Neidio i'r prif gynnwys
Super Rygbi Cymru

Scott Matthews (left) and Billy McBryde feature highly in this week's figures

Gynnau ifanc a hen lwyfanwyr yn tanio yn SRC

Mae Prif Hyfforddwr tîm o dan 20 Cymru, Richard Whiffin wrth ei fodd gyda’r ffordd y mae Super Rygbi Cymru wedi cydio’r dychymyg ers ei sefydlu – a bydd yn cadw llygad barcud ar yr ornest rhwng Penybont ac Abertawe ar Faes y Bragdy heno.

Rhannu:

Mae’r bedwaredd rownd o gemau’n ail-adrodd gornestau’r penwythnos blaenorol a bydd Prif Hyfforddwr Penybont, Scott Baldwin yn gobeithio hawlio’r dwbl dros Abertawe – yn dilyn eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor – o 27-24 – ar Sain Helen dros y penwythnos.

Fe gafodd Whiffin, ei gyd-hyfforddwr Richie Pugh a rheolwr y tîm o dan 20, Andy Lloyd gyfle gwych dros y penwythnos i dystio ac ystyried perfformiadau nifer o chwaraewyr sydd o dan ystyriaeth ar gyfer eu carfan ryngwladol – yn ogystal â gwerthfawrogi datblygiad rhai o’u cyn-chwaraewyr gyda’r garfan o dan 20.

Dyweodd Richard Whiffin: “Mae oedran cyfartalog chwaraewyr y Super Rygbi Cymru gryn dipyn yn îs na’r hyn oedd e’ yn yr hen Uwch Gynghrair y tymor diwethaf – ac ‘ry’n ni’n arbennig o hapus bod y deg clwb a’r Rhanbarthau yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer y cynghrair newydd yma. Hyd yma – mae’r Super Rygbi Cymru yn gwneud yr hyn yr oeddem yn gobeithio y byddai’n ei wneud.”

“Fe lwyddodd capten Cwins Caerfyrddin, Tom Phillips, sydd hefyd yn hyfforddi tîm o dan 18 y Scarlets i grynhoi pethau’n berffaith pan ddywedodd ei bod hi’n braf iawn gweld llawer iawn o wynebau newydd y tymor yma – yn hytrach na’r un hen wynebau cyfarwydd.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gynnau ifanc a hen lwyfanwyr yn tanio yn SRC
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gynnau ifanc a hen lwyfanwyr yn tanio yn SRC
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gynnau ifanc a hen lwyfanwyr yn tanio yn SRC
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Gynnau ifanc a hen lwyfanwyr yn tanio yn SRC