Neidio i'r prif gynnwys
Belcher yn benderfynol o guro’r Gweilch ar Ddydd y Farn

Bydd Caerdydd yn herio'r Gweilch a'r Scarlets yn wynebu'r Dreigiau ar Ddydd y Farn.

Belcher yn benderfynol o guro’r Gweilch ar Ddydd y Farn

Yn dilyn eu buddugoliaeth gyntaf o’r flwyddyn yn Durban y penwythnos diwethaf – mae capten Caerdydd Liam Belcher yn awyddus i ddweud ‘Diolch yn Fawr’ i’w cefnogwyr gyda pherfformiad cofiadwy arall ar Ddydd y Farn.

Rhannu:

Flwyddyn yn ôl, fe gipiodd Caerdydd Darian Cymru trwy guro’r Gweilch o 38-21 – gan hefyd sicrhau’r safle olaf yng Nghwpan Pencampwyr Investec a’r hawl i alw’u hunain yn dîm gorau Cymru am y tymor.

Serch hynny y Gweilch sydd wedi profi eu hunain fel rhanbarth cryfaf Cymru hyd yn hyn eleni a nhw fydd y ffefrynnau i ennill y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fehefin 1af. Bydd awch ychwanegol yn perthyn i’r ornest gan bod gan garfan Toby Booth siawns o gyrraedd gemau ail-gyfle’r cynghrair o hyd.

Os gall y Gweilch hawlio pum pwynt, a chanlyniadau eraill yn mynd o’u plaid, yna fe allent sleifio mewn i’r wyth uchaf yn y cynghrair fydd yn sicrhau lle iddynt yng Nghwpan Pencampwyr Investec unwaith eto. O ystyried y ffaith y bydd rownd derfynol 2025 yn Stadiwm Principality – mae hynny’n gymhelliad ychwanegol iddynt chwarae’n y gystadleuaeth.

Ond bydd Belcher yn arwain tîm hyderus y brifddinas yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn dilyn eu buddugoliaeth o 36-14 dros y Sharks yn Ne Affrica. Nawr mae’r capten yn addo perfformiad di-gyfaddawd gan ei dîm yng ngêm olaf y tymor – er mwyn diolch i’r cefnogwyr am eu ffydd.

“Maen nhw wedi ein cefnogi ni drwy’r tymor a does dim amheuaeth y byddan nhw’n gwneud hynny eto ar Ddydd y Farn. Maen nhw wedi bod yn amyneddgar o ystyried pa mor llwm oedd pethau’n edrych ar ddechrau’r tymor,” meddai Belcher.

“Maen nhw’n deyrngar iawn i’r clwb ac i ni fel chwaraewyr ac maen nhw’n bendant yn llafar iawn ac yn bositif.

“Rwy’n codi fy nghap iddyn nhw ac yn diolch o galon am eu cefnogaeth frwd hefyd.

“Ym Mharc yr Arfau mae’r cefnogwyr yn wych, a phan ry’n ni’n cael torf fawr y tu ôl i ni mae’n ychwanegu 20% at ein perfformiad. Rwy’n gobeithio y byddant yn gwneud y siwrnai fer i Stadiwm Dinas Caerdydd yn eu heidiau er mwyn ein helpu eto yn erbyn y Gweilch.

“Ry’n ni eisiau gorffen y tymor ar nodyn uchel cyn i ni gael seibiant byr cyn troi’n golygon at ymarfer ar gyfer y tymor nesaf ym mis Gorffennaf.”

Mae’r golled greulon yn Ulster – ble ‘roedd chwaraewyr Caerdydd yn teimlo bod y fuddugoliaeth wedi ei chipio ganddynt gan benderfyniad dadleuol y tîm dyfarnu yn dal yn dân ar groen Liam Belcher – ond mae’r capten hefyd yn credu bod y llwyddiant yn Durban y penwythnos diwethaf yn baratoad da ar gyfer herio’r Gweilch.

“Roedd yn rhaid i ni ennill yn Kings Park er mwyn atgoffa ein hunain ein bod yn dîm da – a dyna wnaethon ni. ‘Roedd yn deimlad gwych, ac ‘roedd Corey Domachowski yn arwain y canu wedi’r gêm. Ry’n ni’n awyddus i deimlo’r un wefr o ennill ar Ddydd y Farn hefyd.”

DYDD Y FARN 2024 – DYDD SADWRN 1af o FEHEFIN

Scarlets v Dreigiau – 3.00pm

Caerdydd v Gweilch – 5.30pm

Gall cefnogwyr brynu tocynnau YMA

CAT A
Oedolyn: £35
Consesiwn (dros 65 / Myfyrwyr llawn amser): £25
Dan 16: £15

CAT B
Oedolyn: £25
Consesiwn (dros 65 / Myfyrwyr llawn amser): £20
Dan 16: £15

CAT C (Nifer cyfyngedig ar gael)
Oedolyn & Consesiwn: £10
Dan 16: £5

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Belcher yn benderfynol o guro’r Gweilch ar Ddydd y Farn
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Belcher yn benderfynol o guro’r Gweilch ar Ddydd y Farn
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Belcher yn benderfynol o guro’r Gweilch ar Ddydd y Farn
Rhino Rugby
Sportseen
Belcher yn benderfynol o guro’r Gweilch ar Ddydd y Farn
Belcher yn benderfynol o guro’r Gweilch ar Ddydd y Farn
Belcher yn benderfynol o guro’r Gweilch ar Ddydd y Farn
Belcher yn benderfynol o guro’r Gweilch ar Ddydd y Farn
Belcher yn benderfynol o guro’r Gweilch ar Ddydd y Farn
Belcher yn benderfynol o guro’r Gweilch ar Ddydd y Farn
Amber Energy
Opro
Belcher yn benderfynol o guro’r Gweilch ar Ddydd y Farn