantais o ddau ddyn am gyfnod.
Wedi 63 munud cafwyd eiliad allweddol yn y gêm wrth i Owen Farrell weld cerdyn coch (yn y pendraw) am y tro cyntaf yn ei yrfa ryngwladol – am dacl anghyfrifol ar Taine Basham olygodd mai 12 chwaraewr oedd gan y Saeson ar y cae. Oherwydd difrifoldeb y dacl – mae’n bosib y bydd Farrell yn colli mwyafrif cystadleuaeth Cwpan y Byd.
O fewn llai na munud, ‘roedd Cymru wedi cymryd mantais ar y sefyllfa – ac yn dilyn gwaith creu gan Joe Roberts, fe groesodd Tomos Williams am ail gais ei dîm. ‘Roedd trosiad Biggar yn golygu bod dwy sgôr yn gwahanu’r timau.
Tro’r Cymry oedd hi i ddangos diffyg disgyblaeth gwta ddau funud yn ddiweddarach wrth i Maro Itoje groesi am gais cyntaf Lloegr – tipyn o gamp i’r ddeuddeg dyn. Yn dilyn trosiad George Ford – pwynt yn unig oedd yn gwahanu’r timau.
‘Roedd leiniau Cymru’n drafferthus drwy’r prynhawn ac amlygwyd eu diffyg disgyblaeth hwythau hefyd gyda 5 munud ar ôl wrth i Adam Beard weld cerdyn melyn. Rhoddodd cic gosb Ford y Saeson ar y blaen wedi iddynt fod ar ei hôl hi o 8 pwynt gyda 12 dyn ddeng munud ynghynt.
Colled siomedig i Gymru mewn gêm y dylid fod wedi ei hennill.
Ar achlysur ei hanner canfed cap dywedodd Joash Adams:
“Ni’n falch o’r ymdrech. Pan oedd Lloegr i lawr i ddeuddeg, ‘roedd y gêm yna i ni.
“Roedd hon yn gêm y dylen ni fod wedi ei hennill.” medd Josh Adams.
Sgôr Terfynol Lloegr 19 Cymru 17.
Bydd Warren Gatland a’i garfan yn cwblhau eu paratodau ar gyfer Cwpan y Byd wrth groesawu Pencampwyr y Byd, De Affrica i Stadiwm Principality ar Awst 19eg.
Mae Cymru yng Ngrŵp C yng Nghwpan y Byd gyda Awstralia, Fiji, Georgia a Phortiwgal. Mae eu gemau fel a ganlyn:
Dydd Sul, 9 Medi: Cymru v Fiji, Stade de Bordeaux (cic gyntaf 8.00pm / 9.00pm amser lleol)
Dydd Sadwrn, 16 Medi: Cymru v Portiwgal, Stade de Nice (4.45pm / 5.45pm amser lleol)
Dydd Sul, 24 Medi: Cymru v Awstralia, Stadiwm OL, Lyon (8.00pm / 9.00pm amser lleol)
Dydd Sadwrn, 7 Hydref: Cymru v Georgia, Stade de la Beaujoire, Nantes (2.00pm / 3.00pm amser lleol).