Neidio i'r prif gynnwys
Celtic Challenge

Catherine Richards, Alex Callender, Gwennan Hopkins and Ellie Tromans sport the new kit

Carfannau Brython Thunder a Gwalia Lightning wedi eu cyhoeddi

Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch o gyhoeddi carfannau Brython Thunder a Gwalia Lightning ar gyfer eu hymgyrchoedd yn yr Her Geltaidd yn y Flwyddyn Newydd.

Rhannu:

Mae’r ddau Brif Hyfforddwr, sydd wedi cynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol – Catrina Nicholas-McLaughlin (Gwalia Lightning) ac Ashley Beck (Brython Thunder) wedi enwi carfannau sy’n cynnwys 30 o chwaraewyr yr un.

Undeb Rygbi Cymru sy’n berchen ar y ddau dîm newydd yma – fydd yn herio gwrthwynebwyr o’r Alban ac Iwerddon yn yr Her Geltaidd.

Bydd y ddau dîm Cymreig yn herio’i gilydd yn eu gêm gyntaf erioed yn Rodney Parade Ddydd Calan (2pm).

Enillodd Ashley Beck, saith o gapiau dros ei wlad – ac ef oedd Hyfforddwr Ymosod tîm Menywod Caerwrangon tan eu tranc anffodus fis Tachwedd. Mae Beck wedi enwi carfan gyffrous sy’n cynnwys cymysgedd o brofiad a thalent addawol.

Ymysg y chwaraewyr rhyngwladol sydd wedi eu cynnwys ganddo mae Alex Callendar, Sioned Harries, Natalia John, Meg Davies, Hannah Bluck, Meg Webb a Niamh Terry – ynghyd â’r chwaraewyr addawol  Ellie May Troman a Seren Singleton.

Dywedodd Ashley Beck, Prif Hyfforddwr Brython Thunder:

“Mae gennym gydbwysedd da o brofiad rhyngwladol a chwaraewyr ifanc sy’n llawn potensial ac addewid. Yr her i ni fydd gosod safonau newydd a manteisio ar y cyfle gwych yma yr ydym yn ei gael yn yr Her Geltaidd.

“Mae cryn dipyn o bwysau arnom – gan bod gennym gymaint o chwaraewyr rhyngwladol yn ein carfan. Does dim dwywaith y bydd eu profiad a’u dawn yn werthfawr i ni wrth i ni wynebu her sylweddol Gwalia Lightning – a’r gemau wedi hynny yn erbyn ein gwrthwynebwyr o’r Alban ac Iwerddon.”

Enillodd Catrina Nicholas-McLaughlin 60 o gapiau dros Gymru – ac mae hi’n Hyfforddwr Lefel 4 gydag Undeb Rygbi Cymru. Bu’n Brif Hyfforddwr tîm o dan 18 Merched Cymru ac hefyd yn Îs-Hyfforddwr tîm o dan 20 y Menywod. Teithiodd gyda’r garfan hŷn i Seland Newydd yn ddiweddar i gynorthwyo gyda’r hyfforddi yn ystod ymgyrch y WXV1.

Mae carfan Gwalia Lightning yn cynnwys Nel Metcalfe, chwaraeoedd yn y gystadleuaeth honno yn Seland Newydd a Chapten tîm o dan 20 Cymru Jenna DeVera hefyd. Enwau eraill amlwg ac addawol sydd wedi eu dewis gan Nicholas-McLaughlin yw Catherine Richards a Gwennan Hopkins.

Dywedodd Catrina Nicholas-McLaughlin, Prif Hyfforddwr Gwalia Lightning:

“Ry’n ni wedi dewis carfan ifanc a chyffrous sy’n llawn talent. Mae’r chwaraewyr wedi bod yn awchu am y cyfle i brofi eu hunain yn erbyn chwaraewyr rhyngwladol o Iwerddon, yr Alban a Chymru hefyd wrth gwrs. Mae’r Her Geltaidd yn cynnig y cyfle hwnnw i’n carfan ni.

“Does dim amheuaeth bod tipyn o heriau’n ein wynebu – ond mae’r garfan yn llawn cyffro – yn enwedig felly wrth edrych ymlaen at herio Brython Thunder yn y gêm agoriadol. Bydd yr ornest honno ar Rodney Parade yn llinyn mesur da i ni o ble ‘ry’n ni arni fel carfan.”

Mae tocynnau ar gyfer y ddwy gêm yn Rodney Parade Ddydd Calan ar gael i’w prynu YMA NAWR:

Brython Thunder v Gwalia Lightning (2pm)

Dreigiau v  Scarlets (5.15pm)

Gallwch hefyd ffonio Adran Docynnau Rodney Parade ar 01633 670690.

Carfan Brython Thunder:

Chloe Thomas-Bradley, Alex Callender, Katie Carr, Rosie Carr, Cadi-Lois Davies, Rhian Thomas, Sioned Harries, Natalia John, Madi Johns, Finley Jones, Katie Mackay, Charlie Mundy, Carys Schofield, Shona Wakley, Georgia Morgan, Milly Summer, Meg Davies, Hannah Bluck, Katie Bevans, Siân Davies, Mollie Wilkinson, Danai Mugabe, Meg Webb, Eleanor Hing, Seren Singleton, Niamh Terry, Rachel Thomas, Ellie May Troman, Amy Williams, Lowri Williams

Carfan Gwalia Lightning:

Mica Evans, Molly Reardon, Danyelle Dinapoli, Jenni Scoble, Tyler Lewis, Paige Jones, Tilly Vucaj, Catrin Jones, Maisie Davies, Katie Jenkins, Lucy Isaac, Gwennan Hopkins, Sydney Mead, Sian Jones, Kierra Deeks, Niamh Tinman, Carys Hughes, Katie Thicker, Rhodd Parry, Rebecca DeFillipo, Molly Anderson-Thomas, Catherine Richards, Jenna DeVera, Caitlin Lewis, Kate Davies, Nel Metcalfe, Mali Jones, Sophie Waughn, Lowri Williams, Tess Evans.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Carfannau Brython Thunder a Gwalia Lightning wedi eu cyhoeddi
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Carfannau Brython Thunder a Gwalia Lightning wedi eu cyhoeddi
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Carfannau Brython Thunder a Gwalia Lightning wedi eu cyhoeddi
Rhino Rugby
Sportseen
Carfannau Brython Thunder a Gwalia Lightning wedi eu cyhoeddi
Carfannau Brython Thunder a Gwalia Lightning wedi eu cyhoeddi
Carfannau Brython Thunder a Gwalia Lightning wedi eu cyhoeddi
Carfannau Brython Thunder a Gwalia Lightning wedi eu cyhoeddi
Carfannau Brython Thunder a Gwalia Lightning wedi eu cyhoeddi
Carfannau Brython Thunder a Gwalia Lightning wedi eu cyhoeddi
Amber Energy
Opro
Carfannau Brython Thunder a Gwalia Lightning wedi eu cyhoeddi