Mae aelodau’r garfan o 24 o chwaraewyr wedi ennill 631 o gapiau rhyngwladol ac yn cynnwys Pencampwyr Byd. Byddant yn cael eu hyfforddi gan Sean Lynn a arweiniodd Caerloyw-Hartpury at Bencampwriaeth y Premier 15 y tymor diwethaf ar gyfer y ddwy ornest yn erbyn Munster a De Affrica.
Bydd cyn gapten Cymru, Siwan Lillicrap yn cynorthwyo Lynn gyda’r hyfforddi tra bydd dau gynrychiolydd o Gymru ymysg y garfan – sef Elinor Snowsill a Gemma Rowland.
Dywedodd Lillicrap: ‘Mae’n fraint arbennig i mi gael gweithio gyda’r Barbariaid.
‘Mae’n gyfle gwych i mi weithio gyda chwaraewyr o bedwar ban y byd – menywod sydd wedi dylanwadu’n enfawr ar ddatblygiad y gêm dros y blynyddoedd.
‘Bydd cyd-weithio gydag Elinor a Gemma unwaith eto’n brofiad gwych hefyd.
‘Sean oedd fy hyfforddwr yng Nghaerloyw-Hartpury pan benderfynais roi’r gorau i chwarae ac felly mae bod yn rhan o’i dîm hyfforddi ef yn hynod o gyffrous. Mae Sean yn Gymro ac mae gan y ddau ohonom gysylltiad clos iawn gyda Chlwb Rygbi Waunarlwydd sy’n gwneud pethau hyd yn oed yn fwy arbennig.”
Fiona Stockley sefydlodd Barbariaid y Menywod ac mae hi’n arbennig o falch bod y tîm am deithio unwaith eto:
“Mae hi wedi bod yn ddwy flynedd ers i ni drechu De Affrica yn Twickenham ac felly mae’n braf iawn ein bod yn gallu teithio i Cape Town i’w herio unwaith yn rhagor. Mae hi’n ddinas sy’n caru ei rygbi ac felly mae’n addo i fod yn dipyn o achlysur.
“Byddwn wedyn yn teithio i leoliad ein gornest gyntaf erioed fel Barabariaid y Menywod sef Munster. Bydd y gemau yn Ne Affrica ac yn Iwerddon yn ddigwyddiadau pwysig a chofiadwy.”
Bydd carfan Menywod y Barbariaid yn teithio i Cape Town i herio XV De Affrica ar gyfer y gêm ar Fedi’r 23ain fydd yn cael ei chynnal yn Stadiwm Athlone (4.30pm).
Wedi hynny, byddant yn teithio i Barc Thomond ar gyfer gwledd o rygbi Barbaraidd gan y bydd y Menywod (2.30pm) ac yna’r dynion (4.30pm) yn herio timau Munster ar Fedi’r 30ain.
Mae tocynnau ar gyfer gemau Parc Thomond ar gael yma: here.