Neidio i'r prif gynnwys
Pob tocyn ar gyfer ymweliad Lloegr yn y Chwe Gwlad wedi eu gwerthu

Pob tocyn ar gyfer ymweliad Lloegr yn y Chwe Gwlad wedi eu gwerthu

Mae’n amlwg bod apêl croesawu Lloegr i Stadiwm Principality’n fyw ac yn iach gan bod pob tocyn ar gyfer gornest y dynion ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 ym mis Mawrth eisoes wedi eu gwerthu.

Rhannu:

Mae tocynnau gêm y Menywod yn erbyn yr ‘Hen Elyn’ –  yn yr un lleoliad – yn ddiweddarach yr un mis hefyd yn gwerthu’n arbennig o gyflym.

Fe werthwyd pob tocyn ar gyfer ymweliad tîm dynion Lloegr i Stadiwm Principality ar y 15ed o Fawrth o fewn 24 awr i’w rhyddhau heddiw (Gwener) ac mae dros 1000 o docynnau ar gyfer ymweliad y menywod ar y 29ain o fis Mawrth wedi eu gwerthu’n barod hefyd.

Mae disgwyl i bob un o’r 74,500 tocyn ar gyfer ymweliad dynion Iwerddon â’r Brifddinas werthu’n fuan. Dim ond ychydig filoedd sy’n weddill – gan gynnwys rhai am £40 yn unig i rai o dan 18 ac £80 i oedolion.

Mae tîm Menywod Cymru’n ceisio sicrhau record o dorf yn erbyn Lloegr fydd yn curo’r 10,594 ddaeth i’r Stadiwm i’w gwylio’n maeddu’r Eidal o 22-20 y tymor diwethaf.

Bydd eu gêm gartref arall yn erbyn Iwerddon yn cael ei chynnal yn Rodney Parade – sy’n dal 8,700 – felly brysiwch i brynu’ch tocynnau.

Bydd tri chyfle arall i wylio rygbi rhyngwladol yn Stadiwm Principality yn fuan hefyd gan bo Dynion Cymru’n croesawu Ffiji, Awstralia a De Affrica’n ystod Cyfres yr Hydref. Mae rhai tocynnau ar gael o hyd – gyda’r prisiau’n dechrau am £10 yn unig i rai o dan 18 ar gyfer ymweliad Ynyswyr Môr y De. £20 yw’r pris rhataf i oedolion ar gyfer yr ornest honno.

Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Mae’r ffaith bod dynion a menywod Lloegr yn ymweld â Stadiwm Principality ym Mhencampwriaethau Chwe Gwlad Guinness fis Mawrth nesaf yn tynnu dŵr i’r dannedd.

“Dyw hi’n ddim syndod o gwbl bod pob tocyn wedi gwerthu mor gyflym ar gyfer gêm y dynion ond mae’r ymateb a’r diddordeb yng ngornest y menywod hefyd wedi plesio’n fawr.

“Er bod ein Menywod wedi chwarae yn Stadiwm Principality o’r blaen wrth gwrs – mae crosawu Lloegr i Gaerdydd yn uchelgeisiol – ond gyda chefnogaeth arbennig i dimau’r Dynion a’r Menywod o bob cwr o’r wlad – mae’n rhaid i ni fod yn hyderus y bydd y gefnogaeth yn arbennig iawn i garfan Ioan Cunningham.

“Y gobaith clir yw cydio yn nychymyg y genedl fel bo timau’r Menywod a’r Dynion yn elwa o gefnogaeth ein cefnogwyr arbennig – cefnogwyr sy’n caru eu rygbi.”

Mae Tocynnau Cynnar ar gael i wylio Menywod Cymru’n herio Lloegr – gyda phrisiau CAT A (Haen Ganol) yn £15 i oedolion a £7.50 i rai o dan 18, CAT B (Haen Isaf) £10 i oedolion a £5 i rai o dan 18.

Gallwch fanteisio ar Gynnig Cynnar ar gyfer ymweliad Iwerddon â Rodney Parade (Ebrill 20fed) hefyd – gyda phrisiau i oedolion yn £10 a £5 i rai o dan 18. Mae’r prisiau’n berthnasol ar gyfer yr eisteddle a’r teras hefyd.

Gwybodaeth am docynnau a phrisiau ar gyfer gemau Chwe Gwlad Guinness 2025 y Dynion

Cymru v Iwerddon, Dydd Sadwrn 22ain Chwefror, Stadiwm Principality: 14:15
CAT A £ 130, CAT B £ 120, CAT C £ 115, CAT D £ 60, Di-Alc £80/Dan 18 £40

Tocynnau ar gael: URC. CYMRU/TOCYNNAU

Mae pecynnau lletygarwch Stadiwm Principality ar gael hefyd a gall cefnogwyr sy’n dymuno sicrhau profiad lletygarwch yn Stadiwm Principality ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 ymweld â wru.cymru/vip

Am brofiad Gwely a Brecwast yng Nghwesty’r Parkgate – mae mwy o wybodaeth yma: www.theparkgatehotel.wales

Mae pecynnau lletygarwch swyddogol oddi ar y safle ar gael hefyd drwy gwmni Events International eventsinternational.co.uk ac mae Pecynnau Teithio Swyddogol ar gael trwy Gullivers Sports Travel gulliverstravel.co.uk

Gellir dod o hyd i Gyfnewidfa Swyddogol Cefnogwyr URC ar gyfer tocynnau yma https://welshrugbyticketexchange.seatunique.com

Gwybodaeth am docynnau a phrisiau ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 y Menywod

Cymru v Iwerddon, Sadwrn 22ain o Chwefror, Rodney Parade, Casnewydd

Cat A – eistedd: £15/£7.50, Cat B – teras: £10/£5

CYNNIG CYNNAR (tan 01/01/25) £10/£5

Cymru v Lloegr, Sadwrn 15fed Mawrth, Stadiwm Principality

Cat A – Haen Canol: £20/£10, Cat B – Haen Isaf: £10/£5

CYNNIG CYNNAR (tan 01/01/25) CAT A (haen ganol) £15/£7.50, CAT B (haen isaf) £10/£5

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Pob tocyn ar gyfer ymweliad Lloegr yn y Chwe Gwlad wedi eu gwerthu
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Pob tocyn ar gyfer ymweliad Lloegr yn y Chwe Gwlad wedi eu gwerthu
Pob tocyn ar gyfer ymweliad Lloegr yn y Chwe Gwlad wedi eu gwerthu
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Pob tocyn ar gyfer ymweliad Lloegr yn y Chwe Gwlad wedi eu gwerthu
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Pob tocyn ar gyfer ymweliad Lloegr yn y Chwe Gwlad wedi eu gwerthu