Neidio i'r prif gynnwys
Hannah Jones

Jones yn dychwelyd i arwain Cymru’n erbyn yr Eidal yn y WXV2

Mae’r Prif Hyfforddwr Ioan Cunningham wedi enwi tîm Cymru i wynebu’r Eidal yn ail rownd y WXV2 yn Stadiwm Chwaraeon Athlone, Cape Town ddydd Gwener, 4 Hydref am 3pm amser Cymru.

Rhannu:

Ar ôl colli tair gêm o ganlyniad i anaf, mae’r canolwr Hannah Jones yn dychwelyd i fod yn gapten. Kerin Lake fydd ei phartner yng nghanol cae profiadol Cymru.

Mae Jasmine Joyce, yn symud o’r asgell i safle’r cefnwr gyda Carys Cox yn symud o’r canol i’r asgell. Bydd Nel Metcalfe yn parhau ar yr asgell arall.

Parhau fydd y bartneriaeth o safbwynt yr haneri gyda Cunningham yn cadw ffydd gyda Keira Bevan a Lleucu George.

Mae’r Prif Hyfforddwr hefyd yn rhoi cyfle arall i’r pac yn ei gyfanrwydd gan ddewis yr un wyth chwaraewr i ddechrau’r ail ornest o’r bron.

Mae’r prop Sisilia Tuipulotu, a gyrhaeddodd Cape Town ddydd Sul, wedi ei dewis ar y fainc.

Mae pedair o dîm o dan 20 Cymru wedi cael eu dewis ar y fainc i Gymru ddydd Gwener – y bachwr Molly Reardon, y clo Alaw Pyrs, y prop Maisie Davies a’r mewnwr Sian Jones.

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Ry’n ni wedi adolygu’r perfformiad yn erbyn Awstralia ac yn gwybod ble yn union y mae angen i ni wella ansawdd ein chwarae yn erbyn Yr Eidal.

“Fe wnaethon ni greu cyfleoedd da yn erbyn y Wallaroos ac mae angen i ni fod yn fwy clinigol a throi’r cyfleoedd hynny’n bwyntiau yn y gêm nesaf.

“Does dim llawer o amser rhwng y ddwy gêm gyntaf – ac ‘ry’n ni wedi gorfod delio gydag ambell gymhlethdod oddi-ar y cae hefyd – ond ‘ry’n ni’n canolbwyntio ar roi popeth yn ei le i sicrhau perfformiad yn erbyn Yr Eidal.

“Ry’n ni wedi pwysleisio’r ffaith bod angen dwyster corfforol gwirioneddol arnom – a hynny am yr 80 munud cyfan pan yn cael y fraint o wisgo’r crys coch.

“Bydd Yr Eidal yn brifo ar ôl iddyn nhw golli’n erbyn Yr Alban yn eu gêm agoriadol nhw. Wedi i ni gael ein curo gan Awstralia – bydd y ddau dîm yn teimlo bod ganddyn nhw bwynt i’w brofi brynhawn Gwener.

“Ry’n ni wedi ennill ein dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Yr Eidal yn y Chwe Gwlad, ond mae hon yn bencampwriaeth wahanol  ac mae’r amodau’n wahanol hefyd. Wedi dweud hynny – mae’r gemau hynod gystadleuol hyn yn y WXV2 yn rhoi syniad clir i ni o ble’r ‘ry’n ni arni ar hyn o bryd.

“Mae’n braf gallu croesawu Hannah Jones yn ôl fel capten ac mae hi’n ysu i chwarae ar ôl gorfod gwylio o’r eisteddle’n ddiweddar. Mae Sisilia gyda ni erbyn hyn hefyd – ac ‘ry’n ni’n gwybod yn iawn y gall hi greu argraff fawr oddi-ar y fainc wedi iddi fethu â chynrycholi Cymru am y tro cyntaf ers amser maith.”

Cymru i wynebu’r Eidal

Jasmine Joyce, Carys Cox, Hannah Jones (capten), Kerin Lake, Nel Metcalfe, Lleucu George, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Donna Rose, Natalia John, Georgia Evans, Alisha Butchers, Alex Callender, Bethan Lewis.

Eilyddion

Molly Reardon, Maisie Davies, Sisilia Tuipulotu, Alaw Pyrs, Kate Williams, Sian Jones, Kayleigh Powell, Courtney Keight.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Jones yn dychwelyd i arwain Cymru’n erbyn yr Eidal yn y WXV2
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Jones yn dychwelyd i arwain Cymru’n erbyn yr Eidal yn y WXV2
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Jones yn dychwelyd i arwain Cymru’n erbyn yr Eidal yn y WXV2
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Jones yn dychwelyd i arwain Cymru’n erbyn yr Eidal yn y WXV2