Chwaraewr rheng ôl y Dreigiau, Ryan Woodman fydd y capten – wedi iddo fethu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad o ganlyniad i anaf. Mae’r garfan yn cynnwys dau chwaraewr sydd eto i ennill cap ar y lefel yma – sef y ddau frawd – Ioan a Steffan Emanuel.
Bydd Cymru’n wynebu Seland Newydd, Sbaen a Ffrainc yng ngemau grŵp y gystadleuaeth fydd yn dechrau ar y 29ain o Fehefin.
Dywedodd Richard Whiffin: “Roedd ddoe yn ddiwrnod anodd – yn gorfod dweud wrth chwaraewyr sydd wedi gweithio’n anhygoel o galed, na fyddan nhw’n teithio gyda ni i Dde Affrica.
“Yn amlwg roedd ‘na sgyrsiau anodd ond i fod yn deg mae pob un ohonyn nhw wedi ymateb yn dda ac mae’r grŵp yn gyfan gwbl wedi tynnu at ei gilydd i’w cefnogi. Yn anffodus mae derbyn ambell gnoc yn rhan o reality bod yn chwaraewr rygbi.
Ynghŷd â’r brodyr Emanuel, y bachwr Isaac Young yw’r unig chwaraewr arall yn y garfan na wnaeth ymddangos ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Chwaraeodd Young dros y tîm y llynedd ond ‘roedd ganddo anaf yn arwain at y gystadleuaeth eleni.
“Mae gennym wir gryfder yn y garfan gydag athletwyr gwirioneddol ym mhob rhan o’r maes,” ychwanegodd Whiffin, “Ry’n ni eisiau symud y bêl a mynegi ein hunain yn ein chwarae – a’n bwriad wrth gwrs yw bod yn gystadleuol mewn grŵp hynod o galed.”
Croesawodd Whiffin ddychweliad Woodman gan fod ei absenoldeb yn ystod y Chwe Gwlad wedi bod yn dipyn o ergyd i’r garfan.
“Mae Ryan wedi cael dylanwad enfawr ar y garfan yn ystod y pythefnos diwethaf ers iddo ymarfer gyda ni unwaith eto. Mae ei ffitrwydd a’i ddawn yn amlwg i bawb wrth ymarfer ond mae ei ddylanwad tawel ac awdurdodol yn cael effaith hynod o gadarnhaol ar y garfan hefyd. Mae’n arweinydd naturiol ac mae’r chwaraewyr yn ei edmygu a’i barchu’n fawr.”
Carfan Cymru – Pencampwriaeth o Dan 20 y Byd 2024
BLAENWYR
Jordan Morris (Dreigiau)
Josh Morse (Scarlets)
Ioan Emanuel (Caerfaddon)
Harry Thomas (Scarlets)
Isaac Young (Scarlets)
Will Austin (Sale)
Kian Hire (Gweilch)
Sam Scott (Bryste)
Jonny Green (Harlequins)
Nick Thomas (Dreigiau)
Osian Thomas (Caerlŷr)
Ryan Woodman (Dreigiau – Capt)
Lucas de la Rua (Caerdydd)
Harry Beddall (Caerlŷr)
Morgan Morse (Gweilch)
Owen Conquer (Dreigiau)
OLWYR
Ieuan Davies (Caerfaddon)
Rhodri Lewis (Gweilch)
Lucca Setaro (Scarlets)
Harri Wilde (Caerdydd)
Harri Ford (Dreigiau)
Macs Page (Scarlets)
Steffan Emanuel (Caerdydd)
Louie Hennessey (Caerfaddon)
Elijah Evans (Caerdydd)
Aidan Boshoff (Bryste)
Harry Rees-Weldon (Dreigiau)
Kodie Stone (Caerdydd)
Huw Anderson (Dreigiau)
Matty Young (Caerdydd)