Mae’r canolwr Jenna De Vera a’r blaenasgellwr Jess Rogers wedi eu henwi’n gyd-gapteiniaid ar garfan sy’n cynnwys y cefnwr Nel Metcalfe – sydd eisoes wedi ennill 3 o gapiau llawn.
Bydd Metcalfe yn ymuno gyda’r garfan o dan 20 wedi gêm allweddol WXV prif dîm Cymru yn erbyn Sbaen ym Mharc yr Arfau ddydd Sadwrn y 29ain o Fehefin.
Mae’r garfan yn cynnwys y prop Maisie Davies, y clo Alaw Pyrs, y maswr Hanna Marshall, y mewnwr Seren Singleton a’r prop Cadi-Lois Davies wnaeth ymarfer gyda charfan lawn Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni.
Bu 21 o’r 30 o chwaraewyr sydd wedi eu dewis gan Burgess yn aelodau o garfanau Brython Thunder a Gwalia Lightning gystadlodd yn yr Her Geltaidd y tymor hwn.
Bydd tîm o dan 20 Menywod Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Ffrainc yn y Stadio Sergio Lanfranchi, Parma, ddydd Iau, y 4ydd o Orffennaf (9am ein hamser ni).
Dywedodd Liza Burgess: “Mae’n wych bod y gystadleuaeth hon yn digwydd ac mae’n argoeli i fod yn her gyffrous i aelodau’r garfan sydd wedi cael eu dewis.
“Mae tipyn o dasg yn ein wynebu ond mae cael y cyfle i chwarae rygbi rhyngwladol ar y lefel yma yn mynd i fod o fudd mawr i’r chwaraewyr a’r timau hyfforddi hefyd.
“Ry’n ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr at y gystadleuaeth.
“Mae Jenna De Vera a Jess Rogers wedi eu dewis i gyd-arwain y garfan. Mae gan y ddwy brofiad gwirioneddol a gwybodaeth – ac fe fyddan nhw’n arwain drwy esiampl ar y cae – ac oddi arno hefyd.
“Mae’r ffaith bod Nel am ymuno gyda ni’n newyddion gwych. Dim ond 19 oed yw hi o hyd ond bydd ei phrofiad o chwarae ar y prif lwyfan rhyngwladol yn hynod o werthfawr i ni.
“Bydd chwarae’n y Bencampwriaeth yn cynnig y cyfle iddi hi dreulio mwy o amser ar y cae – ac felly bydd hi’n elwa o’r profiad o fod gyda ni hefyd – wrth iddi edrych ymlaen at gemau rhyngwladol nesaf prif dîm rygbi Cymru.”
Carfan Menywod Cymru ar Gyfer Pencampwriaeth o dan 20 y Chwe Gwlad:
Blaenwyr:
Chloe Thomas Bradley (Brython Thunder)
Lowri Williams (Gwalia Lightning/ Prifysgol De Cymru)
Maisie Davies (Gwalia Lightning / Met Caerdydd)
Cana Williams (Prifysgol Loughborough)
Cadi Lois Davies (Brython Thunder)
Abi Meyrick (Heb glwb)
Mollie Crabb (Gwalia Lightning/ Met Caerdydd)
Molly Wakely (Brython Thunder)
Milly Summer Webb – Greenslade (Brython Thunder/ Met Caerdydd)
Erin Jones (Gwalia Lightning/ Met Caerdydd)
Alaw Pyrs (Gwalia Lightning/ Coleg Hartpury)
Robyn Davies (Coleg Hartpury)
Lily Terry (Cheltenham)
Lucy Isaac (Gwalia Lightning/ Met Caerdydd)
Catrin Stewart (Gwalia Lightning/ Met Caerdydd)
Jess Rogers (Met Caerdydd, cyd-gapten)
Olwyr:
Seren Singleton (Brython Thunder/ Met Caerdydd)
Katie Bevans (Brython Thunder/ Met Caerdydd)
Freya Bell (Harlequins)
Hanna Marshall (Coleg Hartpury)
Amy Williams Brython Thunder/ Met Caerdydd)
Jenna De Vera (Gwalia Lightning/ Bryste, cyd-gapten)
Molly Anderson Thomas (Gwalia Lightning/ Prifysgol Loughborough)
Ellie Tromans (Brython Thunder/ Prifysgol Caerdydd)
Savannah Picton Powell (Brython Thunder/ Met Caerdydd)
Kelsie Webster (Gwalia Lightning/ Coleg Hartpury)
Eleanor Hing (Brython Thunder/ Prifysgol Caerdydd)
Hannah Lane (Caernarfon)
Kim Thurlow (Gwalia Lightning/ Prifysgol Caerfaddon)
Nel Metcalfe (Hartpury-Caerloyw/ Prifysgol Hartpury)