Er bod taith Cymru yng Nghwpan y Byd wedi dod i ben ym Marseille ddydd Sadwrn, yn dilyn y golled yn erbyn Ariannin – mae Prif Hyfforddwr Cymru yn credu bod pedair buddugoliaeth y tîm yn y gemau grŵp wedi gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwelliant pellach.
Bydd cyfle buan i’r garfan ddod ynghŷd unwaith eto pan fydd XV Cymru yn herio’r Barbariaid yn Stadiwm Principality ar y 4ydd o Dachwedd. Dim ond 111 o ddyddiau sydd tan i Gymru groesawu’r Alban yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Dwy ornest oddi-cartref yn Twickenham a Dulyn fydd yn dilyn honno – cyn gorffen y gystadleuaeth gyda dwy gêm gartref yn erbyn Ffrainc a’r Eidal.
Dywedodd Warren Gatland: “Ry’n ni gyd yn siomedig tu hwnt ein bod wedi colli yn erbyn Ariannin – fe gollon ni gyfle mawr i greu argraff pellach.
“Mae’n rhaid i ni ddysgu o’r golled honno a chanolbwyntio ar ddatblygu a gwella’r garfan.
“Fe giciodd yr Archentwyr yn gyson yn y gêm ac efallai i ni geisio chwarae ychydig gormod gyda’r bêl yn ein dwylo.
“Rwy’n hynod o falch o’r chwaraewyr a’r ymdrech anferthol maen nhw wedi ei roi dros y misoedd diwethaf.
“Mae pob chwaraewr a phob aelod o’r staff wedi bod yn wych.
“Mae’n rhaid i ni barhau i wella a gwneud yn siwr nad ydym yn cymryd cam yn ôl yn dilyn yr holl waith caled.
“Doedd dim llawer o bobl yn credu y bydden ni’n dod allan o’r grŵp – ond fe lwyddon ni i wneud hynny wrth gwrs.
“Roedd y chwaraewyr i gyd yn ben-isel iawn yn yr ystafell newid nos Sadwrn – ond fe ddywedais wrthyn nhw i fod yn hynod falch o’u hymdrechion.”