Bydd rownd agoriadol y gemau hefyd yn gweld yr Alban yn croesawu’r Eidal a Lloegr yn teithio i Ddulyn i wynebu Iwerddon – y ddwy gêm honno ddydd Sadwrn y 1af o Chwefror.
Bydd pum rownd o’r gemau’n dod i benllanw ar y 15fed o Fawrth, pan fydd Yr Eidal yn croesawu Iwerddon i Rufain ar gyfer gêm gyntaf y dydd. Yn dilyn yr ornest honno – bydd Crysau Cochion Cymru a’r Hen Elyn, Lloegr yn mynd ben-ben â’i gilydd yn Stadiwm Principality. Bydd gornest olaf y diwrnod anhygoel hwnnw’n gweld yr Albanwyr yn teithio i’r Stade de France i herio’r Ffrancod.
Mae Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guiness yn parhau i ddenu hyd yn oed mwy o gefnogwyr i’r gamp. Yn 2023, roedd darllediadau byw yn unig wedi gweld dros 130 miliwn o gefnogwyr yn gwylio’r ddrama yn datblygu, cynnydd o +2.0m o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Yn 2024, mae’r Bencampwriaeth yn cael ei dangos ar draws 190 o farchnadoedd rhyngwladol – a bydd y patrwm o rannu’r darllediadau rhwng ITV a’r BBC yn parhau yn y DU y flwyddyn nesaf hefyd – gydag S4C yn darparu eu gwasaneth Cymraeg arferol. France Television fydd yn gyfrifol am y darllediadau yn Ffrainc a bydd RTE a Virgin Media yn diwallu angenhion y cefnogwyr yn Iwerddon.
Wrth edrych ymlaen at Bencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025, dywedodd Tom Harrison, Prif Weithredwr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad:
“Mae’r Chwe Gwlad yn hynod o bwysig yng nghalendr unrhyw gefnogwr. Mae ‘na wastad gyffro ac eiliadau cofiadwy’n cael eu creu’n flynyddol.
“Mae’r cefnogwyr wastad yn aros yn eiddgar am gyhoeddiad trefn y gemau. Mae’n amser trefnu’r teithiau a dechrau edrych ymlaen at yr hyn sydd ar y gweill y flwyddyn nesaf.
Gemau Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025
R1: Gwener Ionawr 31ain – Ffrainc v Cymru (Stade de France) 8.15pm
R2: Sadwrn Chwefror 8fed – Yr Eidal v Cymru 2.15pm
R3: Sadwrn Chwefror 22ain – Cymru v Iwerddon 2.15pm
R4: Sadwrn Mawrth 8fed – Yr Alban v Cymru 4.45pm
R5: Sadwrn Mawrth 15ed – Cymru v Lloegr 4.45pm