Fe gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru eu cynlluniau ar gyfer hyrwyddo camp y menywod ymhellach yn ddiweddar – wrth greu’r ddau dîm newydd i gystadlu’n yr Her Geltaidd y tymor hwn.
Bydd Gwalia Lightning a Brython Thunder yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth draws ffiniol yn 2024 a byddant yn herio’i gilydd yn yr ornest gyntaf ar Rodney Parade.
Bydd cefnogwyr sy’n prynu tocyn ar gyfer y dathliad hwn o rygbi ar Ddydd Calan yn cael gwylio dwy gêm o safon am bris un!
Bydd Brython Thunder – fydd yn gwisgo coch a du – a Gwalia Lightning – fydd yn gwisgo glas a melyn – yn chwarae am 2pm.
Yna am 5.15pm bydd y Dreigiau’n herio’r Scarlets ym Mhencampwriaeth Unedig BKT. Dywedodd Graeme Bradbury, Prif Weithredwr Dros Dro’r Dreigiau: “Mae pawb yma’n y Dreigiau wrth ein bodd y bydd y gêm gytaf erioed rhwng Gwalia Lightning a Brython Thunder yn yr Her Geltaidd yn cael ei chynnal yn ein cartref ni yma yn Rodney Parade.
“Mae’n wych ein bod yn gallu cynnig ein cefnogaeth ymarferol i hyrwyddo camp y menywod a chynnig y cyfle i gefnogwyr rygbi ddechrau’r flwyddyn newydd mewn steil – trwy wylio dwy ornest o safon.”
Dywedodd John Alder, Pennaeth Datblygu Chwaraewyr Undeb Rygbi Cymru:“Mae cynnal y gêm rhwng Gwalia Lightning a Brython Thunder fel rhan o ddiwrnod penigamp o rygbi yn rhywbeth hanesyddol ac yn rhywbeth i’w groesawu’n fawr hefyd. Mae fformat yr Her Geltaidd wedi newid ac wedi ei gryfhau ar gyfer 2024 – ac mae dechrau’r gystadleuaeth honno trwy gael y ddau dîm Cymreig newydd yn herio’i gilydd yn hanesyddol a chyffrous.
“Hoffwn ddiolch i’r Dreigiau am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad – sydd wedi ein galluogi i nodi’r buddsoddiad diweddaraf yng nghamp y menywod yma yng Nghymru.”
Mae tocynnau ar gyfer y ddwy gêm yn Rodney Parade ar gael i’w prynu YMA NAWR:
Gallwch hefyd ffonio Adran Docynnau Rodney Parade ar 01633 670690.
Am fwy o wybodaeth am Gwalia Lightning, Brython Thunder a’r Her Geltaidd – CLICIWCH Y DDOLEN HON
Cyhoeddwyd y manylion am Brif Hyfforddwyr a thimau hyfforddi Gwalia Lightning a Brython Thunder yr wythnos ddiwethaf. Am fanylion pellach CLICIWCH YMA