Mae’r Undeb yn chwilio am ffyrdd i ymgorffori defnydd o’r iaith Gymraeg yn ei waith, a hynny yn enwedig drwy lunio fersiwn Gymraeg o’r wefan www.wru.co.uk.
Mae nifer o aelodau staff yr Undeb, gan gynnwys hyfforddwr y tîm cenedlaethol, Mike Ruddock, yr hyfforddwr cynorthwyol, Clive Griffiths, ac aelod newydd y garfan genedlaethol sef Ben Broster a anwyd yn Lloegr, yn manteisio ar gynnig yr Undeb Rygbi Cymru i ddarparu cynllun gwersi Cymraeg i ddechreuwyr. Elaine Senior o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n darparu’r hyfforddiant, a phan fydd carfan dan 21 Cymru yn cwrdd yr wythnos nesaf cyn teithio i’r Ariannin ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd, byddant yn adolygu’r Anthem Genedlaethol.
Dywedodd Mike Ruddock, “Mae pawb sy’n ymwneud â’r tîm cenedlaethol yn teimlo eu bod yn Gymry i’r carn. Chefais i ddim cyfle i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol, ac rydw i’n hynod o falch i gael cyfle i ddysgu’r iaith drwy Undeb Rygbi Cymru. Mae gennyf lawer iawn o waith i’w wneud eto, ond bydd dysgu’r iaith yn arwain at bosibiliadau newydd wrth reswm.”
Yn ôl Ben Broster, “Gan fy mod yn aelod newydd o’r garfan, rydw i am setlo mor fuan â phosib. Mae angen i mi i ddysgu tipyn o Gymraeg gan fod nifer o’r chwaraewyr yn siarad Cymraeg beth bynnag, ac rydym yn defnyddio’r iaith ar y cae wrth chwarae. Mae’r rhifau a’r lliwiau yn arbennig o ddefnyddiol.”
Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, David Pickering, “Mae pawb sy’n rhan o Undeb Rygbi Cymru yn teimlo’n gryf ynghylch eu Cymreictod. Mae ein cefnogwyr yn dod o bob rhan o Gymru ac o bob math o gefndiroedd, felly rydym yn teimlo ei bod yn ddyletswydd arnom i edrych ar ein defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn achos ein gwefan, sydd yn gyswllt amlwg rhwng Undeb rygbi Cymru a’r cefnogwyr.
Hyd yn hyn, dydw i ddim wedi cael cyfle i fynychu gwersi Cymraeg, ond rwy’n bwriadu gwneud hynny dros y misoedd nesaf.”
Bu Eleri Sion, y gyflwynwraig teledu a radio, yn cyflwyno copi o Hen Wlad Fy Nhadau wedi ei fframio, yn ogystal â geiriaduron poced Cymraeg-Saesneg, i garfan Cymru ar ran Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Dywedodd Meirion Prys-Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg: “Mae Undeb Rygbi Cymru yn gosod enghraifft wych i eraill trwy ei benderfyniad i ehangu ar ei ddefnydd o’r Gymraeg, ac ry’n ni ym Mwrdd yr Iaith wrth ein boddau gyda’i gefnogaeth a’i ymrwymiad amlwg i’r iaith.
“Dymunwn yn dda i’r chwaraewyr a’r staff gyda’u gwersi Cymraeg a diolchwn iddynt am eu hymrwymiad. Ry’n ni wrth ein bodd i fod yn cyflwyno’r fersiwn arbennig hon o Hen Wlad fy Nhadau i’r Undeb, a gobeithio y caiff y geiriaduron poced Cymraeg-Saesneg eu defnyddio’n helaeth.”