Neidio i'r prif gynnwys
Cap cyntaf i Bevan a Lake i arwain Cymru’n erbyn y Springboks

Dewi Lake fydd capten Cymru yn erbyn De Affrica.

Cap cyntaf i Bevan a Lake i arwain Cymru’n erbyn y Springboks

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi’r tîm i wynebu Pencampwyr y Byd, De Affrica yng Nghwpan Cwmni Awyrennau Qatar, yn Twickenham ddydd Sadwrn, Mehefin 22ain (2.00pm).

Rhannu:

Bydd yr ornest yn cael ei dangos yn fyw ar S4C a Sky.

Dewi Lake fydd yn arwain y tîm tra bydd mewnwr Caerdydd, Ellis Bevan yn ennill ei gap cyntaf – y 1,203fed chwaraewr i chwarae dros Gymru.

Gareth Thomas (pen rhydd) a Henry Thomas (pen tynn) fydd yn ymuno gyda Dewi Lake yn y rheng flaen.

Deuawd y Dreigiau, Matthew Screech a Ben Carter sydd wedi eu dewis yn yr ail reng.

Bydd Taine Plumtree yn dechrau’n flaen-asgellwr ochr dywyll ac yn ennill ei drydydd cap ddydd Sadwrn. Yn Twickenham yn chwaraeodd dros ei wlad ddiwethaf hefyd wrth i Gymru herio Lloegr yno ym mis Awst 2023.

James Botham, gafodd ei alw i’r garfan yr wythnos hon fydd yn dechrau’n flaen-asgellwr agored. Mae Jac Morgan wedi gorfod gadael y garfan o ganlyniad i anaf i linyn y gar ddioddefodd yng ngholled y Gweilch ym Munster yn Rownd Wyth Olaf y Bencampwriaeth Rygbi Unedig. Ni fydd Morgan yn chwarae unrhyw ran yng ngemau Cymru dros yr haf.

Aaron Wainwright fydd yr wythwr ar gyfer y gêm yn Twickenham ddydd Sadwrn.

Sam Costelow sydd wedi ei ddewis yn faswr gyda Mason Grady ac Owen Watkin yn bartneriaeth gydnerth yng nghanol cae.

Bydd Liam Williams yn cynrychioli ei wlad am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd yn 2023. Rio Dyer fydd ar yr asgell arall tra bo Cameron Winnett yn parhau’n gefnwr.

Bydd Ellis Bevan yn ennill ei gap cyntaf ddydd Sadwrn.

Mae’n bosib y bydd tri chwaraewr yn ennill eu capiau cyntaf o’r fainc ddydd Sadwrn. Cafodd James Ratti (Gweilch) ei alw i’r garfan y bore ‘ma – ac fe fydd ef – fel Eddie James a Jacob Beetham yn cynrychioli eu gwlad am y tro cyntaf os y daw’r alwad i gamu o’r fainc.

Gareth Davies yw’r eilydd o fewnwr ar gyfer her Pencampwyr y Byd. Evan Lloyd, Kemsley Mathias, Keiron Assiratti a Mackenzie Martin sydd wedi eu henwi fel blaenwyr ar y fainc.

Dywedodd Warren Gatland: “Ry’n ni wedi cael wythnos heriol wrth baratoi ar gyfer wynebu enillwyr Cwpan y Byd – ond mae’r holl garfan wedi eu cyffroi ar gyfer yr achlysur a’r gêm yn Twickenham dros y penwythnos.

“Mae’r rhai sydd wedi eu dewis yn benderfynol o berfformio’n dda ddydd Sadwrn.

“Mae’r garfan sydd gennym bellach yn ifanc ac mae’r tîm hyfforddi wedi ein plesio’n fawr gydag ymdrech y bechgyn.

“Mae gennym lawer iawn o botensial yn y garfan hon a bydd y pum wythnos nesaf yn allweddol bwysig wrth i ni adeiladu ar y potensial hwnnw.”

Mae tocynnau ar gyfer Cwpan Cwmni Awyrennau Qatar a Chwpan Killik ddydd Sadwrn y dal ar werth gan Ticketmaster neu’r RFU. Bydd pob tocyn yn sicrhau mynediad i gemau De Affrica v Cymru (2pm) a’r Barbariaid yn erbyn Ffiji (5.15pm)

Tîm Cymru i wynebu De Affrica, oddi-cartref yn Stadiwm Twickenham yng Nghwpan Cwmni Awyrennau Qatar, ddydd Sadwrn yr 22ain o Fehefin (2pm yn fyw ar S4C a Sky)

15. Cameron Winnett (Caerdydd – 5 cap)
14. Liam Williams (Kubota Spears – 89 cap)
13. Owen Watkin (Gweilch – 38 cap)
12. Mason Grady (Caerdydd – 11 cap)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 19 cap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 12 cap)
9. Ellis Bevan (Caerdydd – heb gap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 30 cap)
2. Dewi Lake (Gweilch – 12 cap)
3. Henry Thomas (Scarlets – 4 cap)
4. Matthew Screech (Dreigiau – 1 cap)
5. Ben Carter (Dreigiau – 11 cap)
6. Taine Plumtree (Scarlets – 2 gap)
7. James Botham (Caerdydd – 10 cap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 48 cap)

Eilyddion

16. Evan Lloyd (Caerdydd – 2 gap)
17. Kemsley Mathias (Scarlets – 2 gap)
18. Keiron Assiratti (Caerdydd – 6 chap)
19. James Ratti (Gweilch – heb gap)
20. Mackenzie Martin (Caerdydd – 3 chap)
21. Gareth Davies (Scarlets – 76 cap)
22. Eddie James (Scarlets – heb gap)
23. Jacob Beetham (Caerdydd – heb gap)

TREFN GEMAU

Sadwrn 22 Mehefin: De Affrica v Cymru

Twickenham

KO 14.00 BST

Sadwrn 6 Gorffennaf: Awstralia v Cymru

Allianz Stadium, Sydney

KO 10.55h BST / 19.55h amser lleol

Sadwrn 13 Gorffennaf: Awstralia v Cymru

Parc AAMI, Melbourne

KO 10.55 BST / 19.55h amser lleol

Gwener 19 Gorffennaf: Queensland Reds v Cymru

Stadiwm Suncorp, Brisbane

KO 10.55 BST / 19.55h amser lleol

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cap cyntaf i Bevan a Lake i arwain Cymru’n erbyn y Springboks
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cap cyntaf i Bevan a Lake i arwain Cymru’n erbyn y Springboks
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cap cyntaf i Bevan a Lake i arwain Cymru’n erbyn y Springboks
Rhino Rugby
Sportseen
Cap cyntaf i Bevan a Lake i arwain Cymru’n erbyn y Springboks
Cap cyntaf i Bevan a Lake i arwain Cymru’n erbyn y Springboks
Cap cyntaf i Bevan a Lake i arwain Cymru’n erbyn y Springboks
Cap cyntaf i Bevan a Lake i arwain Cymru’n erbyn y Springboks
Cap cyntaf i Bevan a Lake i arwain Cymru’n erbyn y Springboks
Cap cyntaf i Bevan a Lake i arwain Cymru’n erbyn y Springboks
Amber Energy
Opro
Cap cyntaf i Bevan a Lake i arwain Cymru’n erbyn y Springboks