Neidio i'r prif gynnwys
Dydd y Farn – Tocynnau ar werth nawr

Dydd y Farn – Tocynnau ar werth nawr

Mae Dydd y Farn – diwrnod mawr i’r teulu i gyd – yn ôl yn 2024.  Bydd y carnifal hwn o rygbi’n digwydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar y 1af o Fehefin pan fydd y pedwar rhanbarth o Gymru yn chwarae ar yr un diwrnod – yn yr un lle.

Rhannu:

Bydd y gemau yn Rownd 18 o Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT rhwng y Scarlets a’r Dreigiau ac yna Caerdydd yn erbyn y Gweilch, yn tynnu dŵr i’r dannedd.

Bu’n rhaid symud y gemau o Stadiwm Principality gan bo’r tymor rygbi domestig wedi dechrau’n hwyr. O ganlyniad i Gwpan y Byd, mae’n rhaid cynnal gemau olaf y tymor arferol fis Mehefin yn hytrach nac ar ddiwedd mis Mawrth neu ddechrau Ebrill.

Bydd tocynnau’n mynd ar werth i’r cyhoedd heddiw – Dydd Mawrth 5 Rhagfyr – am 10 y bore. Byddant ar gael trwy wefan docynnau Clwb Pêl-droed Caerdydd. Mae prisiau’r tocynnau ar gyfer Dydd y Farn 2024 wedi eu cadw ar yr un pris â’r llynedd ac mae nifer cyfyngedig o dicedi ar gael am £10 oedolion / £5 plant.

Bydd deiliaid tocynnau tymor y ddau glwb cartref – sef y Scarlets a Chaerdydd – yn cael mynediad i’r ddwy gêm a bydd modd iddynt brynu tocynnau ychwanegol ar gyfer y gemau hefyd – fel y gallant eistedd gyda ffrindiau neu deulu. Bydd y ddau ranbarth yn rhannu gwybodaeth pellach am y ddarpariaeth ar gyfer deiliaid tocyn tymor.

Unwaith eto, bydd ymdeimlad cryf o gymuned yn rhan allweddol o’r digwyddiad. Bydd hyn yn cynnwys gŵyl rygbi ieuenctid gyda chlybiau o bob rhan o Gymru, a rhaglen o ddawnsio a symud hefyd! Bydd cerddoriaeth ac adloniaint o safon ar gael ym mhris y tocyn – heb sôn am yr hawl i wylio’r ddwy gêm. Scarlets v Dreigiau (15.00) a Chaerdydd v Gweilch (17.15).

Dywedodd Prif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker: “Mae Dydd y Farn yn un o’r uchafbwyntiau yng nghalendr Rygbi Cymru.

“Mae’n ddegawd a mwy bellach ers i’r achlysur gael ei gynnal gyntaf yng Nghaerdydd ac mae wedi profi’n gyson boblogaidd gyda chefnogwyr a theuluoedd sy’n mwynhau diwrnod da’n gwylio rhai o sêr y gamp yn dangos eu doniau wrth gynrychioli eu rhanbarthau.

“Mae Stadiwm Dinas Caerdydd yn lleoliad arbennig i gynnal y digwyddiad ac ‘rwy’n hyderus y gwnawn nhw waith gwych yn ei gynnal.

“Hoffwn ddymuno’r gorau iddynt ac ‘rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i’r digwyddiad a gwylio rygbi cyffrous o’r safon uchaf. Mewn stadiwm dan ei sang.”

Dywedodd Martin Anayi o Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT: “Bydd hwn yn ddigwyddiad unigryw i rygbi rhanbarthol mewn stadiwm o’r radd flaenaf. Gan y bydd y dorf mor agos at y maes chwarae bydd yr awyrgylch yn siwr o fod yn drydanol.

“Rydym wedi ystyried cynnal gemau terfynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd o’r blaen gan fod popeth sydd ei angen ar gefnogwyr yno. Bydd yr awyrgylch ar y dydd yn arbennig a dylai’r borfa a’r heulwen gyfrannu at achlysur campus a rygbi o’r radd flaenaf.”

Dydd y Farn – Prisiau Tocynnau – Ar gael yma

SCARLETS v DREIGIAU & CAERDYDD v GWEILCH

CAT A
Oedolyn: £35
Gostyngiad: (Dros 65 oed/Myfyrwyr Llawn Amser): £25
O dan16: £15

CAT B
Oedolyn: £25
Gostyngiad: (Dros 65 oed/Myfyrwyr Llawn Amser): £20
O dan 16: £15

CAT C (Nifer Cyfyngedig ar Gael)
Oedolyn & Gostyngiad: £10
O dan 16 : £5

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Dydd y Farn – Tocynnau ar werth nawr
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Dydd y Farn – Tocynnau ar werth nawr
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Dydd y Farn – Tocynnau ar werth nawr
Rhino Rugby
Sportseen
Dydd y Farn – Tocynnau ar werth nawr
Dydd y Farn – Tocynnau ar werth nawr
Dydd y Farn – Tocynnau ar werth nawr
Dydd y Farn – Tocynnau ar werth nawr
Dydd y Farn – Tocynnau ar werth nawr
Dydd y Farn – Tocynnau ar werth nawr
Amber Energy
Opro
Dydd y Farn – Tocynnau ar werth nawr