Keiron Assiratti fydd felly’n dechrau’n brop pen tynn yn erbyn Pencampwyr y Byd gyda Harri O’Connor wedi ei ddyrchafu i’r fainc.
Mae tocynnau ar gyfer Cwpan Cwmni Awyrennau Qatar a Chwpan Killik 2024 ddydd Sadwrn y dal ar werth gan Ticketmaster neu’r RFU. Bydd pob tocyn yn sicrhau mynediad i gemau De Affrica v Cymru (2pm) a’r Barbariaid yn erbyn Ffiji (5.15pm)
Mae asgellwr Caerfaddon Regan Grace wedi ei alw i ymuno gyda charfan Cymru ar gyfer yr haf gan bo Keelan Giles (Gweilch) wedi ei ryddhau o ganlyniad i anaf i ran uchaf ei goes – ddigwyddodd wrth ymarfer.
Tîm Cymru i wynebu De Affrica, oddi-cartref yn Stadiwm Twickenham yng Nghwpan Cwmni Awyrennau Qatar, ddydd Sadwrn yr 22ain o Fehefin (2pm yn fyw ar S4C a Sky)
15. Cameron Winnett (Caerdydd – 5 cap)
14. Liam Williams (Kubota Spears – 89 cap)
13. Owen Watkin (Gweilch – 38 cap)
12. Mason Grady (Caerdydd – 11 cap)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 19 cap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 12 cap)
9. Ellis Bevan (Caerdydd – heb gap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 30 cap)
2. Dewi Lake (Gweilch – 12 cap)
3. Keiron Assiratti (Caerdydd – 6 chap)
4. Matthew Screech (Dreigiau – 1 cap)
5. Ben Carter (Dreigiau – 11 cap)
6. Taine Plumtree (Scarlets – 2 gap)
7. James Botham (Caerdydd – 10 cap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 48 cap)
Eilyddion
16. Evan Lloyd (Caerdydd – 2 gap)
17. Kemsley Mathias (Scarlets – 2 gap)
18. Harri O’Connor (Scarlets – 1 cap)
19. James Ratti (Gweilch – heb gap)
20. Mackenzie Martin (Caerdydd – 3 chap)
21. Gareth Davies (Scarlets – 76 cap)
22. Eddie James (Scarlets – heb gap)
23. Jacob Beetham (Caerdydd – heb gap)