Neidio i'r prif gynnwys
Colled i’r Cymry yn erbyn Pencampwyr y Byd yn Twickenham

Y Capten Dewi Lake yn croesi am unig gais Cymru o'r prynhawn

Colled i’r Cymry yn erbyn Pencampwyr y Byd yn Twickenham

Colli o 41-13 fu hanes Cymru yn Twickenham yn erbyn Pencampwyr y Byd De Affrica yng Nghwpan Cwmni Awyrennau Qatar.

Rhannu:

Hon oedd seithfed colled Cymru o’r bron ar y llwyfan rhyngwladol wrth i dîm Warren Gatland baratoi ar gyfer dwy gêm brawf yn Awstralia fis nesaf.

‘Roedd cefnogwyr mwyaf pybyr Cymru wnaeth y daith i lawr yr M4 ar gyfer yr ornest oddi-cartref hon, yn ymwybodol o her Pencampwyr y Byd – oedd ond wedi colli’n erbyn Iwerddon yn eu 11 gêm brawf ddiwethaf cyn y gic gyntaf yn Twickenham. Byddai’r cefnogwyr mwyaf craff hefyd wedi bod yn ymwybodol o’r ffaith bod Cymru wedi colli ar eu 10 ymweliad diwethaf â HQ.

Doedd y llyfrau hanes diweddar ddim yn argoeli’n dda o safbwynt Gymreig ac wedi munud a hanner yn unig cosbwyd Aaron Wainwraight yn ardal y dacl – ond methu wnaeth ymdrech Jordan Hendrikse at y pyst ar achlysur ei gap cyntaf.

Ddau funud yn ddiweddarach gwnaeth y maswr yn iawn am ei gam wrth i’w ddwylo cyflym arwain at gyd-chwarae effeithiol rhwng Jesse Kriel a Makazole Mapimpigrëodd gais i’r canolwr Kriel yn y pendraw. ‘Roedd anel Hendrikse’n gywir gyda’r trosiad, i hawlio ei bwyntiau rhyngwladol cyntaf.

Fe chwaraeoedd 10 o garfan De Affrica heddiw yn Rownd Derfynol Cwpan y Byd y llynedd – ond Cymru hawliodd y sgôr nesaf wrth i Sam Costelow hollti’r pyst gyda’i gic gosb wedi chwe munud o chwarae.

‘Roedd mwyafrif y dorf swmpus yn Twickenham yn cefnogi’r Springboks ac fe godon nhw fel un dyn o’u seddi wedi 11 munud wrth i’r wythwr Evan Roos o’r Stormers redeg fel mellten am 40 llath cyn iddo gael ei rwystro’n anghyfreithlon ddwy fetr yn brin.

10 munud yn y cell cosb oedd tynged Rio Dyer o’r herwydd ac fe gymrodd y crysau gwyrdd fantais lwyr trwy gryfder eu blaenwyr.

Wrth i bac anferthol y Boks hyrddio at y llinell gais wedi 14 munud – fe gosbodd y dyfarnwr Chris Busby o Iwerddon y Cymry am droseddu cyson. Cais cosb a cherdyn melyn i Aaron Wainwright oedd ei benderfyniad – a’r crysau cochion i lawr i 13 o chwaraewyr o’r herwydd. Nid y dechrau delfrydol i’r ornest!

Wedi i Dyer ddychwelyd i’r maes daeth bechgyn Warren Gatland yn agos at sgorio cais eu hunain wedi i Liam Williams ryng-gipio ac wedi i Mason Grady barhau’r symudiad yn effeithiol. Pe byddai Ellis Bevan wedi llwyddo i gasglu pas y canolwr – byddai wedi croesi am gais ar ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad. Yn anffodus llithro trwy ei fysedd wnaeth y bêl o bas Grady.

Wrth i’r cloc ddynesu at hanner awr o chwarae, tro De Affrica oedd hi i golli gwasanaeth Aphelele Fassi am 10 munud o ganlyniad i’w droed esgeulus daro wyneb ac ysgwydd Taine Plumtree wrth i’r cefnwr geisio casglu pêl uchel.

‘Roedd Dewi Lake wedi profi buddugoliaeth yn erbyn De Affrica yn Bloemfontein yn 2022 ac eiliadau’n unig wedi i ben ôl Fassi ddechrau cynhesu yn y cell callio fe garlamodd capten Cymru fel ebol blwydd at y gornel i groesi am gais cyntaf ei dîm – gan gynnig gwir obaith i Gymru wedi’r dechrau hynod heriol i’r ornest.

Llwyddodd Sam Costelow’n gampus gyda’i drosiad o’r ystlys i gau’r bwlch i 4 pwynt yn unig.

Pwynt yn unig oedd yn gwahanu’r ddwy wlad wrth droi gan i Costelow hollti’r pyst yn hyderus am y trydydd tro o’r prynhawn gyda phum munud o’r hanner cyntaf ar ôl.

Hanner Amser De Affrica 14 Cymru 13

Dechreuodd yr ail hanner yn ddadleuol a siomedig i’r Cymry wrth i’r asgellwr Mapimpi dirio trydydd cais y Springboks o’r prynhawn wedi llai na dau funud. ‘Roedd Dewi Lake a’i dîm yn credu bod pas allweddol Jesse Kriel wedi mynd ymlaen – ond nid felly y gwelodd y dyfarnwr bethau.

Ymestyn mantais Pencampwyr y Byd i 11 pwynt wnaeth trydedd cic gywir Hendrikse o’r prynhawn.

Wrth i’r cloc gyrraedd bron i awr o chwarae – ‘roedd Gareth Thomas – oedd wedi atal cais sicr ym mhen arall y cau ychydig funudau ynghynt gyda thacl wych – yn credu ei fod wedi tirio’r bêl am gais i Gymru. Gan nad oedd tystiolaeth glir gan y dyfarnwr teledu Mark Patton i gadarnhau hynny – penderfynodd y dyfarnwr Chris Busby beidio â chaniatau’r sgôr.

Fe gymrodd y Springboks fantais o’r ddihangfa honno wrth i’r eilydd Sacha Feinberg-M’zulu lwyddo gyda mynydd o gic o’i hanner ei hun a gyda 12 munud yn weddill fe hawliodd yr eilydd Bongi Mbonambi bedwerydd cais ei dîm o’r prynhawn cyn i Feinberg-M’zulu ychwanegu deubwynt pellach.

22.06.24 – Capiau Newydd Cymru – Jacob Beetham, Ellis Bevan, James Ratti ac Eddie James.

Wedi’r sgoriau hynny – sicrhaodd i fuddugoliaeth i Bencampwyr y Byd – daeth Eddie James, James Beetham a James Ratti i’r maes i Gymru – i ennill eu capiau cyntaf dros eu gwlad.

Y Springboks gafodd y gair olaf hefyd wrth i’r asgellwr Edwill van der Merwe redeg yn dywyllodrus a chelfydd o dan y pyst o 40 metr – eiliad bythgofiadwy i’r asgellwr 28 oed ar achysur ei gap cyntaf.

Colled arall i garfan ifanc Warren Gatland – ond nifer o agweddau cadarnhaol i’w hystyried hefyd – cyn i’r Prif Hyfforddwr gadarnhau pwy fydd ei gapten a’r 33 chwaraewr arall fydd yn teithio i Awstralia ddydd Mercher.

Canlyniad De Affrica 41  Cymru 13

Wedi’r chwiban olaf dywedodd Dewi Lake, Capten Cymru: “ Y peth mwyaf ‘ry’n ni wedi ei ddysgu heddiw yw bod yn rhaid i ni gymryd ein cyfleoedd. Fe lwyddon ni i greu llawer o sefyllfaoedd cadarnhaol heddiw – ond fe fethon ni â chymryd digon ohonyn nhw. Mae’n rhaid i ni wneud hynny yn erbyn timau o safon De Affrica – ac mae’n rhaid i ni wneud hynny ar y daith i Awstralia.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Colled i’r Cymry yn erbyn Pencampwyr y Byd yn Twickenham
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Colled i’r Cymry yn erbyn Pencampwyr y Byd yn Twickenham
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Colled i’r Cymry yn erbyn Pencampwyr y Byd yn Twickenham
Rhino Rugby
Sportseen
Colled i’r Cymry yn erbyn Pencampwyr y Byd yn Twickenham
Colled i’r Cymry yn erbyn Pencampwyr y Byd yn Twickenham
Colled i’r Cymry yn erbyn Pencampwyr y Byd yn Twickenham
Colled i’r Cymry yn erbyn Pencampwyr y Byd yn Twickenham
Colled i’r Cymry yn erbyn Pencampwyr y Byd yn Twickenham
Colled i’r Cymry yn erbyn Pencampwyr y Byd yn Twickenham
Amber Energy
Opro
Colled i’r Cymry yn erbyn Pencampwyr y Byd yn Twickenham