Neidio i'r prif gynnwys
Breakspear i ddyfarnu yn y Gemau Olympaidd

Ben Breakspear yn dyfarnu ar gylchdaith 7 Bob Ochr HSBC ym Malaga.

Breakspear i ddyfarnu yn y Gemau Olympaidd

Bydd Ben Breakspear yn dilyn ôl traed Craig Evans ac Adam Jones wrth ddyfarnu yn y Gemau Olympaidd ym Mharis dros yr haf.

Rhannu:

Cafodd Breakspear ei ddewis i ddyfarnu ar gylchdaith 7 Bob Ochr y Byd (HSBC) am y drydedd flwyddyn yn olynol ac mae eisoes wedi dyfarnu ym Mhencampwriaeth o dan 20 y Chwe Gwlad a Phencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn 2023.

Er iddo chwarae fel maswr i dimau ieuenctid Clwb Rygbi Abercynon – fe ddechreuodd ddyfarnu tra’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Rhydywaun cyn cael ei dderbyn yn Academi Dyfarnu Undeb Rygbi Cymru.

Bydd Ben Breakspear yn un o 23 o ddyfarnwyr yn y Gemau Olympaidd ym Mharis fydd yn digwydd yn y Stade de France rhwng 24-30 o Orffennaf.

Cyflwynwyd rygbi pymtheg bob ochr i’r Gemau Olympaidd ym 1900 a’r fformat hwnnw ddefnyddiwyd ym 1908, 1920 ac 1924 hefyd. Ers gemau 2016 yn Rio dim ond ffurf 7 Bob Ochr y gamp sydd wedi digwydd.

Fe gymrodd ddau o ddyfarnwyr o Gymru, Albert Freethy a David Leyshon ran yng ngemau 1924 ym Mharis a’r ddau ddiweddaraf i ddyfanu yn y Gemau Olympaidd oedd Evans a Jones yn Tokyo yn 2021.

Bydd dyfarnwyr o 16 o wahanol wledydd yn cymryd rhan yn y gemau’r haf hwn – gan gynnwys Maria Latos – y cyntaf erioed o’r Almaen i ddyfarnu rygbi yn y Gemau Olympaidd.

Dywedodd Paddy O’Brien, Rheolwr Dyfarnu Perfformiad Uchel World Rugby:” Rwy’n falch o gael arwain grŵp mor dalentog o ddyfarnwyr ym Mharis dros yr haf.

“Mae’r rhai sydd wedi cael eu dewis yn haeddu eu cyfle a’u lle yn y gystadleuaeth ac mae’n braf gweld eu gwaith caled a’u hymroddiad yn dwyn ffrwyth.”

Rhestr Dyfarnwyr ar Gyfer Gemau Olympaidd Paris 2024:

Dynion

Ben Breakspear (Cymru)
Paulo Duarte (Portiwgal)
Gianluca Gnecchi (Yr Eidal)
Francisco González (Wrwgwai)
Nick Hogan (Seland Newydd)
AJ Jacobs (De Affrica)
Reuben Keane (Awstralia)
Adam Leal (Lloegr)
Tevita Rokovereni (Ffiji)
Jérémy Rozier (Ffrainc)
Morné Ferreira (De Affrica)
Jordan Way (Awstralia)

Menywod

Finlay Brown (Yr Alban)
Craig Chan (Hong Kong / Tseina)
Talal Chaudhry (Canada)
Maggie Cogger-Orr (Seland Newydd)
Ano Kuwai (Siapan)
Maria Latos (Yr Almaen)
Cisco Lopez (UDA)
Tyler Miller (Awstralia)
Lavenia Rawaca (Ffiji)
Kat Roche (UDA)
George Selwood (Lloegr)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Breakspear i ddyfarnu yn y Gemau Olympaidd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Breakspear i ddyfarnu yn y Gemau Olympaidd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Breakspear i ddyfarnu yn y Gemau Olympaidd
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Breakspear i ddyfarnu yn y Gemau Olympaidd