Neidio i'r prif gynnwys
Ioan Cunningham

Ioan Cunningham

Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer WXV2 yn Ne Affrica

Mae Prif Hyfforddwr Menywod Cymru, Ioan Cunningham wedi enwi ei garfan o 30 i gystadlu yn y WXV2 yn Ne Affrica ym mis Medi a Hydref.

Rhannu:

Bydd Cymru’n wynebu Awstralia, Yr Eidal a Japan mewn tair gêm brawf dros dri phenwythnos yn Cape Town.

Y canolwr Hannah Jones fydd capten y garfan – sy’n cynnwys nifer o wynebau amlwg o’r fuddugoliaeth o 52-20 yn erbyn Sbaen yng Nghaerdydd fis Mehefin. Y canlyniad hwnnw sicrhaodd le Cymru yn ail haen y WXV.

Mae’r garfan yn cynnwys y clo Alaw Pyrs, y bachwr Rosie Carr a’r prop Maisie Davies – enillodd eu capiau cyntaf yn erbyn Yr Alban yng Nghaeredin ddechrau’r mis hwn. Y prop Jenni Scoble yw’r unig un sydd wedi ei chynnwys yn y garfan sydd heb ennill cap hyd yn hyn.

Mae Alaw Pyrs yn chwaer iau i’r prop Gwenllian, a gan i’r ddwy chwarae eu rhan ar y maes yn erbyn Yr Alban – nhw oedd y chwiorydd cyntaf i chwarae dros Gymru yn ystod yr un gêm, ers i’r efeilliaid Horgan herio Ffrainc yn 2008.

Fe gynrychiolodd Kayleigh Powell dîm Saith Bob Ochr Prydain yn y Gemau Olympaidd ym Mharis dros yr haf – ac mae hi’n dychwelyd i’r garfan fel maswr.

Bydd Cymru’n wynebu Awstralia yn Rodney Parade, Casnewydd, nos Wener yma, 20 Medi (7pm) yn eu gêm baratoadol olaf cyn teithio i Dde Affrica i herio’r Wallaroos yn eu gornest agoriadol.

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae’r WXV2 yn Ne Affrica’n argoeli i fod yn arbennig o gyffrous a chystadleuol ac ‘ry’n ni wedi dewis y garfan hon o 30 er mwyn gwneud ein gorau mas yna.

“Ry’n ni wedi gwobrwyo chwaraewyr sydd wedi creu argraff ar ein tîm hyfforddi yn ein sesiynau ymarfer diweddar – gan gadw llygad ar Gwpan y Byd hefyd wrth gwrs.

“Mae pob un o’n hyfforddwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd creu cystadleuaeth ar gyfer pob safle gan fod Cwpan y Byd yn Lloegr lai na blwyddyn i ffwrdd erbyn hyn.

“Mae Alaw, Maisie a Rosie yn enwedig wedi creu argraff arnom ni i gyd ac maen nhw’n haeddu’r cyfle hwn i chwarae ar y lefel uchaf.

“Jenni yw’r unig un sydd eto i ennill cap – ond roedd hi’n rhan o garfan y Chwe Gwlad y tymor diwethaf ac fe wnaeth argraff wrth gynrychioli Gwalia Lightning yn yr Her Geltaidd y tymor diwethaf.

“Bydd rhai chwaraewyr yn siomedig nad ydyn nhw wedi cael eu dewis wrth gwrs – ond mae’r drws yn dal ar agor, ac mae llawer o ddŵr i fynd o dan y bont cyn Cwpan y Byd gan bod amserlen heriol y Chwe Gwlad o’n blaenau cyn hynny.”

Carfan Cymru ar gyfer y WXV2

Blaenwyr: Gwenllian Pyrs, Abbey Constable, Maisie Davies, Carys Phillips, Molly Reardon, Rosie Carr, Sisilia Tuipulotu, Donna Rose, Jenni Scoble, Abbie Fleming, Natalia John, Georgia Evans, Alaw Pyrs, Alisha Butchers, Bryonie King, Alex Callender, Kate Williams, Beth Lewis.

Olwyr: Jenny Hesketh, Jasmine Joyce, Courtney Keight, Nel Metcalfe, Hannah Jones (captain), Hannah Bluck, Kerin Lake, Carys Cox, Lleucu George, Kayleigh Powell, Keira Bevan, Sian Jones.

Trefn Gemau WXV2 Cymru.

  • Awstralia v Cymru, Stadiwm DHL, Cape Town (11.30am), Sadwrn, Medi 28
  • Cymru v Yr Eidal, Stadiwm Athlone, Cape Town (3pm), Gwener, Hydref 4
  • Cymru v Japan, Stadiwm Athlone, Cape Town (3pm), Dydd Gwener, Hydref 11

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer WXV2 yn Ne Affrica
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer WXV2 yn Ne Affrica
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer WXV2 yn Ne Affrica
Rhino Rugby
Sportseen
Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer WXV2 yn Ne Affrica
Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer WXV2 yn Ne Affrica
Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer WXV2 yn Ne Affrica
Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer WXV2 yn Ne Affrica
Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer WXV2 yn Ne Affrica
Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer WXV2 yn Ne Affrica
Amber Energy
Opro
Cunningham yn enwi carfan Cymru ar gyfer WXV2 yn Ne Affrica