Canada, un o’r ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth fydd yn cael ei chynnal yn Lloegr, fydd gwrthwynebwyr nesaf Cymru wedi hynny. Bydd yr ornest honno’n digwydd yn yr un lleoliad – am hanner dydd, Sadwrn, 30 Awst.
Bydd gêm olaf Cymru yng Ngrŵp B yn erbyn Ffiji ym Mharc Sandy, Caerwysg ddydd Sadwrn, y 6ed o Fedi am 2:45pm.
Ar y penwythnos agoriadol bydd Lloegr yn wynebu UDA yn y Stadium of Light yn Sunderland ddydd Gwener, 22 Awst 2025, tra bydd y Pencampwyr presennol, Seland Newydd yn dechrau eu hymgyrch i amddiffyn eu coron, yn erbyn Sbaen yng Nghaerefrog ddydd Sul, 24 Awst 2025.
Bydd Brasil – y tîm cyntaf o Dde America i hawlio’u lle yng Nghwpan Rygbi’r Byd i Fenywod yn gynharach eleni, yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn erbyn De Affrica yng Ngerddi Franklin yn Northampton ddydd Sul, 24 Awst 2025.
GWELER AMSERLEN LAWN Y GEMAU YMA >>
Bydd pum achlysur gyda gemau gefn wrth gefn yn cael eu cynnal yn ystod cyfnod y gemau grŵp, gan greu awyrgylch arbennig a diwrnod cyfan o fwynhau i deuluoedd cyfan. Y gobaith yw y bydd y gystadleuaeth hon yn Lloegr yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr rygbi merched a menywod.
Bydd y gemau grŵp yn dod i ben gyda phenwythnos enfawr o gemau ar draws pedwar lleoliad, gyda’r ddau dîm gorau o bob grŵp yn hawlio’u llefydd yn rownd yr wyth olaf.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cwpan Rygbi Menywod y Byd 2025, Sarah Massey: “Mae cyhoeddi amserlen gemau Cwpan y Byd yn hynod o gyffrous i’r holl gefnogwyr. Mae pobl o bedwar ban y byd yn gosod y dyddiadau yn eu dyddiaduron er mwyn profi cystadleuaeth sydd yn mynd i newid rygbi menywod am byth.
“Mae’r llwyfan wedi’i osod ar gyfer timau gorau’r byd i arddangos y gorau un sydd gan rygbi menywod i’w gynnig ac mae hynny’n hynod o gyffrous. Os ydych yn gefnogwr brwd yn barod – neu’n newydd i’r gamp – ymunwch gyda ni ar gyfer y gystadleuaeth fythgofiadwy hon.”
Gyda 95% o’r boblogaeth yn Lloegr yn byw o fewn dwy awr i leoliad gêm, bydd gan gefnogwyr gyfle gwych i weld sêr mwyaf y byd rygbi yn arddangos eu doniau. Mae’r dinasoedd sy’n cynnal y gemau yn paratoi’n barod i groesawu cefnogwyr o bob cornel o’r byd er mwyn cynnig blas lleol a llawen i bob ymwelydd.
Bydd cyfle i gefnogwyr wneud cais am docynnau ar gyfer pob gêm o 11:00 (GMT) ddydd Mawrth 5 Tachwedd tan 11:00 (GMT) ddydd Mawrth 19 Tachwedd. Bydd system bleidleiso’n cael ei defnyddio ar gyfer unrhyw gategorïau prisiau sy’n derbyn gormod o geisiadau. Gall cefnogwyr gofrestru i fod y cyntaf i glywed am newyddion tocynnau yma.
Cyn y cyfnod ymgeisio am docyn pythefnos mae Mastercard (sy’n bartner ledled y byd) yn cynnig mynediad i docynnau blaenoriaeth 48 awr i’w haelodau ar gyfer pob gêm o 11:00 (GMT+1) heddiw tan 11:00 (GMT+1) ddydd Iau 24 Hydref yn tickets.rugbyworldcup.com. Dim ond taliadau Mastercard fydd yn cael eu derbyn yn ystod y cyfnod blaenoriaeth hwn.