Neidio i'r prif gynnwys
Diweddariad o Gyfarfod Diwethaf Bwrdd Undeb Rygby Cymru Yn 2023 Wrth I’r Gyfundrefn Newydd Ddechrau ar eu Gwaith

Diweddariad o Gyfarfod Diwethaf Bwrdd Undeb Rygby Cymru Yn 2023 Wrth I’r Gyfundrefn Newydd Ddechrau ar eu Gwaith

Yng nghyfarfod Bwrdd Undeb Rygbi Cymru ym mis Rhagfyr – â gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf – daeth y Bwrdd newydd ar gyfer 2024 at ei gilydd i drafod strategaeth, cynlluniau a dyheadau ar gyfer yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod o safbwynt Rygbi Cymru.

Rhannu:

Mae Nigel Walker yn parhau i fod yn Brif Weithredwr dros dro’r Undeb tan y bydd ei olynydd, Abi Tierney yn dechrau ar ei gwaith ar yr 8fed o Ionawr. Mae Cat Read – un o’r Cyfarwyddwyr Annibynnol presennol yn dal i gyfrannu am y tro – ond bydd hi’n camu yn ôl pan fydd Andrew Williams yn ymuno gyda’r Bwrdd cyn diwedd eleni.

Richard Collier-Keywood gadeiriodd y cyfarfod chwe awr – â gynhaliwyd wyneb yn wyneb yn Lolfa Dewi Sant yn Stadiwm Principality – ddydd Mercher y 13eg o Ragfyr. Ymunodd ambell aelod o’r Bwrdd, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Annibynnol newydd Jamie Roberts, y cyfarfod ar-lein – gan ei fod dramor ar y pryd.

Wrth ddilyn agenda’r cyfarfod – cadarnhawyd penodiadau Rob Howley (Îs-hyfforddwr Cymru) a Richard Whiffin (Prif Hyfforddwr o dan 20 Dynion Cymru) gan y Bwrdd a chyhoeddwyd manylion y penodiadau amlwg hyn y diwrnod canlynol.

Trafodwyd ystod eang o faterion eraill gan gynnwys:
Cyflwynwyd adroddiad llawn am ddatblygiadau’r mis blaenorol gan Nigel Walker – a rhannwyd y newyddion diweddaraf am y Gystadleuaeth Ddomestig Elît newydd. Cadarnhawyd bod deg clwb wedi cwblau y broses o ymgeisio am drwyddedau i gymryd rhan ynddi.

Cyflwynwyd manylion am yr Her Geltaidd newydd – sydd yn rhan allweddol o gynllun datblygu rygbi y merched a menywod.

Trafodwyd amserlen newydd gemau rhyngwladol World Rugby a’r effaith posib ar ein timau cenedlaethol.

Cyflwynwyd manylion am reoli cyfrifon a darogan ariannol ar gyfer y flwyddyn i ddod – a rhoddwyd diweddariad am gynllun digidol newydd yr Undeb.

Trafodwyd llywodraethiant Undeb Rygbi Cymru a Gwarchod a Diogelu yn y clybiau proffesiynol ac ar lawr gwlad.

Cafwyd diweddariad gan y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) a rhannwyd cynlluniau am adrodd cynnydd wrth weithredu argymhellion yr Adolygiad Annibynnol.

“Roedd y cyfarfod yn gynhwysfawr ac yn ddechrau cadarnhaol i’n gwaith fel y Bwrdd newydd – cyn i ni groesawu‘r holl aelodau atom yn y Flwyddyn Newydd,” dywedodd y Cadeirydd Richard Collier-Keywood.

“Wrth ystyried y newidiadau hyn, estynnwyd diolch diffuant y Bwrdd i Nigel Walker a Cat Read yn eu cyfarfodydd olaf yn eu swyddi presennol.

“Mae arbenigedd ariannol Cat Read ynghŷd â’i hymroddiad a’i chyngor dros y ddwy flynedd ddiweddaf wedi ei barchu a’i werthfawrogi’n fawr. Bydd colled fawr ar ei hôl a hoffwn ddiolch iddi am ei chyfraniad aruthrol i Rygbi Cymru.

“Bydd Nigel yn dychwelyd i’r Bwrdd wrth gwrs yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi – ac er y bydd yn ildio’i sedd ar y Bwrdd – bydd yn parhau i fynychu’r cyfarfodydd yn y dyfodol. Serch hynny, ‘roedd yn briodol ac yn barchus i ni ddiolch o waelod calon iddo am ei wasanaeth i’r gêm – yn enwedig yn ystod y 12 mis diwethaf.”

Richard Collier-Keywood.

Trafodwyd yr Adolygiad Annibynnol yn drywlyr yn ystod y cyfarfod ac mae disgwyl i hynny barhau fel mater ar yr agenda tan o leiaf 2026.

Ymrwymodd y Cadeirydd i gyhoeddi diweddariadau bob tri mis am gynnydd yr Undeb yng nghyd-destun yr argymhellion annibynnol – gan ddechrau’r broses honno yn y Flwyddyn Newydd.

“Bydd y diweddariad cyntaf yn cael ei rannu ddiwedd mis Ionawr ac ry’n ni wedi ymrwymo i ddangos y cynnydd sy’n cael ei wneud bob chwarter wedi hynny,”

“Mae’r Adolygiad yn cynnig arweiniad clir i ni – o safbwynt llywodraethiant, diwylliant gwaith a’n hunaniaeth, wrth ystyried dyfodol y gêm yng Nghymru.

“Un o’n tasgau cyntaf fydd penodi panel goruchwilio – i asesu’n cynnydd yn annibynnol. Ry’n ni eisoes wedi cytuno i gydweithio gyda Chwaraeon Cymru, fel y gallwn benodi’r aelodau ar gyfer y panel hwnnw.”
Aelodau Newydd Bwrdd Undeb Rygbi Cymru 2024 (yn ôl trefn y wyddor):

Amanda Bennett, Richard Collier- Keywood (Cadeirydd), Claire Donovan, Chris Jones, John Manders Jennifer Mathias, Jamie Roberts, Alison Thorne, Abi Tierney (Prif Weithredwr), Malcolm Wall, Colin Wilks and Andrew Williams

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Diweddariad o Gyfarfod Diwethaf Bwrdd Undeb Rygby Cymru Yn 2023 Wrth I’r Gyfundrefn Newydd Ddechrau ar eu Gwaith
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Diweddariad o Gyfarfod Diwethaf Bwrdd Undeb Rygby Cymru Yn 2023 Wrth I’r Gyfundrefn Newydd Ddechrau ar eu Gwaith
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Diweddariad o Gyfarfod Diwethaf Bwrdd Undeb Rygby Cymru Yn 2023 Wrth I’r Gyfundrefn Newydd Ddechrau ar eu Gwaith
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Diweddariad o Gyfarfod Diwethaf Bwrdd Undeb Rygby Cymru Yn 2023 Wrth I’r Gyfundrefn Newydd Ddechrau ar eu Gwaith