Wrth i fis Ionawr gyrraedd – ‘rwyf bellach wedi bod wrth y llyw gydag Undeb Rygbi Cymru ers blwyddyn gron bellach.
Wedi chwe mis cyntaf fy nghyfnod – ym mis Mehefin – fe wnaethom lansio ein strategaeth newydd ar gyfer y gêm yng Nghymru – sef ‘Cymru’n Un… Lle mae rygbi yn bwysicach’.
Yn ystod y chwe mis diwethaf rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn ar y systemau a’r strwythurau sy’n sail i’r strategaeth a’r cynlluniau ariannol hefyd, fydd yn ein gweld yn cyflawni ein hamcanion allweddol yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Mae’r gwaith wedi dechrau’n barod a dylem gael ein barnu neu’n canmol am yr hyn y byddwn yn ei gyflawni erbyn 2029.
Rydym wedi cael ein beirniadu am beidio â rhoi’r holl gig ar yr esgyrn wedi i ni gyhoeddi prif egwyddorion y strategaeth – ond y gwir amdani yw nad ydym wedi bod yn sefyll yn llonydd ac mae pob elfen eisoes yn ei lle – oni bai am un elfen allweddol.
Mae ein gêm broffesiynol yn rhan mor bwysig o’n cynllun strategol fel bod angen i ni sicrhau bod gennym ein Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA) newydd yn ei le cyn y gallwn symud ymlaen.
Pan fydd y cytundeb newydd gyda’r Rhanbarthau wedi ei gadarnhau – ac ‘rwy’n disgwyl i hynny ddigwydd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd – byddwn wedyn mewn sefyllfa i symud ymlaen yn gyflym iawn wedi hynny.
I fod yn glir – mae hyn yn golygu cytundeb newydd gyda’r pedwar clwb rhanbarthol presennol.
Byddwn yn cynyddu eu cyllid ac elfennau eraill i’w cefnogi i lefelau a fydd yn eu galluogi i sicrhau llwyddiant a chynaliadwyedd erbyn 2029 ac ymhell wedi hynny hefyd.
Rwy’n gwybod bod rhai pobl yn anghytuno â’r penderfyniad a’r safbwynt i gynnal pedwar clwb rhanbarthol a pheidio â lleihau’r niferoedd. Rwy’n deall y dadleuon hynny ond ‘rwy’n gwbl ddi-ffuant fod y penderfyniad cywir wedi’i wneud.
Mae’r penderfyniad wedi ei wneud – ac wrth gwrs mae perffaith ryddid i chi anghytuno gyda’r penderfyniad hwnnw – ond dyna’r llwybr yr ydym am ei ddilyn. Fe ddaethom i’r casgliad hwnnw wedi cyfnod trylwyr o holi, trafod ac ymchwilio. Bydd y manylion llawn yn cael eu datgelu mewn da bryd.
‘Rydym eisoes wedi gwneud newidiadau cadarnhaol i’n llwybr datblygu ac mae cyflwyno Super Rygbi Cymru wedi bod yn ddatblygiad cyffrous i glybiau yng Nghymru ac ar ein sgriniau teledu – yn enwedig dros gyfnod y Nadolig. Bydd y twf hwn mewn safonau a datblygiad yn talu ar ei ganfed i ni ymhell i’r dyfodol a gellir dweud yr un peth am yr Her Geltaidd yng ngêm y Menywod hefyd.
Rydym hefyd wedi dechrau ymgynghori â’n clybiau sy’n aelodau ar fodel newydd ar gyfer rhannu’r cyllid yn y gêm gymunedol er mwyn sicrhau bod ein clybiau ar lawr gwlad yn parhau i gryfhau ac esblygu mewn modd sy’n gweddu i gamp sy’n cynrychioli ein cenedl… Lle mae rygbi yn bwysicach fyth!
Ar y llwyfan rhyngwladol bydd gennym Brif Hyfforddwr newydd ar gyfer tîm Menywod Cymru yn fuan iawn. Bydd gennym ddwy gêm gartref gyffrous yn y Chwe Gwlad eleni – un yn erbyn Iwerddon yn Rodney Parade a’r llall yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Principality lle rydym yn disgwyl y dorf fwyaf erioed ar gyfer gêm gartref ein Menywod i fod yno. Bydd hwn yn dipyn o achlysur – a bydd newyddion pellach am y digwyddiad hwn yn cael ei gyhoeddi’n y dyfodol agos.
Ond cyn hynny bydd tîm ein Dynion ym dod at ei gilydd ymhen pythefnos yn dilyn cyfnod prysur a chyffrous i’r Rhanbarthau dros gyfnod y Nadolig. Rwy’n gwybod bod Warren Gatland yn awchu ar gyfer her y Chwe Gwlad ac mae’r ffaith y bydd y Llewod yn teithio i Awstralia dros yr haf yn sicr o roi rhyw awch ychwanegol i gemau’r Bencampwriaeth eleni. Wedi dweud hynny – bydd Warren ei hun yn canolbwyntio’n llwyr ar ein gêm gyntaf ni ym Mharis ddiwedd y mis.
Wrth edrych ymlaen – fe gawsom gyfle i edrych yn ôl ar chwarter canrif o fodolaeth ein Stadiwm Genedlaethol trwy gyfrwng rhaglen ddogfen arbennig ar BBC Cymru yr wythnos ddiwethaf.
Treuliodd y criwiau teledu flwyddyn gyda staff Undeb Rygbi Cymru er mwyn adlewyrchu cyffro y digwyddiadau amrywiol a rhyfeddol a gynhaliwyd gennym yn 2024. Mae’n fy llenwi â balchder mawr i feddwl fod y cyhoedd wedi cael cipolwg ar waith ein staff arbennig sy’n galluogi i ddigwyddiadau mawr ddigwydd yn ein stadiwm.
O Taylor Swift yn siarad Cymraeg ar lwyfan Stadiwm Principality i hen gist bêl-droed wedi’i llofnodi gan Robert Earnshaw mewn cwpwrdd tanddaearol, mae gan y rhaglen ddogfen rywbeth i bawb.
Wrth gloi, hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd. Rwyf fi a staff yr Undeb yn gwneud ein gorau i sicrhau y bydd 2025 yn flwyddyn gofiadwy i deulu rygbi Cymru.
Blwyddyn Newydd Dda
Abi Tierney