Neidio i'r prif gynnwys
Richard Whiffin

Wales U20 head coach Richard Whiffin speaks to the Wales players at the end of the match

Tîm o dan 20 Cymru’n cyhoeddi gemau yn erbyn yr Academïau o dan 23 oed

Mae tîm o dan 20 Cymru wedi cadarnhau dwy gêm yn erbyn Academïau o dan 23 oed Cymru fis nesaf, wrth iddynt baratoi ar gyfer eu hymgyrch Chwe Gwlad yn y flwyddyn newydd.

Rhannu:

Bydd tîm Richard Whiffin yn herio Academïau Cymru ym Mharc yr Arfau Caerdydd ar Ionawr 10 ac wythnos yn ddiweddarach, Banc yr Eglwys yn Llanymddyfri fydd yn cynnal yr ail ornest.

Dywedodd Richard Whiffin, Prif Hyfforddwr tîm o dan 20 Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o’r cydweithio sy’n digwydd gyda’r rhanbarthau – maen nhw’n rhoi cyfle i ni gael cwpl o gemau yn erbyn gwrthwynebwyr anodd a safonol iawn.”

Bydd yr Academïau Cymreig yn cael eu hyfforddi gan Gareth Williams o’r Scarlets a byddant yn cynnwys rhai o chwaraewyr gorau’r rhanbarth sy’n cymryd rhan yn Super Rygbi Cymru, ynghyd â rhai chwaraewyr alltud hefyd.

Ychwanegodd Whiffin: “Mae’n wych i ni gael cwpl o gemau cartref gan ei fod yn gyfle i nifer o’n chwaraewyr ddangos eu doniau a rhoi cur pen i ni fel tîm hyfforddi, cyn i ni ddewis ein timau ar gyfer gemau agoriadol y Chwe Gwlad.

“Mae hefyd yn ffordd wych i’r rhai sydd bellach yn rhy hen i’n cynrychioli ni, i ddangos i brif dimau’r rhanbarthau o’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig.

“Mae’n rhaid i mi ddiolch yn ddiffuant i’r rhanbarthau am eu parodrwydd i gydweithio a chefnogi’n llwybr datblygu. Mae’r academïau rhanbarthol yn deall bod angen i ni gydweithio ac rwy’n credu bod y ffaith eu bod yn cynnig eu chwaraewyr a’u hyfforddwyr i helpu i sicrhau bod y tîm dan 23 hwn ar gael i’n herio – yn brawf ymarferol o hynny – ac mae hynny’n cael ei werthfawrogi’n fawr.

“Ry’n ni wedi trefnu’r ddwy gêm arbennig yma am ddau reswm. Yn amlwg roedden ni eisiau darparu gwrthwynebwyr o safon ar gyfer ein bechgyn ni ac mae’r ffaith fod y tîm o dan 23 yn hŷn ac yn cynnig her corfforol heriol tu hwnt i ni’n mynd i fod yn werthfawr iawn ar gyfer ein gemau cyntaf yn y Chwe Gwlad yn Ffrainc a’r Eidal – sy’n ddwy ornest hynod o gorfforol yn draddodiadaol.

“Roedden ni hefyd eisiau cynnig cyfle i’r chwaraewyr hynny sydd bellach yn rhy hen i chwarae i’r tîm o dan 20 i gael cyfle arall i gynrychioli eu gwlad ar lefel benodol – fel y gallant  roi eu dwylo lan ar gyfer anrhydeddau rhanbarthol a chenedlaethol yn y dyfodol.”

Bydd tîm dan 20 Cymru yn teithio i Ffrainc a’r Eidal cyn chwarae eu gêm gartref gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Rodney Parade ddydd Gwener 21 Chwefror yn erbyn Iwerddon. Yna byddant yn teithio i’r Alban cyn cwblhau eu hymgyrch yn erbyn Lloegr ym Mharc yr Arfau Caerdydd ddydd Gwener 14 Mawrth.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm o dan 20 Cymru’n cyhoeddi gemau yn erbyn yr Academïau o dan 23 oed
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tîm o dan 20 Cymru’n cyhoeddi gemau yn erbyn yr Academïau o dan 23 oed
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm o dan 20 Cymru’n cyhoeddi gemau yn erbyn yr Academïau o dan 23 oed
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Tîm o dan 20 Cymru’n cyhoeddi gemau yn erbyn yr Academïau o dan 23 oed