Neidio i'r prif gynnwys
Leigh Halfpenny

Leigh Halfpenny’n cyhoeddi ei fod am ymddeol o rygbi rhyngwladol

Halfpenny i ymddeol wedi gêm y Barbariaid

Mae Leigh Halfpenny wedi cadarnhau y bydd yn ymddeol o rygbi rhyngwladol yn dilyn yr ornest rhwng Cymru a’r Barbariaid ar y 4ydd o Dachwedd.

Rhannu:

Dywedodd Halfpenny, sydd wedi ennill 101 o gapiau dros Gymru, ar y cyfryngau cymdeithasol: “Ers Cwpan y Byd ‘rwyf wedi cael ychydig o amser i ystyried popeth a a gyda chalon drom, ‘rwyf wedi penderfynu mai camu o’r llwyfan rhyngwladol yw’r peth cywir i’w wneud.

“Doedd gwneud y penderfyniad ddim yn hawdd – ond mae’n teimlo fel yr amser cywir i roi’r gorau iddi. ‘Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at redeg allan yn y Stadiwm am y tro olaf yn erbyn y Barbariaid yr wythnos nesaf.

“Mae hi wedi bod yn fraint aruthrol gwisgo crys Cymru a chynrychioli fy ngwlad dros y 15 mlynedd ddiwethaf. ‘Roedd hi’n freuddwyd gennyf – pan oeddwn yn chwarae dros Gorseinon yn blentyn – i wisgo crys coch Cymru rhyw ddydd. ‘Rwyf wedi cael y cyfle i greu atgofion bythgofiadwy.

“’Rwyf wedi profi cyfnodau gwych ac anodd fel ei gilydd yn ystod fy ngyrfa ryngwladol a does dim all gymharu â’r wefr a’r balchder o redeg mas ar faes y Principality i gynrychioli fy ngwlad a chanu Hen Wlad fy Nhadau. ‘Rwyf yn mynd i weld eisiau profi’r fraint honno yn y dyfodol – ond ‘rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfleoedd gwych yr wyf wedi eu cael dros y blynyddoedd. Byddaf yn trysori yr atgofion hynny a’r cyfeillgarwch arbennig yr wyf wedi ei brofi dros y blynyddoedd. ‘Rwy’n ddyledus iawn i bob un sydd wedi fy helpu ar fy nhaith ac ‘rwy’n cael fy nghyffroi wrth weld y talent sy’n amlygu ei hun yn y garfan ar hyn o bryd ac yn hyderus y gallant gyflawni rhywbeth arbennig. Mae’n amser i mi gefnogi’r bechgyn o’r eisteddle erbyn hyn.

“Hoffwn ddweud diolch anferthol wrth yr holl chwaraewyr, hyfforddwyr a staff yr wyf wedi cael y fraint o gydweithio gyda nhw dros y blynyddoedd. Felly hefyd fy nheulu a fy ffrindiau sydd wastad wedi bod yn gefn i mi yn ystod yr amseroedd da a’r cyfnodau heriol hefyd.

“Mae cariad a chefnogaeth Jess a’r merched wedi bod mor werthfawr i mi ac ‘roedd cynrychioli fy ngwlad gyda Lily a Jess yn fy ngwylio – yn eiliad llawn balchder i mi.

“Er fy mod yn ffarwelio â’r llwyfan rhyngwladol, byddaf yn parhau i chwarae’r gêm sydd wedi cynnig gymaint o brofiadau gwych i mi, ac ‘rwy’n edrych ymlaen at yr her gyffrous newydd honno. Byddaf mewn sefyllfa i gadarnhau’r manylion am hynny yn fuan. Diolch.”

Mae Halfpenny yn aelod o griw dethol iawn sydd wedi ennill dros gant o gapiau dros Gymru. Dim ond chwech o chwaraewyr sydd wedi cynrychioli Cymru’n amlach nag ef. Ymddangosodd mewn pedair gêm brawf i’r Llewod hefyd ar deithiau 2013 & 2017 – gan gael ei enwi’n ‘Chwaraewr y Daith’ yn 2013.

Yn ystod ei yrfa ryngwladol dros gyfnod o 15 mlynedd, sgoriodd 801 o bwyntiau. Dim ond Neil Jenkins (1,049) a Stephen Jones (917) sydd wedi hawlio mwy o bwyntiau na Leigh Halfpenny dros Gymru.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Mae Leigh wedi cael gyrfa wych dros Gymru. Fe ddechreuodd ar yr asgell wrth gwrs cyn hawlio’i le’n gefnwr. Yn fwy na thebyg, Leigh oedd cefnwr amddiffynnol gorau’r byd ac ‘roedd yn giciwr gwych at y pyst hefyd.

“Mae wedi gorfod dygymod â nifer o anafiadau yn ystod ei yrfa – ond mae e wastad wedi taro’n ôl.

“Mae e wastad wedi gosod esiampl arbennig ac wedi ymddwyn yn broffesiynol trwy gydol ei yrfa. Fe gewch chi drafferth dod o hyd i unrhywun sy’n ymarfer mor galed, a pharatoi mor drylwyr ar gyfer gêm â Leigh. Mae’n broffesiynol o’i gorun i’w sawdl.

“Hoffwn ddiolch i Leigh am ei gyfraniad gwerthfawr iawn i rygbi Cymru a hoffwn ddymuno’r gorau iddo yn y dyfodol.’Rwy’n gwybod bod ei deulu a’i ffrindiau’n hynod o falch ohonno o’r hyn y mae wedi ei gyflawni.

“ ‘Rwy’n edrych ymlaen at ei wylio’n chwarae yn Stadiwm Principality am y tro olaf yn erbyn y Barbariaid ar y 4ydd o Dachwedd ac ‘rwy’n gobeithio y bydd pawb all ddod yno, yn dathlu gyrfaoedd Leigh ac Alun Wyn Jones, gyda ni y diwrnod hwnnw.”

Halfpenny oedd rhif 1060 wrth gynrychioli ei wlad ac ‘roedd Dan Biggar, Jonathan Davies, Justin Tipuric, Sam Warburton a Rhys Webb yn aelodau o’r un tîm o dan 20 ag ef – aeth ymlaen i ennill Camp Lawn y tîm hŷn a chynrychioli’r Llewod hefyd.

Dechreuodd ei yrfa rygbi gyda chlwb Gorseinon ac ‘roedd ei dad-cu, Malcolm, yn ei annog i ymarfer ei gicio’n gyson. Ymunodd ag academi’r Gweilch cyn iddo arwyddo gyda Gleision Caerdydd cyn dechrau tymor 2007/08. Cynrychiolodd ranbarth y Brifddinas am y to cyntaf yn erbyn Ulster ym mis Mai 2008 ac aeth ymlaen i chwarae 19 o weithiau yn ystod y tymor cyntaf hwnnw gan sgorio 178 o bwyntiau.

Enillodd ei gap cyntaf y flwyddyn honno hefyd – fel asgellwr yn erbyn De Affrica ym mis Tachwedd 2008 pan sgoriodd ei bwyntiau rhyngwladol cyntaf. Sgoriodd gais yn ei gêm Chwe Gwlad Cyntaf yn erbyn yr Alban y gwanwyn canlynol ac fe groesodd yn erbyn Lloegr yn y fuddugoliaeth o 23-15 yn  y Bencampwriaeth hefyd.

Halfpenny oedd aelod ieuengaf carfan y Llewod yn 2009 ar y daith i Dde Affrica ond bu’n rhaid iddo ddod adref yn gynnar o ganlyniad i anaf i’w goes. Buan iawn yr hawliodd ei le yn ôl yn nhîm Cymru o dan arweiniad Warren Gatland ac fe chwaraeodd chwech o’r saith gêm yng Nghwpan y Byd 2011.

 

Leigh Halfpenny

Chwaraeodd mewn tair cystadleuaeth Cwpan y Byd a phedair gêm brawf i’r Llewod

‘Roedd ei gicio cywir yn allweddol wrth iddo sgorio 66 o bwyntiau yn ymgyrch lwyddiannus Cymru i gipio’r Gamp Lawn yn 2012 ac o’r herwydd cafodd ei enwi’n ‘Chwaraewr Gorau’r Bencampwriaeth’.

Cafodd ei ddewis ar gyfer taith y Llewod am yr eildro yn 2013 gan chwarae rhan amlwg fel cefnwr yn y fuddugoliaeth o ddwy gêm brawf i un. Yn ystod y gemau prawf hynny, fe chwalodd record Neil Jenkins o 49 pwynt. Fe sgoriodd 21 o bwyntiau yn y prawf olaf – sydd hefyd yn record.

Cafodd ei enwi’n ‘Chwaraewr y Gyfres’ ac fe enillodd wobr ‘Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru’ yn 2013. ‘Roedd yn ail i Andy Murray am deitl ‘Personoliaeth Chwaraeon y BBC’ y flwyddyn honno hefyd.

Ar y daith honno gyda’r Llewod – fe lwyddodd gydag 89% o’i giciau gosod – 40/45 a doedd hi’n ddim syndod felly pan gafodd ei ddewis ar gyfer ei drydedd taith yn 2017. Daeth i’r maes o’r fainc yn y Prawf Cyntaf i ennill ei bedwerydd cap dros y Llewod.

Fe sgoriodd ddau gais wrth i Leision Caerdydd ennill y Cwpan Eingl-Gymreig yn Twickenham yn 2009 ac fe groesodd hefyd yn ffeinal Cwpan Her Ewrop flwyddyn yn ddiweddarach yn ystod y fuddugoliaeth gofiadwy honno ym Marseille.

Gadawodd y Gleision yn 2014 pan ymunodd â Toulon – a blwyddyn yn ddiweddarach enillodd Gwpan Pencampwyr Ewrop pan drechwyd Clermont Auvergne (oedd yn cynnwys Jonathan Daives yn eu tîm) yn Twickenham. Fe sgoriodd Halfpenny 14 o bwyntiau yn y Ffeinal yn 2015.

Golygodd anaf gwael iawn i’w ben-glîn nad oedd hi’n bosib i Halfpenny gymryd unrhyw ran yng Nghwpan y Byd yn 2015 ond 13 mis yn ddiweddarch, ‘roedd yn ôl yn nhîm Cymru i herio Awstralia yng Nghyfres yr Hydref.

Daeth cyfnod Halfpenny yn Toulon i ben yn 2017 ac fe ymunodd â’r Scarlets. Er iddynt gyrraedd Rownd Derfynol y Cynghrair (PRO14 Guinness) yn 2018 – colli fu eu hanes yn erbyn Leinster yn Nulyn.

Gan fod ganddo eisoes bedwar cap dros y Llewod, ‘roedd ymddangosiad rhif 96 Halfpenny dros ei wlad yn golygu iddo gyrraedd y garreg filltir nodedig o 100 cap rhyngwladol yn erbyn Canada yn 2021. Yn anffodus iawn i Leigh Halfpenny fe anafodd ei ben-glîn unwaith yn rhagor ym munud cyntaf yr ornest a bu’n rhaid iddo aros tan 2022 tan iddo gynrychioli Cymru eto – pan gamodd o’r fainc i wynebu Georgia.

Chwaraeodd yn erbyn Lloegr a Ffrainc ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2023 ac fe gafodd ei ddewis ar gyfer Carfan Ymarfer Cwpan y Byd. Yn y gêm baratoadol gyntaf yn erbyn Lloegr – enillodd Halfpenny ei 100fed cap dros ei wlad ac fe enillodd Cymru y gêm hefyd.

Cafodd Halfpenny ei ddewis ar gyfer y garfan deithiodd i Ffrainc ar gyfer Cwpan y Byd. Yn erbyn Portiwgal ar Fedi’r 16ed – fe gynrychiolodd ei wlad am y 10fed tro yng Nghwpan y Byd, yn dilyn ei ymddangosiadau yng nghystadleuthau 2011 a 2019.

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Halfpenny i ymddeol wedi gêm y Barbariaid
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Halfpenny i ymddeol wedi gêm y Barbariaid
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Halfpenny i ymddeol wedi gêm y Barbariaid
Rhino Rugby
Sportseen
Halfpenny i ymddeol wedi gêm y Barbariaid
Halfpenny i ymddeol wedi gêm y Barbariaid
Halfpenny i ymddeol wedi gêm y Barbariaid
Halfpenny i ymddeol wedi gêm y Barbariaid
Halfpenny i ymddeol wedi gêm y Barbariaid
Halfpenny i ymddeol wedi gêm y Barbariaid
Amber Energy
Opro
Halfpenny i ymddeol wedi gêm y Barbariaid