Ychydig cyn y gic gyntaf bu’n rhaid i Tommy Reffell dynnu yn ôl o’r pymtheg cychwynol ac felly fe gymrodd Jac Morgan ei le ar yr eiliad olaf.
Enillodd Cymru’n hawdd o 102-12 y tro diwethaf i’r ddwy wlad gyfarfod ym 1994 ac ar yr achlysur hwnnw fe sgoriodd Prif Weithredwr dros dro presennol Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker 4 o 15 cais ei wlad.
Nôl yn y gêm honno yn Lisbon – dim ond munud a hanner gymrodd hi i Scott Quinnell groesi am gais cyntaf Cymru – ond er i Bortiwgal bwyso’n gynnar yn Nice – Louis Rees-Zammit hawliodd sgôr cynta’r gêm, wrth iddo groesi am ei ail gais o’r gystadleuaeth, wedi 8 munud o chwarae – yn dilyn bylchiad effeithiol gan Jac Morgan.
Troswyd y cais yn gelfydd gan Leigh Halfpenny.
Cyn asgellwr Ffrainc, Patrice Lagisguet yw Prif Hyfforddwr ‘Los Lobos’ bellach ac fe chwaraeodd ei dîm yn gorfforol a mentrus yn eu gêm gyntaf o’r gystadleuaeth eleni. Oni bai am dacl arwrol Taulupe Faletau ar Nicolas Martins wedi chwarter awr o chwarae, byddai Portiwgal wedi gallu croesi yng nghysgod y pyst.
Gyda 15 munud o’r cyfnod cyntaf ar ôl – ar achlysur ei ymddangosiad cyntaf erioed yng Nghwpan y Byd – derbyniodd Johnny Williams gerdyn melyn am drosedd ar y llawr. Wrth iddo baratoi i ddychwelyd i’r maes – hawliodd Samuel Marques o glwb Beziers, bwyntiau cyntaf ei wlad o’r Bencampwriaeth gyda gôl gosb o flaen y pyst.
Gyda chloc y cyfnod cyntaf yn amser yr amen – fe gymrodd y Capten Dewi Lake gic gosb yn sydyn ac roedd ei gryfder a’i dechneg yn ddigon i’w gario dros y gwyngalch. Gydag ail drosiad Halfpenny, roedd mantais y Cymry, yn eu crysau du a melyn, yn 14-3.
Sgôr ar yr Egwyl: Cymru 14 Portiwgal 3
Gyda Chymru yn 8fed ymhlith detholion y byd a Phortiwgal yn 16eg, roedd disgwyl i Gymru ddangos eu goruchafiaeth wedi troi. Gyda chwarter awr o’r ail gyfnod wedi ei chwarae , roedd Warren Gatland wedi newid 5 aelod o’r pac ac fe dalodd hynny ar ei ganfed wrth i chwarae tynn yr wyth blaen arwain at gais syml i Jac Morgan.
Trosodd Leigh Halfpenny ei drydydd trosiad o’r prynhawn yn ddi-drafferth hefyd i agor bwlch o 18 pwynt rhwng y ddau dîm.
Dim ond am 7 munud y parhaodd y fantais honno gan i chwarae effeithiol o lein arwain at gais haeddiannol i Nicolas Martins – arweiniodd at floedd uchaf y prynhawn yn y Stade de Nice.
Nôd Cymru heb amheuaeth cyn y gic gyntaf oedd ennill yr ornest a sgorio o leiaf 4 cais er mwyn sicrhau’r pwynt bonws a gyda chwe munud yn weddill, roedd y Cymry’n meddwl eu bod wedi cwblhau eu gwaith am y dydd wedi i Gareth Davies dirio. Wedi i’r dyfarnwr, Karl Dixon studio’r lluniau teledu – ni chaniatawyd y cais gan bod Domachowski wedi atal tacl bosib ar Rees-Zammit.
3 munud cyn y chwiban olaf, dangoswyd cerdyn melyn i asgellwr Portiwgal Vincent Pinto (uwchraddiwyd i goch yn y pendraw) – a gyda symudiad olaf yr ornest, dangosodd Taulupe Faletau ei gryfder a’i ddawn gan sicrhau ochenaid o ryddhad i’r garfan a’r cefnogwyr gan bo’r pwynt bonws allweddol wedi ei hawlio o drwch blewyn.
Sgôr Terfynol: Cymru 28 Portiwgal 8
Yn dilyn buddugoliaeth glos Cymru yn erbyn Ffiji wythnos yn ôl – bydd yr ornest rhwng yr Ynyswyr ac Awstralia yn Saint-Étienne yfory yn ddylanwadol wrth benderfynu tynged Grŵp C cyn i fechgyn Warren Gatland herio’r Wallabies yn Lyon nos Sul nesaf.
Wedi’r chwiban olaf dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Warren Gatland: “Doedd y perfformiad ddim yn bert ac roedd hi’n amlwg nad oedd rhai o’n chwaraewyr wedi chwarae llawer o rygbi’n ddiweddar. Ond fe hawlion ni’r pwynt bonws ac felly fe edrychwn ymlaen at y gêm nesaf.”
Ychwanegod Capten Cymru ar y dydd Dewi Lake: “Chwarae teg i Portiwgal am aros gyda ni am 80 munud ond y peth pwysicaf i ni oedd cael y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws”
Dywedodd Ryan Elias: “Roedd e’n enfawr i gael y pedwerydd cais. Roedd Portiwgal yn dîm anodd iawn i’w torri lawr ac fe ddalion nhw ati tan y chwiban olaf ac felly mae’n bois ni’n falch iawn o’r fuddugoliaeth.”